Ymateb i Argyfyngau wrth Gloddio Nwy y Rhoddir Gwybod Amdanynt
URN: EUSDSG3.15
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer y peirianwyr nwy sy'n gweithio ar nwy naturiol domestig ac mae'n diffinio'r cymhwysedd gofynnol i nodi, asesu, blaenoriaethu a lleihau'r risgiau a'r peryglon i fywyd, eiddo a'r amgylchedd yn ystod argyfyngau wrth gloddio nwy. Mae'n cynnwys sicrhau y caiff yr holl waith ei gwblhau'n ddiogel ac yn unol â'r gweithdrefnau a systemau gweithredol penodol sy'n gysylltiedig â lleihau a gwaredu risg.
**Nid yw'r safon hwn yn awgrymu bod un dull dilyniannol o ddeilio ag Argyfyngau wrth Gloddio Nwy y rhoddir gwybod amdanynt. Ni ellir rhagweld natur gollyngiadau nwy ac mae angen delio â nhw ar sail unigol.Dylid ymgymryd â chamau gweithredu â blaenoriaeth yn ôl gofyn pob adroddiad unigol. Dilynir "Polisïau a Gweithdrefnau" perthnasol y Darparwr Gwasanaeth Argyfwng wrth ddelio ag Argyfyngau wrth Gloddio Nwy.Fodd bynnag, disgwylir i ymgeiswyr arddangos cymhwysedd yn yr holl feysydd sgiliau, cymhwysedd a gwybodaeth a nodir er mwyn cydymffurfio â'r safon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Derbyn, Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth a Data
1. Derbyn y wybodaeth am y gwaith yn ymwneud â'r gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano heb unrhyw fanylion am bwy roddodd wybod am y gollyngiad a'i leoliad
2. Cadarnhau manylion gwybodaeth am y swydd gyda'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau er mwyn sicrhau y caiff y wybodaeth ei throsglwyddo'n gywir
3. Hysbysu'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau os na ellir cyrraedd y gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano o fewn y safonau. Cerbyd yn torri i lawr, problemau â thraffig ac ati.
4. Rhoi gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd y safle a chysylltu â'r person/pobl a roddodd wybod am y gollyngiad. Casglu'r holl wybodaeth am yr adroddiad gan y person/pobl.
5. Cael mynediad at fap o beiriannau'r cyfleustod er mwyn canfod safleoedd a lleoliad cyflenwadau nwy a gwasanaethau a chyfleustodau eraill. Nodi safleoedd IGT ac ardaloedd o ddiddordeb arbennig
6. Defnyddio gwybodaeth am y swydd ar y safle er mwyn helpu'r broses o leoli ac ynysu'r gollyngiad yn effeithiol
7. Cyfathrebu â'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau yn ystod y broses o leoli'r gollyngiad nwy ac yn dilyn hynny er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth am y sefyllfa ar y safle a'r holl wybodaeth barhaus
8. Galw am adnoddau ychwanegol a chymorth gan yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwasanaeth ambiwlans, yr awdurdod lleol, gwasanaethau ac ati mewn sefyllfaoedd digwyddiadau fel y bo'n briodol
9. Cyfathrebu â'r tîm atgyweirio peirianneg wrth drosglwyddo'r gwaith iddynt er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ganddynt ynglŷn â'r gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gasglwyd o safle'r gwaith
10. Ymgysylltu â chyrff allanol, deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod yr argyfwng wrth gloddio nwy a'u diweddaru er mwyn sicrhau'r aflonyddwch lleiaf i'r gwaith a safle'r gwaith
11. Sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn glir, cryno, cywir ac yn gyfredol
12. Rhoi gwybod am unrhyw oedi i'r gwaith i'r rheini sydd angen y wybodaeth
13. Cwblhau'r ddogfennaeth gan nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd gan ddefnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni a sicrhau eu bod yn unol â gofynion statudol
Defnyddio Cyfarpar Canfod Nwy a Diogelwch cymeradwy
14. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau, cyfarpar a'r cyfarpar er mwyn cynnal profion sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch yr argyfwng wrth gloddio nwy ar gael yn ôl yr angen
a'u bod yn addas at y diben
