Profion cryfder, tyndra nwy a chlirio uniongyrchol

URN: EUSDSG3.17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer y peirianwyr nwy a fydd angen cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer gosodiadau nwy naturiol diwydiannol a masnachol bach, â phwysedd isel. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith ar gyfer cynllunio, datgomisiynu a chomisiynu gosodiadau nwy. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol

1. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
2. Arolygu safle'r gwaith, cynnal profion cryfder ymlaen llaw, profion tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer unrhyw ddifrod neu ddiffygion i'r nodweddion adeiladu presennol, hysbysu deiliad yr eiddo amdanynt a chofnodi'r canlyniadau
3. Nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cwsmer yn unol â gofynion statudol a gofynion y diwydiant
4. Diogelu safle'r gwaith ac adeiladwaith yr adeilad rhag unrhyw ddifrod y gallai'r gwaith yn ymwneud ag argyfwng yn ystod y profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol
5. Cadarnhau bod lleoliad y cyflenwad nwy a'r ddarpariaeth o system awyru yn bodloni'r gofynion ar gyfer cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol
6. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau, cyfarpar a'r cyfarpar er mwyn cynnal profion sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
7. Cadarnhau bod y cyflenwad nwy, cyflenwad daearu a'r ddarpariaeth o system awyru yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
8. Cynnal yr holl wiriadau a'r profion angenrheidiol er mwyn cadarnhau bod y cyflenwad nwy yn bodloni gofynion y diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
9. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen

Datgomisiynu systemau ac elfennau nwy i gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

10. Gwirio y bydd amodau'r system nwy yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
11. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
12. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn  
datgomisiynu systemau nwy ac elfennau
13. Cymryd camau rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar a systemau nwy nac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
14. Symud a datgysylltu cyfarpar a systemau nwy ac elfennau yn barhaol lle y bo'n briodol
15. Mesur, cyfrifo a nodi cyfaint gosodiadau'r system nwy at ddibenion gweithgarwch clirio uniongyrchol er mwyn datgomisiynu'r system nwy a osodwyd yn barhaol 
16. Defnyddio gweithdrefnau clirio er mwyn cadarnhau y datgomisiynwyd y system nwy a osodwyd yn barhaol drwy glirio nwy ag aer 

Cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer systemau ac elfennau nwy i gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

17. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y pibellau yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
18. Cynnal gwaith paratoi ar gyfer profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol er mwyn cydymffurfio â gofynion y diwydiant
19. Gwirio y bydd amodau'r system nwy yn sicrhau y gellir cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol yn ddiogel 
20. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol
21. Mesur, cyfrifo a nodi cyfaint gosodiadau'r system nwy ar gyfer gweithgarwch profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol
22. Sicrhau bod y system awyru ar gyfer profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol yn bodloni gofynion safonau'r diwydiant
23. Dargyfeirio cyfarpar nwy ac elfennau sydd eisoes yn bodoli a'u symud oddi yno lle y bo'n briodol 
24. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
25. Cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol gan leihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu 
26. Defnyddio gweithdrefnau profion cryfder er mwyn cadarnhau uniondeb y system nwy newydd a osodwyd
27. Dilyn gweithdrefnau cymeradwy os bydd y gosodiad yn methu'r prawf cryfder
28. Y gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb y system a'r cyfarpar nwy newydd ac sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys er mwyn sicrhau nad yw'r gosodiad yn uwch nag uchafswm y pwysedd a ganiateir ar gyfer y gosodiad
29. Dilyn gweithdrefnau cymeradwy os bydd y gosodiad yn methu'r prawf tyndra
30. Newid unrhyw gyfarpar ac elfennau nwy a dynnwyd oddi ar osodiad y pibellau a thynnu cyfarpar dargyfeirio oddi yno yn ôl yr angen
31. Mesur, cyfrifo a nodi cyfaint gosodiadau'r system nwy ar gyfer gweithgarwch clirio uniongyrchol
32. Defnyddio gweithdrefnau clirio er mwyn cadarnhau cyflenwad diogel o nwy ar gyfer y system a'r cyfarpar nwy a osodwyd, gan ddilyn gweithdrefnau cymeradwy mewn achos o fethiant
33. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i weithredu’r system nwy, falfiau a'r elfennau yn gywir a darparu copi o unrhyw lenyddiaeth ar eu cyfer
34. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau ac elfennau nwy drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth a datgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol i gydymffurfio â safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

35. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo ac eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, cynnal profion cryfder a thyndra a chlirio uniongyrchol i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
36. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau cymwys gwneuthurwr ar gyfer system nwy a'r cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
37. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
38. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
39. Cwblhau'r ddogfennaeth yn cadarnhau y caiff profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer systemau nwy ac elfennau eu cwblhau'n ddiogel
40. Cwblhau cofnodion datgomisiynu'r system nwy

Datrys problemau o fewn maes cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol

41. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a daearu
42. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy yn yr achosion canlynol
42.1. lle y bydd profion tyndra a gwiriadau clirio uniongyrchol ymlaen llaw yn datgelu diffygion yn y system nwy neu elfennau
42.2. lle na fydd systemau nwy ac elfennau sy'n derbyn profion tyndra a chlirio uniongyrchol yn bodloni'r gofynion dylunio 
42.3. lle na ellir adfer system nwy ac elfennau i'r perfformiad llawn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth Gyffredinol

