Ymateb i Argyfyngau wrth Brosesu'r Nwy y Rhoddir Gwybod Amdanynt

URN: EUSDSG3.16
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer y peirianwyr nwy sy'n gweithio ar osodiadau nwy naturiol domestig ac mae'n diffinio'r cymwyseddau gofynnol i nodi, rheoli, monitro ac unioni argyfyngau wrth brosesu nwy. Caiff y gweithgarwch hwn ei gynnal er mwyn diogelu bywyd ac eiddo, i ddiogelu’r allanfa ac i adael y safle'n ddiogel.

**Nid yw'r safon hwn yn awgrymu bod un dull dilyniannol o ymateb i Argyfyngau wrth Gloddio Nwy y rhoddir gwybod amdanynt. Ni ellir rhagweld natur gollyngiadau nwy ac mae angen delio â nhw ar sail unigol. Dylid ymgymryd â chamau gweithredu â blaenoriaeth yn ôl gofyn pob adroddiad unigol. Dilynir "Polisïau a Gweithdrefnau" perthnasol y Darparwr Gwasanaeth Argyfwng wrth ddelio ag Argyfyngau wrth Gloddio Nwy. Fodd bynnag, disgwylir i ymgeiswyr arddangos cymhwysedd yn yr holl feysydd sgiliau, cymhwysedd a gwybodaeth a nodir er mwyn cydymffurfio â'r safon.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Derbyn, Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth a Data

1. Derbyn y wybodaeth am y gwaith yn ymwneud â'r argyfwng y rhoddwyd gwybod amdano gan gynnwys manylion am y lleoliad ac am bwy wnaeth roi gwybod amdano
2. Cadarnhau manylion gwybodaeth am y swydd gyda'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau  er mwyn sicrhau y caiff y wybodaeth ei throsglwyddo'n gywir
3. Hysbysu'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau  os na ellir cyrraedd y gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano yn unol â safonau cymeradwy.
4. Rhoi gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd y safle, cysylltu â'r person/pobl a roddodd wybod am y gollyngiad a chael gwybodaeth ganddynt
5. Defnyddio gwybodaeth am y swydd ar y safle er mwyn helpu'r broses o leoli ac ynysu'r argyfwng yn effeithiol
6. Cyfathrebu â'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau  yn barhaus yn ystod y broses o leoli'r argyfwng nwy ac yn dilyn hynny er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth am y sefyllfa ar y safle a'r holl wybodaeth barhaus
7. Galw am adnoddau ychwanegol a chymorth gan wasanaethau ac awdurdodau mewn sefyllfaoedd digwyddiadau fel y bo'n briodol
8. Ymgysylltu â chyrff allanol gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau tân a HSE lle y bo'n gymwys, deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod yr argyfwng wrth brosesu'r nwy
9. Sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn glir, cryno, cywir ac yn gyfredol
10. Rhoi gwybod am unrhyw oedi i'r gwaith i'r rheini sydd angen y wybodaeth
11. Cwblhau'r ddogfennaeth ofynnol gan nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd gan ddefnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni a sicrhau eu bod yn unol â gofynion statudol
12. Cwblhau cofnodion datgomisiynu systemau lle y bo'n gymwys 
13. Os bydd y gollyngiad mewn argyfwng wrth brosesu, dylid cyfathrebu â'r tîm atgyweirio peirianneg wrth drosglwyddo'r gwaith iddynt er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ganddynt ynglŷn â'r gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gasglwyd o safle'r gwaith

Defnyddio Cyfarpar Canfod Nwy a Diogelwch cymeradwy
 
14. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau, cyfarpar a'r cyfarpar er mwyn cynnal profion sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch yr argyfwng wrth gloddio nwy ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
15. Ar gyfer nwyon eraill a nodir ac sydd ynghlwm â'r gwaith, dylid cymryd y camau gweithredu priodol ar gyfer canfod nwy ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
16. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch argyfyngau nwy
17. Gwirio bod y cyfarpar canfod nwy yn gymeradwy, cyfredol, wedi'u graddnodi'n gywir a'u bod yn addas ar gyfer gweithgarwch yr argyfwng arfaethedig wrth brosesu'r nwy
Asesu'r Risgiau i Fywyd, Eiddo a'r Amgylchedd yn ystod
Achosion brys
18. Cyrraedd yr argyfwng y rhoddwyd gwybod amdano heb unrhyw oedi er mwyn cydymffurfio â'r safonau ymateb
19. Canfod safleoedd a lleoliad cyflenwadau nwy a gwasanaethau a chyfleustodau eraill, cael mynediad at fap o systemau nwy lle y bo'n gymwys 
20. Sicrhau bod cyfarpar diogelu a Chyfarpar Diogelu Personol ar gael i'w defnyddio yn unol ag asesiad risg penodol y safle gwaith
21. Defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogelwch priodol drwy gydol gweithgareddau'r argyfwng wrth brosesu nwy
22. Cynnal yr holl arsylwadau a'r gwiriadau gweledol ar y safle
23. Gwirio am ogleuon a nwyon yn mynd i mewn ac o amgylch yr eiddo lle y lleolir y gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano ac eiddo cyfagos lle y bo'n gymwys yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
24. Cymryd samplau awyrgylch lefel uchel ac isel a'u cofnodi o ofodau mewnol a gwagleoedd yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
25. Dilyn gweithdrefnau'r diwydiant er mwyn symud personél, ynysu cyfarpar nwy a thrydan ac i awyru eiddo fel y bo'n briodol
26. Cymryd camau rhagofalus er mwyn atal pobl heb awdurdod rhag cael mynediad i'r ardaloedd a gaiff eu gwacáu drwy ddefnyddio bariau, tâp ac arwyddion rhybudd
27. Cymryd samplau nwy priodol o eiddo a gwagleoedd na ellir cael mynediad iddynt a'u cofnodi yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
28. Defnyddio gweithdrefnau'r cwmni a'r diwydiant er mwyn cael mynediad gorfodol i eiddo sydd wedi'u cloi ac sy'n wag
29. Gwirio am nwyon yn mynd i mewn i'r eiddo a gwagleoedd cyfagos o wasanaethau a chyfleustodau a ddaw i mewn a nodi canfyddiadau yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
30. Cymryd y samplau nwy priodol mewnol ac allanol a'u cofnodi mewn pob agoriad damweiniol gan gynnwys; mewn gwagleoedd, dwythellau, carffosydd, seleri, dwythellau telathrebu, mewn peirannau a dodrefn stryd neu o'u hamgylch, mewn tai a siambrau llywodraethwyr neu o'u hamgylch ac ati, yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
31. Canfod maint y gollyngiad neu sefyllfa gydnabyddedig arall mewn argyfwng gan gynnwys faint o bobl ac eiddo a gaiff eu heffeithio neu a allai gael eu heffeithio
32. Nodi ac asesu unrhyw beryglon, lefel eu risg a'u difrifoldeb a nodi'r canfyddiadau
33. Parhau i fonitro'r gollyngiad neu unrhyw sefyllfa gydnabyddedig arall mewn argyfwng a gwirio'r holl grynodiadau nwy y tu allan a'r tu mewn i'r eiddo yr effeithir arnynt yn ystod y gwaith o atgyweirio ac yn dilyn y gwaith
34. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra er mwyn cadarnhau uniondeb unrhyw system nwy a chyfarpar a osodwyd
35. Lleoli'r gollyniad neu drosglwyddo'r gwaith i'r tîm atgyweirio peirianneg, lle y bo angen
36. Gweithio'n ddiogel bob amser yn unol â Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd ac arferion a gweithdrefnau cymeradwy'r diwydiant gan gynnwys; yr unigolyn ac eraill, gofynion sefydliadol, gofynion rheoleiddiol, gofynion statudol, polisïau'r cwmni ac asesiadau risg

Dileu a Lleihau'r Risgiau i Fywyd, Eiddo a'r Amgylchedd 
yn ystod Argyfyngau Nwy

37. Cynnal asesiad risg penodol i'r safle sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer safle gwaith, mynediad i safle'r gwaith, symud y gweithlu, aelodau'r cyhoedd a symud a storio deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith cyn ymgymryd â'r gwaith
38. Arolygu safle'r gwaith cyn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch yn ymwneud â gollyngiadau wrth brosesu nwy ar gyfer unrhyw ddifrod neu ddiffygion i'r nodweddion adeiladu presennol a hysbysu deiliad yr eiddo am unrhyw ddiffygion a'u cofnodi yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
39. Diogelu safle'r gwaith ac adeiladwaith yr adeilad rhag unrhyw ddifrod y gallai'r gwaith yn ymwneud ag argyfwng wrth brosesu nwy ei achosi
40. Blaenoriaethu peryglon a chymryd camau i leihau'r risg, yn nhrefn blaenoriaeth
41. Cymryd camau gweithredu prydlon er mwyn nodi peryglon yn ddiogel a ellir eu hunioni'n ddiogel gan gynnwys; gwacáu, mynediad gorfodol, lleihau gollyngiadau, awyru, creu ardaloedd diogel, atal ysmygu, sicrhau bod diffoddyddion tân yn barod, defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogelu a gwlych ardal y gwaith lle y bo angen
42. Monitro effeithiolrwydd y mesurau rheoli risg a chymryd camau gweithredu prydlon ychwanegol lle y bo'n briodol
43. Creu a chynnal ardal waith ddiogel 
44. Nodi'r ffynonellau tanio a'r ffynonellau tanio posibl a dileu neu leihau'r risg
45. Awyru'r eiddo, gwagleoedd, dwythellau, draeniau a nenfydau lle y bo'n briodol
46. Monitro ac ail-wirio safle'r gwaith yn rheolaidd a chofnodi unrhyw beryglon ychwanegol
47. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra er mwyn cadarnhau uniondeb y system nwy a chyfarpar a osodwyd
48. Lleoli'r gollyngiad, a'i atgyweirio lle y mae'n ymarferol gwneud hynny ac y gellir ei gyflawni mewn 30 munud gan ddilyn gweithdrefnau'r diwydiant
49. Lleoli'r gollyngiad a dilyn gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer trosglwyddo'r gwaith i'r tîm atgyweirio peirianneg lle y bo'n briodol
50. Defnyddio dulliau, profion a'r gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu cyfarpar a systemau nwy ac elfennau anniogel lle y bo'n briodol
51. Cymryd camau rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar a systemau nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
52. Symud a datgysylltu cyfarpar a systemau nwy, elfennau a'r cap anniogel yn barhaol o'r cyflenwad nwy gan ddilyn y gosodiadau cywir yn ôl y gofyn 
53. Ymgymryd ag atgyweiriad(au) parhaol lle y bo'n bosibl a'u gadael mewn cyflwr diogel lle nad yw hynny'n bosibl
54. Ymateb i adroddiadau o fygu, nwyo neu darthau a chynnal y profion a'r gwiriadau gofynnol yn ôl gofynion y diwydiant. Galw am gymorth mewn achosion o ddamweiniau a marwolaethau
55. Gofyn am gymorth yn ôl y gofyn
56. Monitro, ail-wirio a chofnodi lefelau'r crynodiad nwy y tu allan a'r tu mewn i'r eiddo neu safle'r gwaith yn rheolaidd lle y bo'n briodol neu yn ôl y gofyn
57. Rhoi gwybod am unrhyw ymyriadau i gyflenwadau nwy a phwyseddau gwael i'r person cywir
58. Asesu goblygiadau'r argyfwng, ymgymryd ag asesiad peryglon a chytuno ar y camau gweithredu i'w cymryd mewn ymgynghoriad â'r uwch berson ar y safle
59. Unioni ac ymateb i'r canlynol yn gywir: 
59.1. adroddiadau am gyflenwadau sy'n amrywio 
59.2. adroddiadau am ddiffyg nwy
59.3. adroddiadau am adar ac anifeiliaid y tu ôl i gyfarpar
60. Defnyddio'r fersiwn gyfredol o weithdrefn sefyllfaoedd anniogel y diwydiant lle y bo angen