15. Nwyon eraill a nodir ac sydd ynghlwm â'r gwaith e.e. LPG, cynnal y camau gweithredu priodol er mwyn canfod nwy yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
16. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch argyfyngau nwy
17. Gwirio bod y cyfarpar canfod nwy yn gymeradwy, cyfredol, wedi'u graddnodi'n gywir a'u bod yn addas ar gyfer gweithgarwch yr argyfwng arfaethedig wrth gloddio nwy
Asesu'r Risgiau i Fywyd, Eiddo a'r Amgylchedd yn ystod
Argyfyngau Nwy
18. Cyrraedd y gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano neu sefyllfa gydnabyddedig arall mewn argyfwng heb unrhyw oedi er mwyn cydymffurfio â'r safonau ymateb
19. Lleoli'r cerbyd a'r cyfarpar er mwyn osgoi peryglon tanio
20. Sicrhau bod cyfarpar diogelu a Chyfarpar Diogelu Personol ar gael i'w defnyddio yn unol ag asesiad risg penodol y safle gwaith
21. Defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogelwch priodol drwy gydol gweithgareddau'r argyfwng wrth gloddio nwy
22. Cynnal yr holl arsylwadau a'r gwiriadau gweledol ar y safle
23. Gwirio am ogleuon a nwyon yn mynd i mewn i'r eiddo a gwagleoedd cyfagos neu sydd gyferbyn â'r gollyngiad y rhoddwyd gwybod amdano yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
24. Cymryd samplau awyrgylch lefel uchel ac isel a'u cofnodi o ofodau mewnol a gwagleoedd yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
25. Dilyn gweithdrefnau'r diwydiant er mwyn symud personél, ynysu cyfarpar nwy a thrydan ac i awyru eiddo fel y bo'n briodol
26. Cymryd camau rhagofalus er mwyn atal pobl heb awdurdod rhag cael mynediad i'r ardaloedd a gaiff eu gwacáu drwy ddefnyddio bariau, tâp ac arwyddion rhybudd
27. Cymryd samplau nwy priodol o eiddo a gwagleoedd na ellir cael mynediad iddynt a'u cofnodi yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
28. Defnyddio gweithdrefnau'r cwmni a'r diwydiant er mwyn cael mynediad gorfodol i eiddo sydd wedi'u cloi ac sy'n wag
29. Canfod peiriannau tanddaearol gan ddefnyddio cyfarpar i osgoi peiriannau. Ar ôl cynnal y gwiriadau hyn, dylid gwneud tyllau bar yn ôl y gofyn gan ddefnyddio'r dulliau a'r cyfarpar cywir
30. Cymryd y samplau nwy priodol allanol a'u cofnodi mewn pob agoriad damweiniol gan gynnwys; o dyllau bar, gwagleoedd, dwythellau, carffosydd, dwythellau telathrebu, mewn dodrefn stryd neu o'u hamgylch, mewn tai a siambrau llywodraethwyr neu o'u hamgylch ac ati, yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
31. Canfod maint y gollyngiad neu sefyllfa gydnabyddedig arall mewn argyfwng gan gynnwys faint o bobl ac eiddo a gaiff eu heffeithio neu a allai gael eu heffeithio
32. Nodi ac asesu unrhyw beryglon, lefel eu risg a'u difrifoldeb a nodi'r canfyddiadau
33. Lleoli'r gollyngiad neu drosglwyddo'r gwaith i'r tîm atgyweirio peirianneg
34. Parhau i fonitro'r gollyngiad neu unrhyw sefyllfa gydnabyddedig arall mewn argyfwng a gwirio'r holl grynodiadau nwy y tu allan a'r tu mewn i'r eiddo yr effeithir arnynt yn ystod y gwaith o atgyweirio ac yn dilyn y gwaith
35. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra er mwyn cadarnhau uniondeb unrhyw system nwy a osodwyd
36. Gweithio'n ddiogel bob amser yn unol â Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd ac arferion a gweithdrefnau cymeradwy y diwydiant gan gynnwys; yr unigolyn ac eraill, gofynion sefydliadol, gofynion rheoleiddiol, gofynion statudol, polisïau'r cwmni ac asesiadau risg
Dileu a Lleihau'r Risgiau i Fywyd, Eiddo a'r Amgylchedd yn ystod Argyfyngau Nwy
37. Cyn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ar y safle, rhaid cynnal asesiad risg penodol i'r safle sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer safle gwaith, mynediad i safle'r gwaith, symud y gweithlu, aelodau'r cyhoedd a symud a storio deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
