Dadgomisiynu, gosod a chomisiynu cyfarpar gwresogi gwagleoedd domestig â nwy
4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses gosod ddomestig
5. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
6. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
7. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
8. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, gosod a chomisiynu'r system nwy gan gynnwys y gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
9. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
10. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
11. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi’r gweithgarwch datgomisiynu, gosod a chomisiynu
12. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
13. Sut i fesur a chofnodi manylion y gwaith gosod a'r safle at ddibenion rhag-gynhyrchu
14. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaethau a'r systemau yn ddigonol er mwyn gosod y cyfarpar nwy newydd, y system nwy a'r elfennau
15. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaeth a'r system yn ddigonol er mwyn gosod y system neu ychwanegu elfennau
16. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
17. Y gweithdrefnau diogel ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
18. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
19. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
20. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
21. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu, gosod, lleoli ac atgyweirio tanau nwy domestig, gwresogyddion wal, systemau nwy ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
22. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu:
22.1 er mwyn mewnosod gwasanaethau gan gynnwys; systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau
22.2 tanau nwy domestig, gwresogyddion wal ac elfennau ar gyfer systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
23. Y broses a'r gweithdrefnau diogel, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
24. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer comisiynu tanau nwy domestig, gwresogyddion wal, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
25. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod tanau nwy domestig, gwresogyddion wal, systemau nwy ac elfennau yn gweithredu ac yn perfformio'n gywir a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio
26. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod tanau nwy domestig, gwresogyddion wal, systemau nwy ac elfennau'n gweithredu ac yn perfformio'n gywir a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
27. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau'r canlynol:
27.1. pwyseddau gweithredu'r system nwy
27.2. pwysedd gweithredu'r cyfarpar a chyfradd nwy
28. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
29. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
30. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion gosod a chomisiynu er mwyn eu gadael gyda'r eiddo Y mesurau i atal cyfarpar a systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
31. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad tanau nwy domestig, gwresogyddion wal, systemau nwy ac elfennau i ddefnyddwyr terfynol
32. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
33. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
34. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel
35. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy