Cynnal a chadw cyfarpar system gynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb
URN: EUSDSG3.4
Sectorau Busnes (Suites): Adsefydlu Troseddwyr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer peirianwyr nwy sydd angen cynnal a chadw cyfarpar cynhesu dŵr domestig a gwres canolog gwlyb ac mae'n cynnwys yr amrywiaeth canlynol o gyfarpar: Gwresogyddion Dŵr Enydaidd a Boeleri Gwres Canolog Gwlyb. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, cynnal a chadw, datgomisiynu a chomisiynu'r cyfarpar hwnnw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer cynnal a chadw cyfarpar cynhesu dŵr a chyfarpar gwres canolog gwlyb
1. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
2. Arolygu'r safle gwaith am unrhyw ddifrod neu ddiffygion cyn ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw i'r nodweddion adeiladu sydd eisoes yn bodoli a'u cofnodi
3. Cynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ganfyddir a chytuno ar y gwaith a gynllunnir
4. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a chynnal a chadw
5. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
6. Gwirio a chadarnhau bod lleoliad y cyfarpar yn cydymffurfio bodlonio gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoliad a chliriadau
7. Cadarnhau bod y gwasanaethau a'r systemau yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
8. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen
Datgomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i fodloni safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
9. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
10. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
11. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
12. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
13. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system drydanol oddi yno yn barhanol fel y bo angen
Cynnal a chadw cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i fodloni safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
14. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni'r gofynion cynnal a chadw a gaiff eu hamlinellu yn y cynllun
15. Symud elfennau o systemau nwy a thrydan sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y gweithgarwch cynnal a chadw a gynlluniwyd
16. Cyflawni'r broses cynnal a chadw yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant gan ofalu er mwyn lleihau'r difrod
17. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch y gwaith cynnal a chadw
18. Ail-leoli'r cyfarpar a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
19. Cadarnhau system awyru bresennol y cyfarpar a bod y system yn bodloni gofynion y diwydiant er mwyn cynnal y gwaith gosod
20. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
21. Ailgysylltu elfennau o systemau nwy a thrydan i'r cyfarpar
22. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra, clirio a thrydanol i gadarnhau uniondeb y system a'r cyfarpar a ail-gysylltwyd
23. Defnyddio gweithdrefnau gwirio a phrofi safonol i gadarnhau uniondeb y system simneiau bresennol a seliau ffliw y cyfarpar
Comisiynu a Chomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb ymlaen llaw i fodloni safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
24. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y cyfarpar yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a'r Safonau Adeiladu
25. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
26. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
27. Gwirio a chadarnhau bod pwyseddau gweithredu'r system nwy a phwysedd gweithredu a chyfradd nwy y cyfarpar yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant a gofynion y gwneuthurwr
28. Gwirio'r perfformiad hylosgi'n weledol a dadansoddi nwyon ffliw fel y bo angen
29. Profi perfformiad systemau ac ail-gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
30. Ail-gadarnhau bod lleoliad y system gwaredu cyddwyso yn cydymffurfio â gofynion safonau gwneuthurwr a diwydiant y cyfarpar, fel y bo angen
31. Gwirio a chadarnhau gweithrediad yr elfennau, system a'r cyfarpar a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
32. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i weithredu’r cyfarpar a'r system nwy yn gywir a darparu copi o lenyddiaeth cyfarpar ar eu cyfer
33. Cymryd camau gweithdredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
34. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, cynnal a chadw ac ail-gomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y swydd
35. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
36. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
37. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
38. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau bod elfennau, systemau a chyfarpar nwy yn cael eu cynnal a chadw'n ddiogel
39. Cwblhau cofnodion comisiynu a datgomisiynu cyfarpar a'r system nwy fel y bo angen a sicrhau y cânt eu storio'n ddiogel
Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
40. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
40.1 lle y mae gwiriadau a phrofion cyn ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw yn datgelu diffygion mewn cyfarpar nwy, system nwy neu elfennau
40.2 lle nad yw cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofynion dylunio
40.3 lle na ellir adfer yr elfennau na'r system nwy i'w perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb ymlaen llaw
4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses cynnal a chadw domestig
5. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
6. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
7. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
8. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu'r system nwy – gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
9. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
10. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
11. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi'r gweithgarwch datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
12. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
13. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaetha a'r systemau yn ddigonol ar gyfer cyfarpar, systemau neu elfennau nwy sydd eisoes yn bodoli
14. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
15. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol yn ddiogel gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
16. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
17. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy a phryd i ymgysylltu â nhw
18. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
19. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu mewn;
19.1 cypyrddau sychu
19.2 adrannau
19.3 gwagleoedd yn y to
19.4 gosodiadau allanol
20. Arferion y diwydiant a gofynion y gwneuthurwr er mwyn lleoli a gosod draen cyddwyso ar gyfer boeleri cyddwyso
21. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu er mwyn mewnosod gwasanaethau a systemau
22. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith er mwyn cysylltu cyfarpar ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i wasanaethau a systemau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli
23. Y prosesau a'r gweithdrefnau diogel ar gyfer cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer cyfarpar, systemau nwy ac elfennau
24. Yr arferion a'r dilyniannau i'w dilyn ar gyfer cynnal a chadw cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb domestig, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
25. Yr arferion a'r dilyniannau er mwyn ail-gomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb domestig, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
26. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio'r canlynol:
26.1 gweithrediad a pherfformiad cywir cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb yn erbyn y fanyleb dylunio ac er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
26.2 bod perfformiad dŵr cynnes cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a boeleri cyfunol yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr gan gynnwys sicrhau bod cyfradd pwysedd a llif digonol ac y caiff y tymereddau cywir eu cyflawni
27. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau pwyseddau gweithredu'r system nwy a phwysedd gweithredu'r cyfarpar ynghyd â'r gyfradd nwy
28. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
29. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
30. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion cynnal a chadw er mwyn eu gadael â deiliad yr eiddo Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
31. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad systemau ac elfennau ailosod i ddefnyddwyr terfynol
32. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
33. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
34. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Cyfarpar Cynhesu Dŵr" yn cyfeirio ar Wresogyddion Dŵr Enydaidd Un Pwynt ac Aml-bwynt. Bydd y rhain yn cynnwys Simneiau Heb Ffliw, Simneiau Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd a Simneiau wedi'u Drafftio â Ffan.
Mae "Cyfarpar Gwres Canolog Gwlyb" yn cyfeirio at Foeleri Gwres Canolog Gwlyb Sylfaenol, Cyddwyso a Chyfunol Bydd y rhain yn cynnwys Simneiau Agored, Simneiau Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd a Simneiau wedi'u Drafftio â Ffan.
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.4
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
cynnal a chadw, nwy, dŵr, gwresogi, gwres canolog gwlyb, cyfleustod, cyfleustodau