Gosod pibellau nwy hyd at 35mm
URN: EUSDSG3.5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer peirianwyr nwy sydd angen gosod, cyfnewid a thynnu pibellau nwy hyd at 35mm oddi yno yn unol â'r Safonau Prydeinig presennol. Mae'r safon hwn yn cwmpau'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, gosod, cyfnewid, datgysylltu, datgomisiynu a chomisiynu pibellau nwy hyd at 35mm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer pibellau nwy hyd at 35mm
1. Nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cwsmer yn unol â gofynion statudol a gofynion y diwydiant
2. Arolygu safle'r gwaith ac edrych ar ddiagramau safle fel y bo angen ar gyfer unrhyw nodweddion strwythurol pwysig a diffygion sy'n bodoli a allai effeithio ar y gwaith o'u gosod a'u cofnodi, gan gynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ddarganfyddir
3. Gwirio bod lleoliad arfaethedig y cyfarpar yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoli, gosod a chlirio
4. Gwirio bod maint, lleoliad ac argaeledd yr holl wasanaethau mewnbwn angenrheidiol yn bodloni gofynion safonau gwneuthurwr a diwydiant y cyfarpar ar gyfer y gwaith gosod
5. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
6. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a gosod
7. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
8. Cadarnhau bod addasrwydd y gwasanaethau a'r systemau yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
9. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen
Datgomisiynu pibellau nwy hyd at 35mm yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
10. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a daearu yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
11. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
12. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a daearu
13. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw
cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
14. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system ddaearu oddi yno yn barhanol fel y bo angen
15. Ar ôl symud pibellau nwy oddi yno'n barhaol, dylid marcio unrhyw bibellau nwy â hysbysiad er mwyn nodi bod y bibell yn cynnwys nwy
Gosod, cyfnewid a thynnu pibellau nwy hyd at 35mm oddi yno yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
16. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni'r gofynion gosod
17. Cynnal y prosesau gosod er mwyn lleihau'r difrod
18. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch gosod
19. Symud elfennau o systemau nwy a daearu sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y cynllun gosod
20. Cynhyrchu elfennau, gosodiadau a system nwy yn ôl gofyn y cynllun gosod
21. Lleoli'r pibellau a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau gwneuthurwr a diwydiant y cyfarpar
22. Darparu system awyru ddigonol ar gyfer gosodiadau a systemau pibellau newydd neu ailosodiadau fel y bo angen
23. Darparu cymorth digonol ar gyfer gosod pibellau er mwyn cydymffurfio â manyleb safonau'r diwydiant
24. Lleoli a diogelu gosodiadau'r pibellau mewn waliau a thrwyddynt ac mewn anheddau ag aml-ddeiliaid er mwyn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer sianeli llawes a sianeli sydd wedi'u dylunio'n bwrpasol ynghyd â siafftiau
25. Lleoli a diogelu gosodiadau allanol er mwyn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ac i fodloni'r gofynion gan gynnwys diogelu rhag difrod mecanyddol mewn gosodiadau is na'r ddaear â'r isafswm dyfnder.
26. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
27. Atgyweirio a chysylltu pibellau, falfiau, gosodiadau ac elfennau nwy i'r cyflenwad
28. Marcio unrhyw bibellau nwy â hysbysiad er mwyn nodi bod y bibell yn cynnwys nwy
29. Gosod falf rheolaeth frys (AECV) ychwanegol i'r cyflenwad fel y bo angen e.e. gosodiadau metr a reolir o bell
30. Cysylltu elfennau o'r system ddaearu i'r cyflenwad fel y bo angen
Comisiynu a chomisiynu pibellau nwy hyd at 35mm ymlaen llaw yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
31. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y pibellau yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
32. Gwirio y bydd amodau o fewn system nwy yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
33. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
34. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra a chlirio i gadarnhau uniondeb y system nwy a osodwyd ar osodiad(au) sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys
35. Defnyddio gweithdrefnau clirio er mwyn cadarnhau cyflenwad diogel o nwy i'r system nwy a osodwyd
36. Defnyddio gweithdrefnau profion trydanol i gadarnhau uniondeb y system ddaearu a osodwyd fel y bo angen
37. Defnyddio gorchudd diogelu i'r pibellau a'r uniadau fel y bo angen ar ôl cwblhau'r broses o brofi tyndra'r nwy.
38. Ail-gadarnhau bod y gofynion awyru yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
39. Gwirio a chadarnhau gweithrediad yr elfennau a'r falfiau nwy a osodwyd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
40. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i wetihredu'r system nwy, falfiau a'r elfennau yn gywir a darparu copi o unrhyw lenyddiaeth ar eu cyfer
41. Cymryd camau gweithdredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu
42. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, gosod a chomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
43. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau cymwys gwneuthurwr ar gyfer system nwy a'r cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
44. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
45. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
46. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau bod elfennau a systemau nwy yn cael eu comisiynu'n ddiogel
47. Cwblhau cofnodion datgomisiynu'r system nwy
Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu
48. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a daearu
49. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy:
49.1 lle y mae gwiriadau a phrofion comisiynu ymlaen llaw yn datgelu diffygion mewn system nwy neu elfennau
49.2 lle nad yw systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofyniad dylunio
49.3 lle na ellir adfer yr elfennau na'r system nwy i'w perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Datgomisiynu, Gosod a chomisiynu pibellau nwy hyd at 35mm
4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses gosod ddomestig
5. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
6. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
7. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
8. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu'r system nwy gan gynnwys y gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
9. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
10. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
11. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi’r gweithgarwch datgomisiynu, gosod a chomisiynu
12. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
13. Sut i fesur a chofnodi manylion y gwaith gosod a'r safle at ddibenion rhag-gynhyrchu
14. Sut i gadarnhau bod gofynion y cyflenwad nwy a'r systemau ddaearu yn ddigonol er mwyn gosod y system nwy a'r elfennau newydd neu, i ymestyn y system neu ychwanegu elfennau
15. Sut i gadarnhau bod darparu system awyru yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod gan gynnwys gwagleoedd, siafftiau a dwythellau
16. Sut i gyfrifo maint cywir y pibellau er mwyn sicrhau y caiff cyn lleied o bwysedd ag sy'n bosibl ei golli ar draws y gosodiad
17. Gwiriadau a phrofion i gadarnhau addasrwydd y cyflenwad nwy a'r system ddaearu, gan gynnwys gosod a lleoli'r bondiau unbotensial
18. Dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel ar gyfer datgomisiynu systemau nwy, systemau daearu ac elfennau dros dro ac yn barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
19. Y rhagofalon i sicrhau nad yw'r systemau nwy a daearu sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
20. Y mesurau i atal systemau nwy sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
21. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y system nwy
22. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
23. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
24. Y mathau o ddeunyddiau a gosodiadau pibellau sy'n addas er mwyn cario nwy
25. Arferion y diwydiant, safonau'r gwaith a rhagofalon diogelwch ar gyfer y deunyddiau a'r gosodiadau uno sy'n addas i gario nwy, gan gynnwys cysylltu â phrif bibellau cyfansawdd, gan gynnwys gofynion COSHH
26. Arferion a dulliau'r diwydiant o ran deunyddiau pibellau a all blygu sy'n addas i gario pibellau nwy a chopr i bellteroedd mesuredig penodedig i gynnwys y canlynol;
26.1 setiau dwbl/plygion
26.2 plygion 90 gradd
26.3 setiau cranc/plygion croes
27. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
28. Gosod pibellau nwy i sicrhau ei bod yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant ar gyfer; gofynion lleoli a chlirio a'r berthynas â gwasanaethau eraill
29. Arferion y diwydiant a safonau gwaith er mwyn darparu cymorth digonol ar gyfer gosod pibellau er mwyn bodloni gofynion safonau'r diwydiant
30. Y dulliau lleoli, diogelu ac atgyweirio ar gyfer elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu mewn:
30.1 lloriau
30.2 dwythellau
30.3 drwy waliau
30.4 wedi'u claddu mewn waliau
30.5 adeiladau amlddeiliadaeth
30.6 siafftiau a ddiogelir sy'n cynnwys grisiau, lifftiau neu unrhyw lwybrau dianc eraill mewn tân a ddiogelir
31. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer gosodiadau pibellau o fewn lloriau mewn daliant a lloriau dist gan gynnwys dulliau codi a disodli estyll llawr a sglodfwrdd
32. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer gosod pibellau mewn lloriau concrid
33. Gosod a diogelu gosodiadau allanol er mwyn bodloni gofynion safonau'r diwydiant e.e. diogelu rhag difrod mecanyddol, isafswm dyfnder is na'r ddaear ac ati
34. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu:
34.1 er mwyn mewnosod gwasanaethau gan gynnwys; systemau nwy, daearu ac awyru b) pibellau, falfiau ac elfennau ar gyfer systemau a chyfarpar nwy newydd ac sydd eisoes yn bodoli
35. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith er mwyn sicrhau y caiff y pibellau nwy cywir eu nodi
36. Y broses a'r gweithdrefnau diogel, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer elfennau, systemau a chyfarpar nwy
37. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio gweithrediad a pherfformiad cywir elfennau, falfiau a systemau nwy a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
38. Yr arferion a'r dilyniannau er mwyn comisiynu elfennau, falfiau a systemau nwy
39. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion gosod a chomisiynu er mwyn eu gadael gyda'r eiddo
40. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad elfennau, falfiau a systemau nwy i ddefnyddwyr terfynol
41. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
42. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
43. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel
44. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Pibellau Nwy" yn cyfeirio at y pibellau addas i gario nwy; Copr, Dur, Haearn Hydrin, Tiwbio dur gloyw gwrymiog Hyblyg, Pibellau Polyethylen a Phlwm, gan gynnwys Gosod/Cysylltu deunyddiau Cysylltiedig.
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.5
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
gosod, gosodiad, nwy, pibellau, 35, cyfleustod, cyfleustodau