Comisiynu a Datgomisiynu Rhwydweithiau Nwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chomisiynu a datgomisiynu rhwydweithiau nwy.
Gall fod yn berthnasol i unrhyw fath o nwy tanwydd neu gyfuniadau o nwy tanwydd gan gynnwys nwy naturiol, LPG, hydrogen cyfunol neu 100%, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Mae’n cynnwys dehongli gwybodaeth dechnegol, dewis cydrannau ac adnoddau, defnyddio technegau stopio llif, cysylltu a datgysylltu cynhyrchion neu asedau peirianneg, cwblhau dogfennau a delio â phroblemau. Bydd y gweithgareddau hyn fel arfer yn cynnwys arweinyddiaeth a chyfeiriad aelodau tîm a gwneud penderfyniadau ynghylch y dull i’w ddefnyddio wrth wneud y gwaith.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gweithgareddau rhwydwaith nwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli dimensiynau, hyd, lled a meintiau gofynnol o fanylebau technegol perthnasol a chyfarwyddiadau gwaith
- dehongli safleoedd cywir cyfleustodau, peiriannau, is-strwythurau, adeiladau, cyrbiau a ffiniau eraill a fydd yn effeithio ar gysylltiadau
- dewis y math o gydrannau yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a manylebau technegol
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol i ddisodli cydrannau diffygiol, cydrannau nad ydynt yn cyfateb a chydrannau is-safonol
- gwirio a sicrhau bod digon o lafur, peiriannau, offer, deunyddiau a nwyddau traul ar gael ar gyfer y gwaith
- ymateb yn ddi-oed i newidiadau gwirioneddol a disgwyliedig i'r defnydd a gynlluniwyd o adnoddau fel bod gofynion gwaith yn cael eu bodloni
- pennu'r dulliau a'r technegau cywir i'w defnyddio i fodloni meini prawf dylunio yn seiliedig ar wybodaeth hysbys ac amgylchiadau safle
- cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol a defnyddio mesurau rheoli yn unol â pholisi sefydliadol wrth i'r gwaith fynd rhagddo
- dewis, gwirio cyflwr cyfarpar diogelu personol priodol, ei ddefnyddio a'i storio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio a chadarnhau bod y cloddiadau o faint digonol a bod eu cyflwr yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau gwaith a manylebau technegol
- sicrhau bod cyfarwyddiadau gwaith, gweithdrefnau gweithredol awdurdodedig ac awdurdodiadau ar waith cyn dechrau ar y gwaith
- cymryd rhagofalon sy'n atal difrod i gydrannau, offer a chyfarpar
- cefnogi ac angori asedau peirianneg sydd wedi’u gosod yn unol â manylebau technegol
- defnyddio technegau cysylltu a stopio llif awdurdodedig i gysylltu â systemau presennol a’u datgysylltu oddi wrthynt yn unol â chyfarwyddiadau gwaith
- gwneud yr holl waith yn unol â dogfennau gweithdrefn awdurdodedig a gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol
- rhoi gwybodaeth am fanylebau technegol i bobl eraill pan fydd ei hangen, gan wirio a chadarnhau dealltwriaeth o'r wybodaeth a ddarperir i'r derbynwyr a ganddynt
- cwblhau dogfennau gwaith yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb eich hun at bobl ddynodedig yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r gweithiwr o dan ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch a diogelu’r amgylchedd, a sut mae cydymffurfio â nhw
- llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
- nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer codi a chario a pheryglon gweithdrefnau codi a chario annigonol
- ystod a defnydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd gwaith, gweithdrefnau ar gyfer gwneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben a phwysigrwydd ei wisgo
- deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol sy’n ymwneud â deunyddiau peryglus a pheryglon posibl systemau nwy gwasgedd canolig, canolraddol neu uchel ac asedau cyfleustodau eraill
- dulliau gwahanol o gael gafael ar fanylebau technegol o ddogfennau cyfeirio, llawlyfrau, rheoliadau, codau ymarfer, asesiadau risg a datganiadau dull a sut i’w dehongli
- sut i ddehongli cyfarwyddiadau gwaith gan gynnwys lluniadau, cofnodion, awdurdodiadau gwaith a gwybodaeth arall sy'n benodol i brosiect
- pwysigrwydd cynnal ac adolygu asesiadau risg ar y safle a sut i wneud hynny
- pwysigrwydd cydymffurfio â safonau cyfredol y diwydiant, gofynion statudol, rheoliadau a chodau ymarfer a pholisi a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer eu bodloni, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chofnodi a rhoi gwybod am ddamweiniau ac argyfyngau
- peryglon posibl ceudodau, ffosydd a chloddiadau a'r ffactorau sy'n effeithio ar eu haddasrwydd, gan gynnwys camau gweithredu sy'n gallu creu mannau cyfyng
- y gwahanol fathau o ddulliau cysylltu ac offer atal llif y gellir eu defnyddio, a goblygiadau a chyfyngiadau eu defnyddio ar wahanol ddeunyddiau pibellau a chyfundrefnau gwasgedd
- pwysigrwydd defnyddio technegau, offer, deunyddiau a chydrannau system cywir a namau tebygol pan fyddant yn anghywir
- yr ystod o ddulliau ynysu sydd ar gael a'r rhesymeg dros eu dewis
- pwysigrwydd cael y caniatâd angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau, datgysylltu neu ynysu unrhyw ran o’r rhwydwaith, y weithdrefn ar gyfer cael gafael arno a goblygiadau peidio â’i gael
- y mathau a’r achosion o darfu sy’n debygol, mesurau osgoi, yr ystod o gamau i’w cymryd os na all gwaith fynd rhagddo a sut i benderfynu ar gamau adfer diogel priodol
- y mathau a’r arwyddion o ddiffyg sy'n debygol o fod yn bresennol ar is-system a ffyrdd o benderfynu ar gamau priodol a diogel i gywiro'r sefyllfa
- sut i gyfleu gwybodaeth dechnegol i eraill mewn ffordd sy'n addas i'r derbynnydd, y math o wybodaeth a'r ffordd y caiff ei defnyddio
- technegau i wirio dealltwriaeth pobl eraill ac egluro ei ddealltwriaeth ei hun o wybodaeth dechnegol a chyfarwyddiadau gwaith
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad ac i bwy y dylid rhoi gwybod iddynt am broblemau gan gynnwys anghywirdebau mewn ffynonellau gwybodaeth dechnegol, difrod neu ddiffygion i gyfarpar, offer neu ddeunyddiau a gwaith sy'n anghyflawn neu heb fod yn unol â’r amserlen