38. Arolygu safle'r gwaith cyn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch yn ymwneud â gollyngiadau wrth gloddio nwy ar gyfer unrhyw ddifrod neu ddiffygion i'r nodweddion adeiladu presennol a'u cofnodi
39. Cynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion y canfyddir
40. Diogelu safle'r gwaith ac adeiladwaith yr adeilad rhag unrhyw ddifrod y gallai'r gwaith yn ymwneud ag argyfwng wrth gloddio nwy ei achosi
41. Blaenoriaethu peryglon a chymryd camau er mwyn lleihau'r risg, yn nhrefn blaenoriaeth. Cymryd camau gweithredu prydlon er mwyn nodi peryglon yn ddiogel y gellir eu hunioni'n ddiogel gan gynnwys; gwacáu, mynediad gorfodol, lleihau gollyngiadau, awyru, creu ardaloedd diogel, atal ysmygu, sicrhau bod diffoddyddion tân yn barod, defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogelu a gwlych ardal y gwaith (lle y bo'n briodol)
42. Monitro effeithiolrwydd y mesurau rheoli risg a chymryd camau gweithredu prydlon ychwanegol lle y bo'n briodol
43. Creu a chynnal ardal waith ddiogel
44. Nodi'r ffynonellau tanio a'r ffynonellau tanio posibl a dileu neu leihau'r risg
45. Awyru'r eiddo, gwagleoedd, dwythellau, draeniau a dodrefn stryd eraill lle y bo'n briodol
46. Monitro ac ail-wirio safle'r gwaith yn rheolaidd a chofnodi unrhyw beryglon ychwanegol
47. Lleoli'r gollyngiad a dilyn gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer trosglwyddo'r gwaith i'r tîm atgyweirio peirianneg
48. Defnyddio dulliau, profion a'r gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau nwy ac elfennau anniogel lle y bo'n briodol
49. Cymryd camau rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw systemau nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
50. Symud a datgysylltu systemau nwy ac elfennau anniogel yn barhaol lle y bo'n briodol
51. Ymgymryd ag atgyweirad(au) dros dro lle y bo'n briodol
52. Gofyn am gymorth yn ôl y gofyn
53. Monitro, ail-wirio a chofnodi lefelau'r crynodiad nwy y tu allan a'r tu mewn i'r eiddo neu safle'r gwaith yn rheolaidd lle y bo'n briodol neu yn ôl y gofyn
54. Rhoi gwybod am unrhyw ymyriadau i gyflenwadau nwy a phwyseddau gwael
55. Asesu goblygiadau'r argyfwng, ymgymryd ag asesiad peryglon a chytuno ar y camau gweithredu i'w cymryd mewn ymgynghoriad â'r person/pobl priodol
Ymgymryd ag Arolygon Safleoedd er mwyn Pennu maint a lefelau Crynodiadau'r Gollyngiadau Nwy
56. Cynnal arolwg o'r safle ac asesiad risg o'r sefyllfa; Pennu p'un a yw'n Nwy Naturiol neu'n LPG, wedi'i reoli neu beidio, yn wasgariad o grynodiadau a darlleniadau nwy, p'un a yw'r gollyniad y tu allan i'r eiddo neu'n olrhain yn fewnol iddynt, lefel y crynodiadau a'r darlleniadau nwy, lleoliad yr eiddo agosaf, lleoliad unrhyw wagleoedd cyfyng, unrhyw gyfleustodau eraill sy'n bresennol lle y gall nwy eu holrhain, dwysedd traffic modur a cherddwyr, deunydd y bibell nwy, hanes y gollyngiad, arwyddion gweledol o waith blaenorol, amodau'r tywydd a'r ddaear neu ddiffyg canlyniadau olrhain
57. Categoreiddio'r canlyniad o'r arolygiad safle a chymryd y camau angenrheidiol er mwyn blaenoriaethu gollyngiad mewn unrhyw sefyllfa anniogel yn unol â safonau a gweithdrefnau'r diwydiant
58. Cynnal arsylwadau gweledol ac ail-wirio mapiau system(au) nwy
59. Cadarnhau lleoliad gwasanaethau eraill o amgylch safle'r gwaith gan ddefnyddio lleoliad peiriannau priodol ac arolwg osgoi peiriannau
Archwiliad Terfynol, Gadael y Safle Gwaith Uniongyrchol yn Ddiogel
60. Gwirio a chofnodi lefelau'r crynodiad nwy yn fewnol ac yn allanol i'r eiddo neu safle'r gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i adael y safle ac ail-lenwi'r eiddo lle y bo'n briodol
61. Dilyn gweithdrefnau a meini prawf y diwydiant er mwyn pennu a chadarnhau ei fod yn ddiogel i adael y safle yn dilyn y gwaith atgyweirio ac mewn achosion lle na chaiff unrhyw ollyngiad ei ganfod
62. Rhoi gwybod am ganfyddiadau, manylion a chamau gweithredu i uwch berson ar y safle; arweinydd tîm, rheolwr llinell cyntaf ac ati.
