Cymhwyso deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac arferion gwaith
URN: EUSDSG3.18
Sectorau Busnes (Suites): Nwy Naturiol Domestig,Gosod a Chynnal a Chadw
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Ion 2018
Trosolwg
Mae'r uned hon yn trafod cynnal amgylchedd gwaith iach a diogel mewn amrywiaeth o osodiadau neu waith gosod. Mae hyn yn cynnwys gallu defnyddio gweithdrefnau diogel wrth weithio gydag eraill a defnyddio arferion gwaith diogel.
Rhaid i'r person sy'n cyflawni’r gwaith hwn feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i sicrhau nad yw eu gweithrediadau eu hunain yn creu unrhyw beryglon iechyd a diogelwch, nad ydynt yn anwybyddu peryglon sydd â risg sylweddol i'r gweithle a'u bod yn cymryd camau gweithredu synhwyrol er mwyn unioni pethau. Mae nifer o beryglon a allai godi yn ein diwydiant. Dyluniwyd yr uned er mwyn sicrhau bod y rheini sy'n gweithio ynddi yn ymwybodol o'r peryglon posibl a lle i gael gafael ar y canlynol: gwybodaeth am ddiogelwch a rheoliadau priodol a'u defnyddio yn y gweithle a'r bobl sy'n gweithredu ynddo.
Mae'r uned hon yn sôn am nodi'r peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r swydd. Fel arfer, bydd y rhain yn canolbwyntio ar amgylchedd y gwaith, y cyfarpar, deunyddiau a'r sylweddau a ddefnyddir, yr arferion gwaith nad ydynt yn dilyn gweithdrefnau a gaiff eu hamlinellu a'r technegau codi a chario â llaw.
Sylwer: Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol (Rhif Adnabod Cyf M1) hwn yn perthyn i SummitSkills – Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Sector Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu. Mae fformat y safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn wahanol i'r fformat a ddefnyddir gan Energy & Utility Skills.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi pa weithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle sy'n berthnasol ar gyfer eu hamgylchedd gwaith a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau a'u rhwymedigaethau fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth bresennol a pherthnasol
2. cyflwyno eu hunain yn y gweithle wedi paratoi'n addas ar gyfer y gweithgarwch a gaiff ei gyflawni
3. llunio asesiad risg a datganiad dull ar gyfer y gwaith i'w gyflawni lle y bo'n briodol
4. adolygu eu harferion gwaith eu hunain a'r amgylchedd gwaith ar gyfer y peryglon a allai achosi niwed difrifol, gan gynnwys trin deunyddiau a chyfarpar a allai fod yn beryglus
5. dilyn polisïau'r gweithle a chyfarwyddiadau'r cyflenwr neu'r gwneuthurwr ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau'n ddiogel
6. rheoli'r peryglon iechyd a diogelwch hynny sydd o fewn cyfyngiadau eu gallu a chyfrifoldebau eu swydd
7. rhoi gwybod am y peryglon hynny a allai achosi risg uchel i'r bobl berthnasol sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle
8. sicrhau nad yw eich dull eich hunain o arwain o amgylch y gweithle yn peryglu iechyd a diogelwch eich hunain neu bobl eraill
9. dilyn gweithdrefnau cywir mewn achos o niwed i chi eich hunain ac i eraill
10. cymryd camau adferol lle nad yw'r dulliau gwaith yn cydymffurfio â gofynion yr asesiad risg
11. arddangos prosesau gwaith, cynhyrchu a gosod sy'n cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch yr asesiad risg
12. cydymffurfio â hysbysiadau ar gyfer peryglon a gwaharddia
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rolau a chyfrifoldebau eu hunain ac eraill o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a deddfwriaethau presennol eraill (e.e. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith; Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Lles yn y Gweithle; Rheoliadau Diogelwch Personol yn y Gwaith; Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario â Llaw; Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith; Rheoliadau Sgrin Arddangos yn y Gwaith; Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli); Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith; Rheoliadau Rheoli Asbestos 2006)
2. y peryglon iechyd a diogelwch penodol a allai fodoli yn rôl eu swydd eu hunain (y cyfarpar a'r deunyddiau y maent yn eu defnyddio, methu â rhoi gwybod am gyfarpar sy'n torri ar ddamwain a pheidio â dilyn arferion a gweithdrefnau gwaith a amlinellir) a gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch presennol ar gyfer yr amrywiaeth o weithrediadau gwaith
3. sut i gydnabod deunyddiau ag asbestos o bosibl yn y gweithle
4. y gweithdrefnau er mwyn delio ag asbestos a amheuir yn y gweithle
5. pryderon iechyd cyhoeddus sy'n gysylltiedig â'u gweithle
6. arferion diogel wrth gynnal gwaith
7. sut i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch ar gyfer eu tasgau a'r ffynonellau ar gyfer cymorth arbenigol pan fydd angen cymorth
8. beth y mae perygl yn y gweithle yn ei gynnwys (megis trydan, arwynebau llithrig ac anwastad, llwch a tharthau, trin a chludo, halogyddion a llidwyr, tân, gweithio ar uchderau, amgylchedd, digwyddiadau peryglus, diffygion peryglus, defnyddio a storio cyfarpar yn amhriodol)
9. pwysigrwydd nodi peryglon yn y gweithle cyfan
10. y bobl y dylid rhoi gwybod am faterion iechyd a diogelwch iddynt
11. y gweithdrefnau mewn argyfwng yn y gweithle, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer galw'r gwasanaethau brys a'r wybodaeth sydd angen arnynt, gweithdrefnau rhybuddio a gwacáu, llwybrau dianc a gweithdrefnau diffodd tân
12. y cyfleusterau cymorth cyntaf sy'n bodoli yn eu hardal waith a'r sefydliad yn gyffredinol, a'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn achos o ddamweiniau sy'n cynnwys anaf
13. sut i ddarllen, deall a chydymffurfio ag asesiadau risg cyffredinol a datganiadau dull neu eu llunio ynghyd â'u defnyddio yn y gweithle
14. yr arwyddion rhybudd ar gyfer y saith prif grŵp o sylweddau peryglus fel y'u diffinir gan y Rheoliadau Dosbarthu, Pecynnu a Labelu Sylweddau Peryglus
15. rhagofalon diogelwch gan gynnwys y dillad a'r cyfarpar diogelu sydd ar gael ar gyfer eu meysydd gweithgarwch
16. y dulliau o ddiogelu eiddo'r cwsmer yn y mathau o leoliadau y caiff y gwaith o osod neu gynnal a chadw eu cynnal a sut i roi gwybod am ddifrod o ganlyniad i weithrediadau gwaith, os bydd hyn yn codi
Nodyn pwysig: Yn ôl y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith: Dylai cyflogwyr ddiogelu iechyd, diogelwch a lles yr holl bobl sy'n gweithio iddynt a 'phobl eraill', cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Mae hyn yn gymwys yn benodol ar gyfer darparu a chynnal a chadw peiriannau a systemau gwaith diogel, ac mae'n cwmpasu'r holl beiriannau, cyfarpar a'r sylweddau a ddefnyddir. Mae gan gyflogwr gyfrifoldeb o dan y Ddeddf hefyd i gymryd gofal rhesymol i osgoi niwed i'w hunain neu i eraill drwy eu harferion gwaith, ac i gydweithredu â chyflogwyr ac eraill er mwyn bodloni gofynion statudol. Mae'r Ddeddf hefyd yn gofyn i gyflogwyr beidio ag ymyrryd ag unrhyw beth a ddarperir neu eu camddefnyddio er mwyn diogelu ei hiechyd, diogelwch neu les gan gydymffurfio â'r Ddeddf. Caiff bron pob rheoliad arall eu gwneud o dan Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, sef y prif ddarn o ddeddfwriaeth. Dyma pam y cyfeirir at y darn hwn o ddeddfwriaeth yn benodol yn unig yn yr Uned hon.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Summit Skills
URN gwreiddiol
DSG3.18
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
iechyd, diogelwch, deddfwriaeth, nwy, cyfleustod, cyfleustodau