Gosod system cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb

URN: EUSDSG3.3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer peirianwyr nwy sydd angen gosod, cyfnewid a thynnu cyfarpar cynhesu dŵr domestig a gwres canolog gwlyb oddi yno ac mae'n cynnwys yr amrywiaeth canlynol o gyfarpar: Gwresogyddion Dŵr Enydaidd a Boeleri Gwres Canolog Gwlyb. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, gosod, cyfnewid, datgysylltu, datgomisiynu a chomisiynu'r cyfarpar hwnnw


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynnal cyfrifiadau colli gwres

1. Cyfrifo cyfaint ystafelloedd
2. Cyfrifo arwynebedd arwyneb unrhyw ffenestr 
3. Nodi'r math o ffenest a osodwyd, gan gynnwys ffenestri gwydr sengl neu ddwbl
4. Pennu nifer y waliau allanol a'r mathau ohonynt 
5. Dewis y gwerth U cywir
6. Canfod y math o ddeunydd a system wresogi os caiff unrhyw un ohonynt sydd o dan y gwagle eu gwresogi 
7. Canfod y math o ddeunydd uwchlaw’r gwagle i'w gwresogi
8. Cyfrifo'r allbwn gwres gofynnol ar gyfer yr ystafell yn seiliedig ar y wybodaeth a gesglir

Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer cynhesu dŵr a chyfarpar gwres canolog gwlyb 

9. Nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cwsmer 
10. Sicrhau cymhwysedd y system a'r elfennau
11. Arolygu safle'r gwaith ac edrych ar ddiagramau safle fel y bo angen ar gyfer unrhyw nodweddion strwythurol pwysig a diffygion sy'n bodoli a allai effeithio ar y gwaith o'u gosod a'u cofnodi, gan gynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ddarganfyddir
12. Gwirio bod lleoliad arfaethedig y cyfarpar yn cydymffurfio bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoliad a chlirio a bod yr holl wasanaethau mewnbwn yn bodloni gofynion safonau gwneuthurwr y cyfarpar a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
13. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
14. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a gosod
15. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
16. Cadarnhau bod y gwasanaethau a'r systemau yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
17. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen

Datgomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i fodloni safonau'r diwydiant

18. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
19. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
20. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
21. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
22. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system drydanol oddi yno yn barhanol fel y bo angen

Gosod, cyfnewid a thynnu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb oddi yno i fodloni safonau'r diwydiant

23. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni'r gofynion gosod
24. Cynnal y prosesau gosod er mwyn lleihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu
25. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch gosod
26. Symud elfennau o systemau nwy a thrydan sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y cynllun gosod
27. Cynhyrchu elfennau o systemau nwy a thrydan yn ôl gofyn y cynllun gosod
28. Lleoli'r cyfarpar a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
29. Darparu'r system awyru ofynnol ar gyfer gosodiadau a systemau cyfarpar newydd neu ailosodiadau
30. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
31. Gosod a chysylltu elfennau nwy, trydan, gwres canolog a gwaredu cyddwyso a'r holl bibellau ac elfennau perthnasol ar gyfer y cyfarpar
32. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra, clirio a thrydanol i gadarnhau uniondeb y systemau a'r cyfarpar a osodir
33. Cymryd camau gweithdredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd

Comisiynu a chomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb ymlaen llaw i fodloni gofynion y diwydiant

34. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y cyfarpar yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a'r Safonau Adeiladu
35. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
36. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
37. Gwirio a chadarnhau bod pwyseddau gweithredu'r system nwy a phwysedd gweithredu a chyfradd nwy y cyfarpar yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant a gofynion y gwneuthurwr 
38. Gwirio'r perfformiad hylosgi'n weledol a dadansoddi nwyon ffliw fel y bo angen
39. Profi perfformiad simnai ac ail-gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
40. Ail-gadarnhau bod y gofynion awyru yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
41. Gwirio a chadarnhau gweithrediad yr elfennau, system a'r cyfarpar nwy a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
42. Gwirio a chadarnhau bod system a'r cyfarpar trydanol yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
43. Gwirio a chadarnhau gweithrediad y system waredu cyddwyso fel y bo angen 
44. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i weithredu’r cyfarpar a'r system nwy yn gywir a darparu copi o lenyddiaeth cyfarpar ar eu cyfer

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu

45. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, gosod a chomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
46. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
47. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
48. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
49. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau bod elfennau, systemau a chyfarpar nwy yn cael eu comisiynu'n ddiogel
50. Cwblhau cofnodion datgomisiynu cyfarpar a'r system nwy 
51. Cyflwyno manylion ar gyfer y cyfarpar gosod a chyfnewid i'r Cynllun Hysbysiad Gwaith Nwy

Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu

52. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
53. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy 
53.1 lle y mae gwiriadau a phrofion cyn ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw yn datgelu diffygion mewn cyfarpar nwy, system nwy neu elfennau 
53.2 lle nad yw cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofynion dylunio
53.3 lle na ellir adfer yr elfennau na'r system nwy i'w perfformiad llawn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth Gyffredinol

1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun

Cyfrifo colli gwres

4. Y cyfrifiadau gofynnol er mwyn mesur maint cyfarpar gwresogi, gan gynnwys tymereddau dyluniadau awyr agored a dyluniadau mewnol  
5. Sut i gyfrifo'r gwahaniaeth mewn tymereddau 
6. Y ffordd y mae gwres yn llifo drwy gydosodiadau adeiladau, gan gynnwys y system awyru a'r graddau o ansylweddol i sylweddol 
7. Tybiaethau a dderbynnir wrth gyfrifo colledion gwres 
8. Cyfrifiadau gofynnol drwy waliau a lloriau sy'n is na'r radd er mwyn pennu colled gwres 
9. Y ffactorau sydd angen eu hystyried wrth gyfrifo colledion gwres 
10. Sut i ddethol y gwerth U yn seiliedig ar wybodaeth hysbys
11. Sut i ddehongli diagramau a lluniadau 
12. Sut i fesur, dethol a nodi'r trefniadau addas ar gyfer y system, rheolaethau a phibellau 
Datgomisiynu, gosod a chomisiynu cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb ymlaen llaw
13. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses gosod ddomestig, gan gynnwys mynediad diogel a gweithio gydag uchderau
14. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
15. Gofynion gofalu, cynnal a chadw a storio cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
16. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, gosod a chomisiynu'r system nwy gan gynnwys gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal gweithdrefnau a'r camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle
17. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
18. Sut a ble i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r gosodiad, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
19. Sut i fesur a chofnodi manylion y gwaith gosod a'r safle at ddibenion rhag-gynhyrchu
20. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaethau a'r systemau yn ddigonol er mwyn gosod ac ymestyn y cyfarpar nwy newydd, y system nwy a'r elfennau
21. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
22. Y gweithdrefnau diogel ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
23. Y mesurau i'w cymryd er mwyn atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
24. Sut a phryd i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
25. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
26. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
27. Arferion y diwydiant a gofynion y gwneuthurwr er mwyn lleoli a gosod draen cyddwyso ar gyfer boeleri cyddwyso
28. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu â gwasanaethau, systemau ac elfennau
29. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith er mwyn:
29.1. cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer cyfarpar, systemau nwy ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
29.2. comisiynu cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
29.3. gwirio gweithrediad a pherfformiad cywir cyfarpar, systemau ac elfennau cynhesu dŵr â nwy a gwres canolog gwlyb ac yn erbyn y fanyleb dylunio a manyleb y gwneuthurwr i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
29.4. gwirio bod perfformiad dŵr cynnes cyfarpar cynhesu dŵr â nwy a boeleri cyfunol yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr gan gynnwys sicrhau y caiff cyfradd pwysedd a llif digonol a thymereddau cywir eu cyflawni 
29.5. gwirio a chadarnhau pwyseddau gweithredu a chyfradd nwy y system nwy a'r cyfarpar 
30. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y system simneiau ac awyru
31. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion gosod a chomisiynu er mwyn eu gadael â'r eiddo Y mesurau gofynnol i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
32. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad elfennau, systemau a chyfarpar nwy i ddefnyddwyr terfynol
33. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
34. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.

Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Cyfarpar Cynhesu Dŵr" yn cyfeirio ar Wresogyddion Dŵr Enydaidd Un Pwynt ac Aml-bwynt. Bydd y rhain yn cynnwys Simneiau Heb Ffliw, Simneiau Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd a Simneiau wedi'u Drafftio â Ffan. 
Mae "Cyfarpar Gwres Canolog Gwlyb" yn cyfeirio at Foeleri Gwres Canolog Gwlyb Sylfaenol, Cyddwyso a Chyfunol. Bydd y rhain yn cynnwys Simneiau Agored, Simneiau Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd a Simneiau wedi'u Drafftio â Ffan.
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

DSG 3.3

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

gosod, gosodiad, nwy, dŵr, gwresogi, gwres canolog gwlyb, cyfleustod, cyfleustodau, comisiynu