63. Rhoi gwybod am ganfyddiadau, manylion a chamau gwithredu i ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau
Datrys problemau o fewn maes cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar yr argyfwng
64. Rhoi gwybod am fanylion unrhyw ddiffygion yn y system(au) nwy ac elfennau a'r camau gweithredu a gymerwyd i'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau, uwch berson ar safle; arweinydd tîm, rheolwr llinell cyntaf ac ati.
65. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
65.1. lle y mae gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy yn datgelu diffygion yn y system nwy neu elfennau
65.2. lle na ellir adfer system nwy ac elfennau i'r perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Ymateb i argyfyngau wrth gloddio nwy
4. Gwybodaeth o'r Gweithdrefnau Gweithredu perthnasol a'u defnyddio er mwyn ymateb i ollyngiadau nwy ac argyfyngau eraill
5. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol y mae angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy
6. Dulliau ar gyfer mynediad diogel a gweithio gydag uchderau
7. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
8. Y dulliau o weithio sy'n diogelu'r adeilad, eiddo'r cwsmer a'r systemau nwy ac elfennau sydd eisoes yn bodoli
9. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
10. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy - gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
11. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
12. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i gychwyn ar y gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy
13. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy a'r gwiriadau i'w cynnal cyn i'r gwaith gychwyn
14. Safonau gwasanaeth y cwmni er mwyn mynychu; gollyngiadau nwy a reolir a nas rheolir a gwaith ar fesuryddion diffygiol
15. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cynnal gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy ar bwyseddau isel, canolig, canolraddol neu uchel tra'n cydymffurfio â'r canlynol; safonau a gweithdrefnau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) Safonau Prydeinig
16. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer cynnal gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy ar bwyseddau isel, canolig, canolraddol neu uchel;gan gynnwys gollyngiadau nwy y rhoddwyd gwybod amdanynt, allyriadau tarthau o gyfarpar nwy, tân neu ffrwydrad lle y tybir mai nwy yw achos sefyllfaoedd cyflenwad nwy a'r golled
17. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant yn ymwneud ag "un person yn gweithio"
18. Rheoliadau Diogelwch Nwy (Hawl Mynediad) a'u goblygiadau gan gynnwys; cael mynediad i eiddo, hysbysu'r ganolfan rheoli anfoniadau ar gyfer argyfyngau a'r rheolwr llinell a'r goblygiadau
19. Rheoliadau Mannau Cyfyngedig a'u goblygiadau gan gynnwys gweithio mewn gwagleoedd, siambrau, tyllau, ffosydd, pibellau, carffosydd, ffliwiau, ffynhonnau, ac ati.
20. Gwybodaeth am Adeiladu a'r cynlluniau ar gyfer eiddo domestig ac eiddo bach masnachol gan gynnwys mathau o: sylfeini; waliau; lloriau; nenfydau; toeau; a gwasanaethau eraill mewn eiddo
21. Sut a ble i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig ac Ewropeaidd a gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb a safonau'r diwydiant
22. Goblygiadau Iechyd a Diogelwch yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
23. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant a'r camau i'w cymryd er mwyn nodi peryglon yn ddiogel a ellir eu hunioni'n ddiogel gan gynnwys; gwacáu, mynediad gorfodol, lleihau gollyngiadau, awyru a chreu ardaloedd diogel
24. Y mesurau a'r camau gweithredu rhagofalus i'w cymryd mewn amgylchedd a allai fod yn nwyol gan gynnwys: lleihau'r risg o danio, sicrhau y caiff ei awyru'n ddigonol, lleoli cerbydau a chyfarpar, defnyddio bondiau parhau dros dro, atal ysmygu, sicrhau bod diffoddyddion tân yn barod, defnyddio'r holl Gyfarpar Diogelu Personol a'r cyfarpar diogel a gwlychu ardal y gwaith
25. Adnabod y ffynonellau tanio posibl; goleuadau stryd, arwyddion stryd trydanol, cerbydau modur, simneiau ffliw cytbwys, switsys trydanol, peiriannau prosesu diwydiannol, ffonau symudol, llinellau pŵer uwchben ac ati.