Ymgymryd ag Arolygon Safleoedd er mwyn Pennu maint a lefelau 
Crynodiadau'r Gollyngiadau Nwy

61. Cynnal arolwg o'r safle ac asesiad risg o'r sefyllfa er mwyn pennu'r canlynol;
61.1.  p'un a yw'n Nwy Naturiol neu LPG
61.2. wedi'i reoli neu beidio 
61.3.  yn wasgariad o grynodiadau a darlleniadau nwy
61.4. p'un a yw'r gollyniad y tu allan i'r eiddo neu'n olrhain yn fewnol iddynt
61.5. lefel y crynodiadau a'r darlleniadau nwy     dd) lleoliad yr eiddo agosaf
61.6. lleoliad unrhyw fannau cyfyng
61.7. unrhyw gyfleustodau eraill sy'n bresennol lle y gall nwy eu holrhain 
61.8. presenoldeb ffynonellau tanio 
61.9. lefel o awyru
61.10. unrhyw bryderon trydanol
61.11. argaeledd a mynediad i ddull ynysu ar gyfer yr eiddo i) deunydd y bibell nwy
61.12. unrhyw hanes o ollyngiadau
61.13. arwyddion gweledol o waith blaenorol    ll) diffyg canlyniadau olrhain
62. Categoreiddio'r canlyniad o'r arolygiad safle a chymryd y camau angenrheidiol er mwyn blaenoriaethu gollyngiad mewn unrhyw sefyllfa anniogel yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
63. Cynnal arsylwadau gweledol ac ail-wirio mapiau system(au) nwy yn ôl y gofyn
64. y gweithdrefnau a'r meini er mwyn pennu a chadarnhau ei fod yn ddiogel i adael y safle yn dilyn y gwaith atgyweirio 

Archwiliad Terfynol, Gadael y Safle Gwaith Uniongyrchol yn Ddiogel

65. Gwirio a chofnodi lefelau'r crynodiad nwy yn fewnol ac yn allanol i'r eiddo neu safle'r gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i adael y safle ac ail-lenwi'r eiddo lle y bo'n briodol
66. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra a chlirio er mwyn ail-gadarnhau uniondeb y system nwy a chyfarpar a osodwyd
67. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch ail-gomisiynu
68. Gwirio y bydd amodau'r system nwy yn sicrhau y gellir ail-gomisiynu'n ddiogel
69. Ailosod a chlirio'r cyflenwad nwy ar gyfer y system a'r cyfarpar 
70. Gwirio a chadarnhau bod pwyseddau gweithredu'r system nwy yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant
71. Gwirio'r perfformiad hylosgi yn weledol lle y bo angen
72. Ail-gadarnhau bod system awyru bwrpasol wedi'u darpar ac nad yw wedi'i blocio
73. Dilyn gweithdrefnau a meini prawf y diwydiant er mwyn pennu a chadarnhau ei fod yn ddiogel i adael y safle yn dilyn y gwaith atgyweirio ac mewn achosion lle na chaiff unrhyw ollyngiad ei ganfod
74. Rhoi gwybod am ganfyddiadau, manylion a chamau gwithredu i'r person/pobl gofynnol.

