12. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
13. Sut i gadarnhau bod y gwaith o osod yr elfennau, cyfarpar, gwasanaethau a'r systemau nwy yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant.
14. Dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel i ddatgomisiynu systemau neu elfennau nwy a thrydan
15. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
16. Y rhagofalon i sicrhau nad yw cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
17. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
18. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
19. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, canfod diffygion trydanol ac ail-gomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
20. Sut i gynnal y broses o ganfod diffygion trydanol. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer elfennau o'r system nwy er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â dyluniad y system a'r diben bwriadedig
21. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith er mwyn:
21.1. ail-gysylltu â gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
21.2. cysylltu cyfarpar nwy ac elfennau i systemau nwy, dŵr, trydan, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
22. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer cyfarpar, systemau nwy ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
23. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer ail-gomisiynu cyfarpar nwy, systemau nwy a systemau trydanol yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
24. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy domestig, systemau nwy ac elfennau'n gweithredu ac yn perfformio'n gywir
a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio
25. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy domestig, systemau nwy ac elfennau'n gweithredu ac yn perfformio'n gywir a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
26. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau'r canlynol:
26.1. pwyseddau gweithredu'r system nwy
26.2. pwyseddau gweithredu'r cyfarpar a'r gyfradd nwy
27. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy fel y bo angen
28. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
29. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion er mwyn eu gadael gyda deiliad yr eiddo ar gyfer ail-gomisiynu cyfarpar a systemau. Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
30. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad systemau ac elfennau ailosod i ddefnyddwyr terfynol
31. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
32. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
33. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylcheddau yn ddiogel
34. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy