Pennu’r dull ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith nwy penodol
URN: EUSGNC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Nwy,Adeiladu Rhwydwaith Aml-Ddefnyddioldeb
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu a dadansoddi gweithgareddau gwaith penodol ar asedau rhwydweithiau nwy i bennu'r dull gweithredu sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau gofynnol.
Gall fod yn berthnasol i unrhyw fath o nwy tanwydd neu gyfuniadau o nwy tanwydd gan gynnwys nwy naturiol, LPG, hydrogen cyfunol neu 100%, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Mae hyn yn cynnwys cadarnhau amcanion gwaith, dadansoddi goblygiadau amodau safle a gofynion technegol, cynnal asesiadau risg, pennu datganiadau dull a dilyniannau gweithredol a briffio’r rheini sy’n ymwneud â chyflawni’r gwaith am y gofynion.
Mae'r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm ar weithgareddau rhwydwaith nwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu amcanion y gwaith gan ddefnyddio dogfennau perthnasol y cwmni a chyfarwyddiadau gwaith
- cadarnhau unrhyw gyfyngiadau perthnasol a allai effeithio ar y broses o gyflawni'r gwaith
- archwilio'r safle a chofnodi unrhyw ffactorau neu ofynion technegol penodol a allai effeithio ar y ddarpariaeth
- sefydlu unrhyw ofynion penodol o ran offer, deunyddiau neu beiriannau ar gyfer y gwaith
- dewis, gwirio cyflwr, defnyddio a storio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- defnyddio offer profi atmosfferig cymeradwy i sefydlu bod amgylcheddau'n ddiogel i fynd iddynt
- cynnal a chofnodi asesiadau risg penodol i’r safle yn unol â gweithdrefnau’r diwydiant a’r cyflogwr ei hun i sicrhau darpariaeth ddiogel
- dilyn a chynnal arferion gweithio ac amgylcheddol diogel yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol drwy gydol y gwaith
- llunio datganiadau dull a dilyniannau gweithredol sy’n cydymffurfio â’r holl weithdrefnau maes wrth ddarparu’r ffurfweddiad mwyaf effeithlon
- sicrhau bod yr holl drwyddedau ac awdurdodau sy’n ofynnol i wneud gwaith yn eu lle ac yn ddilys cyn i’r gwaith ddechrau
- cofnodi gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau cymeradwy'r diwydiant a'r cyflogwr ei hun
- disgrifio datganiadau dull, dilyniant gweithgareddau ac unrhyw ffactorau penodol y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohonynt, i bawb sy'n ymwneud â’r gwaith
- nodi ac ymateb i broblemau sydd o fewn terfynau eich cyfrifoldeb eich hun.
- nodi a rhoi gwybod i bobl ddynodedig am broblemau sydd y tu hwnt i'w gyfrifoldeb ei hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith, gan gynnwys iechyd a diogelwch, diogelu’r amgylchedd a thrin deunyddiau peryglus a phrif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r gweithiwr dan y ddeddfwriaeth
- llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y sefydliad
- terfynau eich cyfrifoldeb eich hun
- diben asesiadau o amodau'r safle, y math o amodau y maent yn eu hasesu a sut i'w cyflawni
- gweithdrefnau cofnodi ac adrodd ar ddamweiniau'r sefydliad
- yr ystod a'r defnydd o gyfarpar diogelu mae ei angen arnoch i gyflawni’r gwaith
- goblygiadau trothwyon atmosfferig a'r camau i'w cymryd i sefydlu bod amgylcheddau'n ddiogel i fynd iddynt
- gweithdrefnau a phrosesau'r cwmni ar gyfer rhoi gwybod am broblemau
- sut i ddarllen a dehongli gweithdrefnau gweithredol a chael gafael ar gyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr/cyflenwyr i wneud yn siŵr bod offer a chyfarpar yn addas i'r diben ac yn ddiogel i'w defnyddio
- y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer cynnal asesiadau risg
- sut i ddarllen a dehongli cyfarwyddiadau a lluniadau trydydd parti ar gyfer gofynion technegol penodol
- y trwyddedau a'r awdurdodau sy'n ofynnol a sut i gael gafael arnynt a'u dehongli
- y dilyniant o brosesau a thechnegau y mae angen eu dilyn a'u defnyddio i gwblhau'r gwaith yn llwyddiannus
- diben datganiadau dull, sut i lunio un, a'r hyn y mae angen iddo ei gynnwys gan gynnwys agweddau profi a chomisiynu
- sut i leihau risgiau i'r hunan ac eraill wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith
- cyfarwyddiadau gwaith, systemau a dogfennau gwybodaeth ac adrodd y cwmni a sut mae adnabod a rhoi gwybod am gyfarwyddiadau a dogfennau gwaith anghywir
- sut mae asesu’r llwybr mwyaf addas ar gyfer pibellau ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau
- sut mae sicrhau bod y safle’n cael ei ddiogelu cymaint â phosibl
- y gwahanol fathau a chategorïau o sefyllfaoedd brys a a allai ddigwydd a sut i ymateb iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSGNC015
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Nwy
Cod SOC
Geiriau Allweddol
nwy, LPG, hydrogen, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, technegol, gofynion technegol, datganiad dull, dilyniant gweithredol, adeiladu, gweithrediadau