Datrys problemau o fewn maes cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar yr argyfwng

75. Unioni problemau o fewn maes cyfrifoldeb a chymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am fanylion unrhyw ddiffygion yn y cyfarpar a'r system nwy ac elfennau a'r camau gweithredu a gymerwyd i'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau, uwch berson ar safle; arweinydd tîm, rheolwr llinell cyntaf ac ati.
76. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy a) lle y mae gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy yn datgelu diffygion yn y cyfarpar a'r system nwy ac elfennau
77. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy mewn achosion lle na ellir arfer cyfarpar a systemau nwy ac elfennau i'w perfformiad llawn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth Gyffredinol

1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun

Ymateb i argyfyngau wrth brosesu nwy

4. Gwybodaeth o'r gweithdrefnau gweithredu perthnasol a'u defnyddio er mwyn ymateb i ollyngiadau nwy ac argyfyngau eraill
5. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol y mae angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy
6. Mynediad diogel a gweithio gydag uchderau
7. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
8. Y dulliau o weithio sy'n diogelu'r adeilad, eiddo'r cwsmer a'r systemau a chyfarpar nwy ac elfennau sydd eisoes yn bodoli
9. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
10. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y gweitharwch argyfwng wrth brosesu nwy – gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
11. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
12. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i gychwyn ar y gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy
13. Y peryglon posibl a allai gofi o'r holl weithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy a'r gwiriadau i'w cynnal cyn i'r gwaith gychwyn
14. Safonau gwasanaeth y cwmni er mwyn mynychu; gollyngiadau nwy a reolir a nas rheolir a gwaith ar fesuryddion diffygiol
15. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cynnal gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy ar bwyseddau isel a chanolig tra'n cydymffurfio â'r canlynol; safonau a gweithdrefnau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio)  Safonau Prydeinig
16. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cynnal gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy ar bwyseddau isel a chanolig gan gynnwys; gollyngiadau nwy y rhoddwyd gwybod amdanynt, allyriadau tarthau o gyfarpar nwy, tân neu ffrwydrad lle y tybir mai nwy yw achos sefyllfaoedd cyflenwad nwy a'r golled
17. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant yn ymwneud ag "un person yn gweithio"
18. Rheoliadau Diogelwch Nwy (Hawl Mynediad) a'u goblygiadau gan gynnwys; cael mynediad i eiddo, hysbysu'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau a'r rheolwr llinell a'r goblygiadau
19. Rheoliadau Mannau Cyfyngedig a'u goblygiadau gan gynnwys gweithio mewn gwagleoedd, siambrau, tyllau, ffosydd, pibellau, carffosydd, ffliwiau, ffynhonnau, ac ati.
20. Gwybodaeth am Adeiladu a'r cynlluniau ar gyfer eiddo domestig ac eiddo bach masnachol gan gynnwys mathau o: sylfeini; waliau; lloriau; nenfydau; toeau; a gwasanaethau eraill mewn eiddo
21. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir mewn dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig ac Ewropeaidd a gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb a safonau'r diwydiant
22. Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
23. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant a'r camau i'w cymryd er mwyn nodi peryglon yn ddiogel a ellir eu hunioni'n ddiogel gan gynnwys; gwacáu, mynediad gorfodol, lleihau gollyngiadau, awyru a chreu ardaloedd diogel
24. Y mesurau a'r camau gweithredu rhagofalus i'w cymryd mewn amgylchedd a allai fod yn nwyol gan gynnwys: lleihau'r risg o danio, 
sicrhau y caiff ei awyru'n ddigonol, lleoli cerbydau a chyfarpar, defnyddio bondiau parhau dros dro, atal ysmygu, sicrhau bod diffoddyddion tân yn barod, defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogel a gwlychu ardal y gwaith
25. Adnabod y ffynonellau tanio posibl ar gyfer gweithgarwch wrth brosesu nwy
26. Y gwetihdrefnau, mesurau a'r camau gweithdrefnau rhagofalus i'w cymryd mewn amgylchedd a allai gynnwys carbon monocsid gan gynnwys gweithrediadau larwm CO; gwacáu, mynediad gorfodol a sicrhau y caiff ei awyru'n ddigonol
27. Effeithiau a symptomau carbon monocsid a rhoi cyngor allweddol i bobl y gallai'r tarthau effeithio arnynt
28. Y broses o ddethol a gweithredu cyfarpar canfod nwy
29. Technegau a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer y canlynol:
29.1.  defnyddio cyfarpar canfod nwy
29.2. cadarnhau diogelwch trydanol a Diffyg Trydan 
29.3. defnyddio cyfarpar canfod trydan megis "Voltstick"
30. Dulliau, profion a'r gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau a chyfarpar nwy ac elfennau
31. Y gweithdrefnau er mwyn datgomisiynu systemau a chyfarpar nwy ac elfennau dros dro ac yn barhaol gan gynnwys y defnydd o fondiau parhad dros dro
32. Y camau rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw systemau a chyfarpar nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu yn cyflwyno perygl diogelwch
33. Y mesurau i atal systemau a chyfarpar nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu ac sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau gan ddefnyddio hysbysiadau diogelwch a rhybudd
34. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd y systemau a chyfarpar nwy ac elfennau
35. Y pwyntiau yn y gweithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy lle y mae'n bosibl y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â gwasanaethau bryd, masnachau eraill a deiliaid eiddo
36. Y gwetihdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer ail-gysylltu â gwasanaethau mewnbwn nwy a chysylltu elfennau i systemau nwy
37. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio nwy ar gyfer systemau a chyfarpar nwy
38. Y defnydd, cwmpas, gofynion a'r gweithdrefnau ar gyfer profion tyndra a chlirio i gydymffurfio â safonau cymeradwy y diwydiant
39. Sut i nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd gan ddefnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni a sicrhau eu bod yn unol â gofynion statudol ar gyfer yr holl weithgarwch argyfwng wrth brosesu nwy
40. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer ail-gomisiynu systemau a chyfarpar nwy
41. Sut i gadarnhau bod gwasanaethau mewnbwn nwy, simneiau ac awyru yn ddigonol ar gyfer systemau a chyfarpar nwy ac elfennau
42. Dulliau Gosod a Chysylltu Systemau Simneiau Ffliw Agored a Chyfarpar Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd
43. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer delio â thanau a ffrwydradau a allai ddigwydd oherwydd y gollyngiad nwy neu beidio gan gynnwys gofynion RIDDOR
44. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer y canlynol:
44.1. uwchgyfeirio gollyngiadau nwy gan gynnwys pryd, sut a phwy i roi gwybod amdanynt iddynt 
44.2. ail-lenwi eiddo ar ôl gwacáu
44.3. nodi ac ymateb i gymylau nwy
44.4. ymateb i ymyriadau i gyflenwadau nwy ac adroddiadau o bwysedd isel 
44.5. asesu goblygiadau'r argyfwng, ymgymryd ag asesiadau perygl a chytuno ar y camau gweithredu i'w cymryd mewn ymgynghoriad â'r person/pobl cyfrifol
45. Technegau a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer tynnu dŵr o wasanaethau gan gynnwys y defnydd o gyfarpar tynnu dŵr 
46. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cyflenwi cyfarpar gwresogi a choginio amgen lle y bydd nwyon na chaiff nwy ei ddargludo
47. Rhinweddau a nodweddion LPG
48. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer ymateb i'r canlynol:
48.1. gollyngiadau nwy, tanau a ffrwydradau o LPG
48.2. gollyngiadau nwy, tanau a ffrwydradau mewn eiddo annomestig 
48.3. ymyriadau i gyflenwadau nwy ac adroddaidau o bwyseddau isel mewn eiddo annomestig
48.4. nwy yr amheuir a gafodd ei ddwyn
48.5. dim sefyllfaoedd y gellir eu holrhain gan gynnwys ail-wiriadau 
48.6. adar ac anifeiliaid y tu ôl i gyfarpar
48.7. diffyg mynediad i eiddo
49. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer trosglwyddo a gadael y safle
50. Technegau a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cyfnewid falfiau rheolaeth fryd (ECVs) a falfiau rheoli mewnfa mesuryddion (MIVs)
51. Technegau a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer gosod 
mesuryddion Nwy Naturiol a mesuryddion tai ac adrannau
52. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
53. Sut i ynysu systemau a chyfarpar nwy ac elfennau anniogel a defnyddio gweithdrefn y diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd anniogel
54. Sut i ddefnyddio'r fersiwn gyfredol o Weithdrefn Sefyllfaeodd Anniogel y Diwydiant gan gynnwys y sefyllfaoedd canlynol; pryder am ddiogelwch, mewn perygl, yn beryglus yn uniongyrchol a RIDDOR
55. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer delio ag archwiliadau digwyddiadau'n ymwneud â nwy 
56. Gofynion statudol ar gyfer nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd a defnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni
57. Strwythurau rheoli gwaith a'r dulliau o roi gwybod am gynnydd gwaith neu broblemau o ran oedi a'u cofnodi Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd
58. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig,  Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.

Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored

Mae'r "Gwaith Prosesu" yn cyfeirio at osodiadau nwy y falf rheolaeth frys a mesurydd cyfarpar lle y caiff nwy ei losgi. Mae'n cynnwys safleoedd Diwydiannol, Masnachol a Domestig. 
Mae "Argyfyngau drwy brosesu nwy" yn cyfeirio at ollyngiadau nwy a Reolir a Nas Rheolir, adroddiadau am nwyo, tarthau, cyflenwadau sy'n amrywio, diffyg nwy a ffliwiau wedi'u blocio oherwydd adar/anifeiliaid y tu ôl i gyfarpar.
Mae "Argyfwng cydnabyddedig" yn cyfeirio at ollyngiadau nwy, ffrwydrad neu CO/tarthau
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gollyngiad nwy a reolir" yn cyfeirio at ollyngiad nwy sydd wedi cael eu hatal drwy ddiffodd y falf rheolaeth frys
Mae "Gollyngiad nwy nas rheolir" yn cyfeirio at ollyngiad nwy lle na ellir cadarnhau ei fod wedi'i ddiffodd neu ei reoli
Mae "System awyru ddigonol" yn cyfeirio at system awyru ddigonol er mwyn sicrhau na fydd unrhyw ollyngiadau bach yn datblygu i fod yn gymysgedd ffrwydrol
Mae "Tarthau" yn cyfeirio at ollyngiad cynnyrch hylosgi neu garbon monocsid
Mae "LPG" yn cyfeirio at nwy petrolewm hylifedig a gaiff ei gyflenwi naill ai gan lwythi o osodiadau tanciau neu silindrau
Mae "Pwysedd canolig" yn cyfeirio at bwysedd sy'n uwch na 75mbar ond nad ydynt yn uwch na 2bar
Mae "Pwysedd canolraddol" yn cyfeirio at bwyseddau sy'n uwch na 2bar ond nad ydynt yn uwch na 7bar
Mae "Pwysedd isel" yn cyfeirio ar bwysedd nad yw'n uwch na 75mbar
Mae "RIDDOR" yn cyfeirio at Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus
Mae "Man cyfyng" yn cyfeirio at fan sydd â mynedfa neu allanfa cyfyngedig, sy'n ddigon mawr i berson allu mynd i mewn i gyflawni tasgau ac sydd heb ei ddylunio ar gyfer deiliadaeth barhaus wedi'i gyflunio e.e. siambr, twll, ffos, pibell, ffos, ffliw, ffynnon, gwagle ac ati.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

DSG 3.16

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

delio, y rhoddir gwybod amdanynt, nwy, wrth brosesu, defnyddio, argyfwng, argyfyngau, cyfleustod, cyfleustodau