26. Y gweithdrefnau, mesurau a'r camau gweithdrefnau rhagofalus i'w cymryd mewn amgylchedd a allai gynnwys carbon monocsid gan gynnwys gweithrediadau larwm CO; gwacáu, mynediad gorfodol a sicrhau y caiff ei awyru'n ddigonol
27. Effeithiau a symptomau carbon monocsid a rhoi cyngor allweddol i bobl y gallai'r tarthau effeithio arnynt
28. Arferion, technegau a gweithdrefnau'r diwydiant er mwyn creu tyllau bar
29. Gofynion NRSWA ar ôl creu'r tyllau bar
30. Y broses o ddethol a gweithredu cyfarpar canfod nwy
31. Technegau a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer y canlynol:
31.1. defnyddio cyfarpar canfod nwy
31.2. defnyddio cyfarpar i osgoi peiriannau tanddaearol
31.3. cadarnhau diogelwch trydanol - Diffyg Trydan
31.4. defnyddio cyfarpar canfod trydan megis "Voltstick"
32. Y broses o ddethol a gweithredu cyfarpar i osgoi peiriannau tanddaearol
33. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant o ran isafswm maint ardal yr archwiliad wrth ddeilio â gollyngiadau wrth gloddio nwy y rhoddir gwybod amdanynt
34. Dulliau, profion a'r gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau nwy ac elfennau
35. Y gweithdrefnau er mwyn datgomisiynu systemau nwy ac elfennau dros dro ac yn barhaol gan gynnwys y defnydd o fondiau parhad dros dro
36. Y camau rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw systemau nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu yn cyflwyno perygl diogelwch
37. Y mesurau i atal systemau nwy ac elfennau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau gan ddefnyddio hysbysiadau diogelwch a rhybudd
38. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd y systemau nwy ac elfennau
39. Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
40. Y pwyntiau yn y gweithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy lle y mae'n bosibl y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â gwasanaethau bryd, masnachau eraill a deiliaid eiddo
41. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer ail-gysylltu â gwasanaethau mewnbwn nwy
42. Dulliau cysylltu elfennau â systemau nwy
43. Y defnydd, cwmpas, gofynion a'r gweithdrefnau ar gyfer profion tyndra a chlirio i gydymffurfio â safonau cymeradwy y diwydiant
44. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio nwy ar gyfer systemau a chyfarpar nwy
45. Sut i nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd gan ddefnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni a sicrhau eu bod yn unol â gofynion statudol ar gyfer yr holl weithgarwch argyfwng wrth gloddio nwy
46. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer comisiynu systemau nwy
47. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer delio â thanau a ffrwydradau a allai ddigwydd oherwydd y gollyngiad nwy neu beidio gan gynnwys gofynion RIDDOR
48. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer y canlynol:
48.1. ymateb i ollyngiadau o Systemau Trawsyrru Cenedlaethol neu Leol (gollyngiadau â phwysedd uchel) o linellau pibellau a gosodiadau uwchben y ddaear
48.2. uwchgyfeirio gollyngiadau nwy gan gynnwys pryd, sut a phwy i roi gwybod amdanynt iddynt
48.3. ail-lenwi eiddo ar ôl gwacáu
48.4. ymateb yn gywir i gymylau nwy
48.5. ymateb i ymyriadau i gyflenwadau nwy ac adroddiadau o bwysedd isel gan gynnwys dŵr yn mynd i mewn, methiant pibellau, pibellau wedi'u blocio, gwall dynol, methiant yn y cyfarpar, difrod allanol
