Cyflwyno tystiolaeth lafar am dorri rheoliadau ffitiadau dŵr ac is-ddeddfauyn y llys

URN: EUSFRBE5
Sectorau Busnes (Suites): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno tystiolaeth am dorri rheoliadau ffitiadau dŵr yn y llys. Mae’n golygu defnyddio'r ymddygiad a ddisgwylir gan y llys, gan gynnwys defnyddio'r dulliau cywir o gyfarch pobl.   Mae hefyd yn cynnwys siarad yn glir ac esbonio manylion technegol mewn ffordd y mae pobl annhechnegol yn gallu ei deall a chyflwyno tystiolaeth sy'n gyson â'r manylion ysgrifenedig sy’n ymdrin â'r achos o ddiffyg cydymffurfio dan sylw.  

Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau 
dŵr sy'n cyflwyno tystiolaeth yn y llys. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. sicrhau bod y ffordd rydych chi’n edrych ac yn ymddwyn yn y llys yn cydymffurfio â'r hyn y mae’r llys rydych chi’n ymddangos ynddo yn ei ddisgwyl gennych   
2. cyflwyno tystiolaeth mewn ffordd glir a dealladwy
3. rhoi tystiolaeth sy'n gyson â chynnwys manylion ysgrifenedig yr achos 
4. delio â chwestiynau mewn modd gonest a diduedd, gan ddefnyddio iaith gryno ac eglur 
5. ateb cwestiynau penodol gydag esboniadau technegol perthnasol y gall personél annhechnegol eu deall 
6. gwahaniaethu’n glir rhwng ffaith a barn, ac, os gofynnir i chi fynegi barn, sicrhau bod gennych chi’r arbenigedd i ymateb i hynny 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. manylion yr achos, gan gynnwys dyddiad, amser, unigolion, enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad a welwyd, gweithdrefn gyfreithiol
2. rheoliadau ffitiadau dŵr a goblygiadau ehangach diffyg cydymffurfiad
3. sut mae cymhwyso rheoliadau ffitiadau dŵr i systemau plymio gwahanol 
4. beth sy’n cael ei ystyried yn dorri rheoliadau mewn gwahanol fathau o systemau plymio  
5. beth sy'n cael ei ystyried yn ymddangosiad ac yn ymddygiad derbyniol ar gyfer ymddangos yn y llys 
6. gweithdrefnau a dulliau o gyfarch yn y llys
7. sgiliau cyfathrebu o ran siarad a gwrando 
8. sut mae rhoi esboniadau technegol mewn ffordd annhechnegol 
9. cyfrifoldebau fel tyst
10. terfynau arbenigedd personol a pham ei bod yn bwysig gwybod beth ydynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Enrergy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWFRBE5

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladwaith ac Adeiladu (nad ydynt wedi’u dosbarthu mewn man arall), Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

dŵr; rheoliadau; is-ddeddfau; llys