Profi tyndra a chliriad uniongyrchol nwy
URN: EUSDSG3.6
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer peirianwyr nwy a fydd yn cynnal y profion tyndra a chliriad uniongyrchol ar gyfer gosodiadau nwy naturiol (domestig) bach. Mae'r safon hwn hefyd yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, datgomisiynu a chomisiynu gosodiadau nwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer profion tyndra a chlirio uniongyrchol
1. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
2. Arolygu'r safle gwaith, cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol, am unrhyw ddifrod neu ddiffygion i'r nodweddion adeiladu sydd eisoes yn bodoli a'u cofnodi
3. Cynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ganfyddir a chytuno ar y gwaith a gynllunir
4. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o gynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
5. Cadarnhau bod lleoliad y cyflenwad nwy a'r ddarpariaeth o system awyru yn bodloni'r gofynion ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
6. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau, cyfarpar a'r cyfarpar ar gyfer profion ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
7. Cadarnhau bod y cyflenwad nwy, cyflenwad daearu a'r ddarpariaeth o system awyru yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
8. Cynnal yr holl wiriadau a'r profion angenrheidiol er mwyn cadarnhau bod y cyflenwad nwy yn bodloni gofynion y diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
9. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen
Profion tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer elfennau a systemau nwy yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
10. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y pibellau yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
11. Cynnal yr holl waith paratoi ar gyfer y profion tyndra a chlirio uniongyrchol er mwyn cydymffurfio â safonau'r diwydiant
12. Gwirio y bydd amodau o fewn system nwy yn sicrhau y gellir cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol yn ddiogel
13. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
14. Mesur, cyfrifo a chofnodi cyfaint gosodiadau'r system nwy ar gyfer profion tyndra a chlirio uniongyrchol
15. Sicrhau bod y system awyru ar gyfer y profion tyndra a chlirio uniongyrchol yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant
16. Symud elfennau nwy sydd eisoes yn bodoli oddi yno yn ôl y gofyn
17. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
18. Cynnal y profion tyndra a chlirio uniongyrchol er mwyn lleihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu
19. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb y system yn ôl safonau'r diwydiant
20. Dilyn gweithdrefnau cymeradwy os bydd y gosodiad yn methu'r prawf tyndra
21. Defnyddio gweithdrefnau clirio er mwyn cadarnhau cyflenwad diogel o nwy i'r system a'r cyfarpar nwy a osodwyd
22. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i wetihredu'r system nwy, falfiau a'r elfennau yn gywir a darparu copi o unrhyw lenyddiaeth ar eu cyfer
23. Cymryd camau gweithdredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau ac elfennau nwy drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol i safonau'r diwydiant
24. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu a phrosesau profi tyndra a chlirio uniongyrchol i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
25. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau cymwys gwneuthurwr ar gyfer system nwy a'r cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
26. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
27. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
28. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau y caiff profion tyndra a chlirio uniongyrchol eu cynnal yn ddiogel ar gyfer systemau ac elfennau nwy
29. Cwblhau cofnodion datgomisiynu'r system nwy
Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
30. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a daearu
31. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy yn yr achosion canlynol:
31.1 lle y bydd gwiriadau a phrofion cyn ymgymryd â phrofion tyndra a chlirio uniongyrchol yn datgelu diffygion mewn systemau neu elfennau nwy
31.2 lle nad yw systemau ac elfennau nwy a gaiff eu profi am dyndra a chliriad yn bodloni'r gofyniad dylunio
31.3 lle na ellir adfer yr elfennau na'r system nwy i'w perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Profion tyndra a chlirio uniongyrchol
4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y prosesau o gynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
5. Mynediad diogel a gweithio gydag uchderau gan gynnwys darparu mynediad diogel i weithio gydag uchderau, neu mewn mannau cyfyngedig
6. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
7. Y cyfarpar, deunyddiau ac elfennau sydd eu hangen ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
8. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
9. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
10. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o gynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
11. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi'r gweithgarwch o gynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol
12. Sut a ble i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
13. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau neu elfennau nwy
14. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu systemau nwy dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
15. Y rhagofalon i sicrhau nad yw'r systemau nwy sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
16. Y mesurau i atal systemau nwy sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
17. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y system nwy
18. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu a chynnal profion tyndra a chlirio uniongyrchol lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
19. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
20. Y mathau o ddeunyddiau a gosodiadau pibellau sy'n addas er mwyn cario nwy gan gynnwys tiwbio dur, haearn hydrin, copr, dur gloyw gwrymiog, polyethylen a phlwm
21. Y mathau o osodiadau pibellau sy'n addas er mwyn cario nwy gan gynnwys uniadau capilari, cywasgu, gweithio i'w gosod, ar y cyd ac sydd wedi'u sgriwio
22. Arferion y diwydiant a safonau'r gwaith ar gyfer y deunyddiau a'r gosodiadau uno sy'n addas i gario nwy, gan gynnwys cysylltu â phrif bibellau cyfansawdd
23. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
24. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu:
24.1 er mwyn mewnosod gwasanaethau gan gynnwys; systemau nwy, daearu ac awyru
24.2 pibellau, falfiau ac elfennau ar gyfer systemau a chyfarpar nwy newydd ac sydd eisoes yn bodoli
25. Sut i gadarnhau bod y cyflenwad nwy a'r system awyru yn ddigonol ar gyfer datgomisiynu, cynnal prawf tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer y system nwy, cyfarpar a'r elfennau
26. Sut i fesur, cyfrifo a chofnodi cyfaint gosodiadau'r system nwy ar gyfer profion tyndra a chlirio uniongyrchol
27. Y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra i systemau, elfennau a chyfarpar nwy
28. Y gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb y system nwy newydd a'r cyfarpar sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys
29. Y gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb y system nwy sydd eisoes yn bodoli a'r cyfarpar sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys er mwyn sicrhau nad yw'r gosodiad yn uwch nag uchafswm y pwysedd a ganiateir
30. Cydnabod setiau rheoleiddio pwysedd canolig lle y mae uchafswm y pwysedd gweithredu (MOP) yn allanfa'r falf rheolaeth frys (ECV) yn uwch na 75mbar ond nid yw'n uwch na 2bar, a ph'un a gaiff falf mewnfa mesurydd (MIV) ei osod
31. Gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb systemau nwy lle y mae uchafswm y pwysedd gweithredu (MOP) yn allanfa'r falf rheolaeth frys (ECV) yn uwch na 75mbar ond nid yw'n uwch na
2bar, a lle y caiff falf mewnfa mesurydd (MIV) ei osod neu beidio
32. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer olrhain ac atgyweirio nwy yn gollwng
33. Y broses, y gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol er mwyn clirio elfennau, cyfarpar a systemau nwy yn uniongyrchol
34. Yr arferion a'r dilyniannau er mwyn clirio elfennau, cyfarpar a systemau nwy yn uniongyrchol
35. Yr arferion a'r dilyniannau er mwyn comisiynu elfennau, falfiau a systemau nwy i safonau'r diwydiant
36. Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
37. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion profion tyndra a chlirio uniongyrchol er mwyn eu gadael gyda deiliad yr eiddo
38. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad elfennau a systemau nwy i ddefnyddwyr terfynol
39. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
40. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
41. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylcheddau yn ddiogel
42. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Gosodiadau nwy naturiol bach" yn cyfeirio at Systemau ac Elfennau Nwy Naturiol domestig o falf rheolaeth frys (ECV). Bydd gan y gosodiad y canlynol; uchafswm y pwysedd gweithredu (MOP) yn allanfa'r ECV nad yw'n uwch na 2mbar, pwysedd gweithredu (OP) yn allanfa'r mesurydd cynradd o 21mbar (nominal), tryfesur nominal nad yw'n fwy na 35mm, uchafswm y capasiti graddedig drwy'r mesurydd cynraff o 16m3/h (U16), ac uchafswm y cyfaint gosod (IV) yn cyflenwi annedd unigol neu safleoedd annomestig o 0.035m3
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle y caiff y gwaith ei gynnal a'r holl arfaloedd a fydd y gwaith yn effeithio arnynt
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.6
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
nwy, tyndra, profion, uniongyrchol, clirio, cyfleustod, cyfleustodau