1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun

Datgomisiynu, Cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol

4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol y mae angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol annomestig 
5. Mynediad diogel a gweithio gydag uchderau
6. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
7. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
8. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol – gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
9. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
10. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
11. Y peryglon posibl a allai gofi o'r holl weithgarwch datgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol a'r gwiriadau i'w cynnal cyn i'r gwaith gychwyn
12. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i gychwyn ar y gweithgarwch datgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol 
13. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys ar gyfer y system a'r cyfarpar nwy i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r diwydiant
14. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau neu elfennau nwy
15. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu systemau nwy dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
16. Y rhagofalon i sicrhau nad yw'r systemau nwy sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
17. Y mesurau i atal systemau nwy sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
18. Gweithdrefnau clirio er mwyn cadarnhau y datgomisiynwyd y system nwy a osodwyd yn barhaol drwy glirio nwy ag aer
19. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y system nwy
20. Y pwyntiau broses o ddatgomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol lle y mae'n bosibl y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau eraill a deiliaid eiddo
21. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod elfennau, systemau, falfiau a phibellau nwy i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
22. Y mathau o ddeunyddiau pibellau sy'n addas ar gyfer cario nwy - dur, haearn hydrin, copr, tiwbio dur gloyw gwrymiog hyblyg, polyethylen a phlwm ac ati.
23. Y mathau o osodiadau pibellau sy'n addas ar gyfer cario nwy – capilari, cywasgu, gweithio i'w gosod, ar y cyd ac sydd wedi'u sgriwio
24. Arferion y diwydiant a safonau'r gwaith ar gyfer y deunyddiau a'r gosodiadau uno sy'n addas i gario nwy, gan gynnwys cysylltu â phrif bibellau cyfansawdd
25. Y gofynion lleoli ac atgyweirio pibellau nwy, falfiau, systemau ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) cyfredol, Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
26. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu er mwyn mewnosod gwasanaethau gan gynnwys; systemau nwy, daearu ac awyru
27. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu pibellau, falfiau ac elfennau â systemau a chyfarpar nwy newydd ac sydd eisoes yn bodoli
28. Sut i gadarnhau bod y cyflenwad nwy a'r system awyru yn ddigonol ar gyfer ail-gomisiynu, cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol ar gyfer y system nwy, cyfarpar ac elfennau
29. Sut i fesur, cyfrifo a nodi cyfaint gosodiadau'r system nwy ar gyfer gweithgarwch profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol – IGE/UP/1A
30. Y cyfarpar ar gyfer cynnal profion a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio nwy ar gyfer systemau a chyfarpar nwy ac elfennau –
31. Sut i symud cyfarpar nwy ac elfennau oddi yno neu eu dargyfeirio cyn cynnal profion cryfder, tyndra a gweithgarwch clirio 
32. Gweithdrefnau profion cryfder er mwyn cadarnhau uniondeb system nwy newydd a osodwyd a'r cyfarpar newydd ac sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys 
33. Gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb y systemau a'r cyfarpar nwy newydd ac sydd eisoes yn bodoli lle y bo'n gymwys er mwyn sicrhau nad yw'r gosodiad yn uwch nag uchafswm y pwysedd a ganiateir
34. Sut i gydnabod setiau rheoleiddio â phwysedd canolig lle y mae uchafswm y pwysedd gweithredu (MOP) yn allanfa'r falf rheolaeth frys (ECV) yn uwch na 75mbar ond nid yw'n uwch na 2bar, a ph'un a osodwyd falf mewnfa mesurydd (MIV) 
35. Gweithdrefnau profion tyndra i gadarnhau uniondeb systemau nwy lle y mae uchafswm y pwysedd gweithredu (MOP) yn allanfa'r falf rheolaeth frys (ECV) yn uwch na 75mbar ond nid yw'n uwch na
2bar, a lle y caiff falf mewnfa mesurydd (MIV) ei osod neu beidio
36. Y broses a'r gweithdrefnau ar gyfer olrhain ac atgyweirio allanfeydd os bydd y gosodiad yn methu'r prawf cryfder a thyndra
37. Y broses, y gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol er mwyn clirio elfennau, cyfarpar a systemau nwy yn uniongyrchol
38. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer clirio systemau a chyfarpar nwy ac elfennau yn uniongyrchol a'r prosesau a'r gweithdrefnau cywir i'w dilyn os byddant yn methu 
39. Yr arferion a'r dilyniannau er mwyn comisiynu elfennau, falfiau a systemau nwy i safonau'r diwydiant
40. Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
41. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion cynnal profion cryfder, tyndra a chlirio uniongyrchol er mwyn eu gadael gyda'r eiddo 
42. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad elfennau a systemau nwy i ddefnyddwyr terfynol
43. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
44. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
45. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd
46. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr,  Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Gosodiadau nwy naturiol diwydiannol a masnachol bach, â phwysedd isel" yn cyfeirio at Systemau Nwy Naturiol ac Elfennau a ddefnyddir ar gyfer falf rheolaeth frys (ECV) wrth brosesu. Bydd gan y gosodiad y canlynol; cyfaint nad yw'n uwch na 1.0m3 gan gynnwys unrhyw fesurydd neu lwfans ar gyfer gosodiadau, uchafswm pwysedd gweithredu (MOP) nad yw'n uwch na 40mbar yn allanfa'r rheoleiddiwr mesurydd cynraff, cyflenwad (MOP) nad yw'n uwch na 75mbar, calibr nominal nad yw'n uwch na 150mm.
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

DSG 3.17

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

cryfder, profion, nwy, tyndra, clirio uniongyrchol, IGE/UP/1A, cyfleustod, cyfleustodau