Cyflwyno tystiolaeth lafar am dorri rheoliadau ffitiadau dŵr ac is-ddeddfauyn y llys LEGACY
URN: EUSFRBE5L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno tystiolaeth am dorri rheoliadau ffitiadau dŵr yn y llys. Mae’n golygu defnyddio'r ymddygiad a ddisgwylir gan y llys, gan gynnwys defnyddio'r dulliau cywir o gyfarch pobl. Mae hefyd yn cynnwys siarad yn glir ac esbonio manylion technegol mewn ffordd y mae pobl annhechnegol yn gallu ei deall a chyflwyno tystiolaeth sy'n gyson â'r manylion ysgrifenedig sy’n ymdrin â'r achos o ddiffyg cydymffurfio dan sylw.
Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau
dŵr sy'n cyflwyno tystiolaeth yn y llys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y ffordd rydych chi’n edrych ac yn ymddwyn yn y llys yn cydymffurfio â'r hyn y mae’r llys rydych chi’n ymddangos ynddo yn ei ddisgwyl gennych
2. cyflwyno tystiolaeth mewn ffordd glir a dealladwy - rhoi tystiolaeth sy'n gyson â chynnwys manylion ysgrifenedig yr achos
4. delio â chwestiynau mewn modd gonest a diduedd, gan ddefnyddio iaith gryno ac eglur
5. ateb cwestiynau penodol gydag esboniadau technegol perthnasol y gall personél annhechnegol eu deall
6. gwahaniaethu’n glir rhwng ffaith a barn, ac, os gofynnir i chi fynegi barn, sicrhau bod gennych chi’r arbenigedd i ymateb i hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manylion yr achos, gan gynnwys dyddiad, amser, unigolion, enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad a welwyd, gweithdrefn gyfreithiol
2. rheoliadau ffitiadau dŵr a goblygiadau ehangach diffyg cydymffurfiad
3. sut mae cymhwyso rheoliadau ffitiadau dŵr i systemau plymio gwahanol - beth sy’n cael ei ystyried yn dorri rheoliadau mewn gwahanol fathau o systemau plymio
- beth sy'n cael ei ystyried yn ymddangosiad ac yn ymddygiad derbyniol ar gyfer ymddangos yn y llys
6. gweithdrefnau a dulliau o gyfarch yn y llys - sgiliau cyfathrebu o ran siarad a gwrando
- sut mae rhoi esboniadau technegol mewn ffordd annhechnegol
- cyfrifoldebau fel tyst
10. terfynau arbenigedd personol a pham ei bod yn bwysig gwybod beth ydynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Etifeddiaeth
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Enrergy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWFRBE5
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Adeiladwaith ac Adeiladu (nad ydynt wedi’u dosbarthu mewn man arall), Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
dŵr; rheoliadau; is-ddeddfau; llys