48.6. echdynnu dŵr o wasanaethau gan gynnwys defnyddio cyfarpar echdynnu dŵr gan ddarparu cyfarpar gwresogi a choginio amgen lle y bydd nwyon na chaiff nwy ei ddargludo
49. Rhinweddau a nodweddion LPG
50. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer ymateb i'r canlynol:
50.1. gollyngiadau nwy, tanau a ffrwydradau o LPG
50.2. ymyriadau i gyflenwadau nwy ac adroddiadau o bwyseddau isel ar LPG
50.3. gollyngiadau nwy, tanau a ffrwydradau mewn eiddo annomestig
50.4. ymyriadau i gyflenwadau nwy ac adroddiadau o bwyseddau isel mewn eiddo annomestig
50.5. nwy yr amheuir a gafodd ei ddwyn
50.6. dim sefyllfaoedd y gellir eu holrhain gan gynnwys ail-wiriadau 50.7. diffyg mynediad i eiddo
50.8. archwiliadau digwyddiadau nwy
51. Arferion a gweithdrefnau'r diwydiant ar gyfer trosglwyddo'r safle a gadael y safle a chyfnewid falfiau rheolaeth fryd (ECVs) a falfiau rheoli mewnfa mesuryddion (MIVs)
52. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
53. Sut i ynysu systemau ac elfennau nwy anniogel a defnyddio gweithdrefn y diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd anniogel
54. Sut i ddefnyddio'r fersiwn gyfredol o Weithdrefn Sefyllfaoedd Anniogel y Diwydiant gan gynnwys y sefyllfaoedd canlynol; pryder am ddiogelwch, mewn perygl, yn beryglus yn uniongyrchol a RIDDOR
55. Gofynion statudol ar gyfer nodi canlyniadau'r profion a'r camau a gymerwyd a defnyddio systemau a dogfennaeth adrodd yn ôl y cwmni
56.. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
57. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd. Sut a lle i gael mynediad i'r wybodaeth ofynnol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Flambeaux Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored "Wrth Gloddio" yn cyfeirio ar y rhwydweithiau nwy o'r derfynell nwy i'r falf rheolaeth frys
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gollyngiad nwy a reolir" yn cyfeirio at ollyngiad nwy sydd wedi cael eu hatal drwy ddiffodd y falf rheolaeth frys
Mae "Gollyngiad nwy nas rheolir" yn cyfeirio at ollyngiad nwy lle na ellir cadarnhau ei fod wedi'i ddiffodd neu ei reoli
Mae "Argyfwng cydnabyddedig" yn cyfeirio at ollyngiadau nwy, ffrwydrad neu
CO/tarthau
Mae "System awyru ddigonol" yn cyfeirio at system awyru ddigonol er mwyn sicrhau na fydd unrhyw ollyngiadau bach yn datblygu i fod yn gymysgedd ffrwydrol
Mae "Tarthau" yn cyfeirio at ollyngiad cynnyrch hylosgi neu garbon monocsid
Mae "LPG" yn cyfeirio at nwy petrolewm hylifedig a gaiff ei gyflenwi naill ai gan lwythi o osodiadau tanciau neu silindrau
Mae "Pwysedd uchel" yn cyfeirio at bwysedd sy'n uwch na 7bar
Mae "Pwysedd canolraddol" yn cyfeirio at bwyseddau sy'n uwch na 2bar ond nad ydynt yn uwch na 7bar
Mae "Pwysedd canolig" yn cyfeirio at bwysedd sy'n uwch na 75mbar ond nad ydynt yn uwch na 2bar
Mae "Pwysedd isel" yn cyfeirio ar bwysedd nad yw'n uwch na 75mbar
Mae "RIDDOR" yn cyfeirio at Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu
Ddigwyddiadau Peryglus
Mae "Man cyfyng" yn cyfeirio at unrhyw fan sydd â mynedfa neu allanfa cyfyngedig, sy'n ddigon mawr i berson allu mynd i mewn i gyflawni tasgau ac sydd heb ei ddylunio ar gyfer deiliadaeth barhaus wedi'i gyflunio e.e. siambr, twll, ffos, pibell, ffos, ffliw, ffynnon, gwagle ac ati.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.15
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol
Cod SOC
Energy & Utility Skills
Geiriau Allweddol
y rhoddir gwybod amdanynt, nwy, wrth gloddio, ymyriad, argyfwng, argyfyngau, cyfleustod,cyfleustodau