Cynnal a chadw ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
URN: EUSDSG3.2
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn gymwys i beirianwyr nwy sydd angen cynnal a chadw ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, cynnal a chadw, datgomisiynu a chomisiynu'r cyfarpar hwnnw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer cynnal a chadw ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
1. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
2. Arolygu'r safle gwaith am unrhyw ddifrod neu ddiffygion cyn ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw i'r nodweddion adeiladu sydd eisoes yn bodoli a'u cofnodi
3. Cynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ganfyddir a chytuno ar y gwaith a gynllunnir
4. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a chynnal a chadw
5. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
6. Gwirio a chadarnhau bod lleoliad y cyfarpar yn cydymffurfio bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoliad a chliriadau
7. Cadarnhau bod y cyflenwad nwy, cyflenwad trydan, y ddarpariaeth o system awyru ac addasrwydd y simneiau lle y bo angen yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
8. Cynnal yr holl wiriadau a'r profion angenrheidiol er mwyn cadarnhau bod y gwasanaethau a'r systemau yn bodloni gofynion y gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
9. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen
Datgomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
10. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
11. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
12. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
13. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
14. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system drydanol oddi yno yn barhaol fel y bo angen
Cynnal a chadw ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
15. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni'r gofynion cynnal a chadw a gaiff eu hamlinellu yn y cynllun
16. Symud elfennau o systemau nwy a thrydan sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y gweithgarwch cynnal a chadw
17. Cyflawni'r broses cynnal a chadw yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
18. Cyflawni'r broses cynnal a chadw er mwyn lleihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu
19. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch y gwaith cynnal a chadw
20. Ail-leoli'r cyfarpar a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
21. Cadarnhau system awyru bresennol y cyfarpar a bod y system yn bodloni gofynion y diwydiant er mwyn cynnal y gwaith gosod
22. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
23. Ailgysylltu elfennau o systemau nwy a thrydan i'r cyfarpar
24. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra, clirio a thrydanol i gadarnhau uniondeb y system a'r cyfarpar a ail-gysylltwyd
25. Defnyddio gweithdrefnau gwirio a phrofi safonol i gadarnhau uniondeb y system simneiau bresennol a seliau ffliw y cyfarpar lle bo angen
Comisiynu a chomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden ymlaen llaw yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
26. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y cyfarpar yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a'r Safonau Adeiladu
27. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
28. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
29. Gwirio a chadarnhau bod pwyseddau gweithredu a chyfradd nwy y system nwy a'r cyfarpar yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant
30. Gwirio'r perfformiad hylosgi'n weledol a dadansoddi nwyon ffliw fel y bo angen
31. Profi perfformiad simnai ac ail-gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant fel y bo angen
32. Ail-gadarnhau bod y gofynion awyru yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
33. Gwirio a chadarnhau bod yr elfennau, system a'r cyfarpar nwy yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
34. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i weithredu’r cyfarpar a'r system nwy yn gywir a darparu copi o lenyddiaeth cyfarpar ar eu cyfer
35. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
36. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, gosod a chomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
37. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
38. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
39. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
40. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau bod elfennau, systemau a chyfarpar nwy yn cael eu cynnal a chadw'n ddiogel
41. Cwblhau cofnodion comisiynu a datgomisiynu cyfarpar a'r system nwy fel y bo angen a sicrhau y cânt eu storio'n ddiogel
Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
42. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
43. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy:
43.1 lle y mae gwiriadau a phrofion cyn ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw yn datgelu diffygion mewn cyfarpar nwy, system nwy neu elfennau
43.2 lle nad yw cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofynion dylunio
43.4 lle na ellir adfer yr elfennau na'r system nwy i'w perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses cynnal a chadw domestig
5. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
6. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
7. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu'r system nwy – gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
8. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
9. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
10. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi'r gweithgarwch datgomisiynu, cynnal a chadw a chomisiynu
11. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r gosodiad, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
12. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaethau a'r systemau yn ddigonol ar gyfer cyfarpar, systemau neu elfennau nwy sydd eisoes yn bodoli
13. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
14. Y gweithdrefnau diogel ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
15. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
16. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
17. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw ac ail-gomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
18. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
19. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
20. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu:
20.1 er mwyn mewnosod gwasanaethau gan gynnwys; systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau
20.2 ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden ac elfennau ar gyfer systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
21. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra, clirio a thrydanol ar gyfer cyfarpar, systemau nwy ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
22. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer y broses o gynnal a chadw ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
23. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer ail-gomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
24. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau yn gweithredu ac yn perfformio'n gywir a sicrhau eu bod yn ddiogel a'u gwirio yn erbyn manyleb y dyluniad
25. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau pwyseddau gweithredu'r system nwy a phwysedd gweithredu'r cyfarpar a chyfradd nwy
26. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
27. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y system simneiau ac awyru
28. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion cynnal a chadw er mwyn eu gadael â deiliad yr eiddo Y mesurau i atal cyfarpar a systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
29. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system a sut i arddangos gweithrediad ailosod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i ddefnyddwyr terfynol
30. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
31. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
32. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel
33. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau,Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.2
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
cynnal, chynnal a chadw, domestig, nwy, ffyrnau, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden