Adfer Gwaith Cloddio ac Arwynebau Palmentydd ar gyfer Gweithrediadau Safleoedd ar Waith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy

URN: EUSGNC008
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol ar gyfer dehongli cyfarwyddiadau, cynllunio, trefnu a defnyddio arferion gweithio diogel tra'n paratoi ac yn adfer cloddiadau ac arwynebau'r ffordd fawr a phalmentydd yn dilyn gweithrediadau safleoedd, drwy ddefnyddio deunyddiau'r is-radd, is-sail a'r sail ar gyfer y ffordd briodol a thrwy ddethol deunyddiau arwyneb gan gynnwys arwynebau bitwminaidd 'cold-lay' a modiwlar.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pedair elfen:
1. paratoi ar gyfer adfer cloddiadau ac arwyneb palmentydd ar weithrediadau safleoedd 
2. adfer cloddiadau ac arwyneb palmentydd 
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
4. datrys problemau sy'n deillio o'r gwaith o adfer


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi ar gyfer adfer cloddiadau ac arwyneb palmentydd ar weithrediadau safleoedd

1. cadarnhau lleoliad y cloddiad, ceudwll a'r ffosydd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau'r gwaith
2. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg
4. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
5. cyflawni gweithgareddau diogel sy'n gysylltiedig â gweithio yng nghyffiniau deunyddiau peryglus
6. cadarnhau'r gwaith adeiladu hyblyg, cyfansoddol, anhyblyg a modiwlar ar balmentydd, ymylon a'r ddaear naturiol i'w hadfer a'u bod yn cydymffurfio â'r Codau Ymarfer statudol a rheoliadol
7. cynnal gweithdrefnau paratoi ar gyfer adfer cloddiadau yn unol â'r Codau Ymarfer statudol a rheoliadol
8. defnyddio gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol i bennu'r gofyniad ar gyfer cefnogi'r cloddiad
9. diogelu cyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau yn unol â'r Codau Ymarfer perthnasol
10. cadarnhau bod cyflwr y deunyddiau newydd a deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer ôl-lenwi, is-sail, sail ar gyfer y ffordd ac arwyneb palmentydd, a deunyddiau 'cold-lay' i'w defnyddio ar gyfer y gwaith adfer yn addas at y diben ac yn cydymffurfio â Chodau Ymarfer statudol a rheoliadol
11. dethol a chadarnhau'r cyfarpar a reolir â llaw a'r cyfarpar pŵer sy'n addas ar gyfer y deunyddiau i'w defnyddio ar gyfer y gwaith adfer yn unol â manylebau'r gwneuthurwr a gofynion gweithredol 
12. rhoi gwybod am waith adfer cloddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth deiliad y swydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol

Adfer cloddiadau ac arwyneb palmentydd 

13. cynnal amodau a diogelwch y cloddiadau drwy gydol y gweithrediadau adfer yn unol â gofynion gweithredol a rheoliadol
14. cynnal y gweithdrefnau gosod a chywasgu ar gyfer y deunyddiau priodol ar gyfer yr ardal a'r math o strwythur a gaiff ei adfer er mwyn cydymffurfio â'r Codau Ymarfer statudol a rheoliadol 
15. rhoi gwybod am ddiffygion yn y gwaith o osod a chywasgu deunyddiau sydd y tu hwnt i reolaeth deiliad y swydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol
16. ailosod gwaith haearn, cyrbiau a chyfyngiadau ymylon yn unol â'r Codau Ymarfer perthnasol
17. storio a gwaredu deunyddiau sy'n weddill yn unol â chyfarwyddiadau'r gwaith a Chodau Ymarfer statudol a rheoliadol
18. cwblhau'r gwaith drwy wirio a chadarnhau ansawdd a chyflwr y gwaith adfer terfynol a safle'r gwaith a chydymffurfio â Chodau Ymarfer statudol a rheoliadol 
19. cynnal yr holl waith yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

20. defnyddio cofnodion i bennu cloddiadau dwfn, mannau cyfyngedig a deunyddiau peryglus posibl
21. defnyddio'r wybodaeth yn y cyfarwyddiadau ar gyfer y gwaith a'r fanyleb i bennu safle'r gwaith a'r ardal i'w chloddio
22. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
23. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth

Datrys problemau sy'n deillio o'r gwaith cloddio

24. rhoi gwybod am unrhyw niwed i gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau i'r person dynodedig 
25. cynghori cydweithwyr neu reolwyr am sefyllfaoedd lle y mae angen iddynt ymyrryd
26. datrys problemau o fewn maes dyletswydd y swydd 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyffredinol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith,
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg sy'n benodol i'r safle
4. sut i adolygu asesiadau risg a defnyddio'r mesurau rheoli priodol 
5. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
6. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
7. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
8. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol a'u pwysigrwydd ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
9. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng

Adfer Cloddiadau

10. dyletswyddau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y ddeddfwriaeth a'r Codau Ymarfer, a sut i gydymffurfio â nhw ar gyfer gwaith ar ffyrdd a strydoedd newydd ar gyfer gwaith adfer cloddiadau
11. y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r gwaith adfer cloddiadau
12. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin cyfarpar y gwaith adfer 
13. mathau gwahanol o arwynebau palmentydd gan gynnwys palmentydd hyblyg, cyfansoddol, anhyblyg a modiwlar
14. gofynion yr is-arwyneb ar gyfer pob math o arwyneb palmentydd
15. gweithdrefnau paratoi gan gynnwys torri ymylon, ffurfio arwynebau, gwaredu gweddillion rhydd, gwybodaeth am atgyweiriadau
16. y mathau o ddeunyddiau cloddio mewn cloddiadau a diffygion posibl, gan gynnwys ôl-lenwi, is-sail, sail ar gyfer y ffordd ac arwyneb palmentydd 
17. y camau unioni i'w cymryd os gwelir unrhyw ddiffygion
18. y mathau o gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau y gellir dod ar eu traws gan gynnwys cyfleustodau ac asiantaethau eraill
19. dulliau diogelu pob cyfarpar cyflenwi ac is-strwythur 
20. dulliau gwahanu'r deunyddiau gwahanol gan gynnwys ôl-lenwi, is-sail, sail ar gyfer y ffordd ac arwyneb palmentydd
21. y dulliau ar gyfer gwirio cyflwr y deunyddiau i'w hail-ddefnyddio 
22. manylebau ar gyfer arwyneb, is-arwyneb a deunyddiau adfer cyffredinol gan gynnwys deunyddiau main-lenwi; deunyddiau ôl-lenwi; is-seiliau gronynnog; deunydd cloddio sy'n defnyddio sment, deunyddiau sail ffyrdd; deunyddiau sail ffyrdd bitwminaidd; deunyddiau arwynebu; llwybrau concrid; arwynebu modiwlar; 'cold lay',
23. dulliau storio neu ddiogelu deunydd cloddio i atal dirywiad
24. sut i ddethol, gwirio, defnyddio a chynnal y cyfarpar a reolir â llaw, cyfarpar pŵer a'r cyfarpar eraill a ddefnyddir ar gyfer gwaith adfer
25. deddfwriaeth yn rheoli'r defnydd o gyfarpar a reolir â llaw, cyfarpar pŵer a chyfarpar eraill
26. gweithdrefnau ac arferion gweithio diogel ar gyfer gwaith cloddio gan gynnwys gofynion amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, gweithredol, cydymffurfiaeth ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, gweithdrefnau priodol cwmni ac asesiadau risg
27. sut i dynnu cyfarpar cynnal ffosydd oddi yno tra'n ailosod y cloddiad  
28. rolau a dyletswyddau pobl yn y tîm gweithrediadau'r ffordd fawr
29. strwythurau rheoli safle ar gyfer gweithrediadau'r ffodd fawr
30. pwysigrwydd atgyfeirio problemau sydd y tu allan i ddyletswydd y swydd i bobl ddynodedig
31. gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am gynydd y gwaith, problemau a gwyriadau i raglenni'r gwaith a'u cofnodi
32. y deunyddiau a bennir yn dderbyniol i'w defnyddio ar gyfer ôl-lenwi, sail ar gyfer y ffordd ac arwyneb palmentydd gan gynnwys elfennau 'cold lay'
33. y mathau o weadeddau arwyneb gan gynnwys gweadedd hyblyg, cyfansoddol, anhyblyg a modiwlar, ymylon a'r ddaear naturiol 
34. y mathau o gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cywasgu deunyddiau gan gynnwys cyfarpar a reolir â llaw a chyfarpar pŵer ynghyd â chyfarpar modur
35. sut i roi gwybod am unrhyw ollyngiadau o danwydd ac ireidiau, a'u hatal rhag gwasgaru yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r cwmni 
36. y gofynion cynnal a chadw ar gyfer cyfarpar cywasgu
37. y dulliau i'w defnyddio ar gyfer cywasgu deunyddiau a gaiff eu hadfer 
38. y mathau o waith adfer, gan gynnwys tyllau, ffosydd ac arwyneb
palmentydd
39. diffygion cyffredin mewn gwaith adfer gan gynnwys difrod i aneddiad ac arwyneb a chamau unioni
40. y rhesymau dros sicrhau y caiff deunyddiau eu storio dan yr amodau cywir


Cwmpas/ystod

​Cyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau- y cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill, gwasanaethau uwchben y ddaear a thanddaearol, strwythurau adeiledig a'r amgylchedd naturiol (e.e. sylfeini, gwreiddiau coed a chyrsiau dŵr naturiol)


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUS GNC008

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, adfer, ailosod, palmentydd, cloddio