15. Sut i gadarnhau bod y system ddwythellau sydd eisoes yn bodoli yn ddigonol ar gyfer y cyfarpar, system ac elfennau gwres canolog aer cynnes
16. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
17. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
18. Y rhagofalon i sicrhau nad yw cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
19. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
20. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
21. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, cynnal a chadw ac ail-gomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
22. Y mathau o gyfarpar gwres canolog aer cynnes er mwyn sicrhau y caiff y gwresogydd cywir ei ddethol; llif isel, uchel, llorweddol a gosodiad sy'n slotio
23. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod cyfarpar, systemau ac elfennau nwy gwres canolog aer cynnes i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
24. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau nwy gwres canolog aer cynnes i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
25. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau o wres canolog aer cynnes mewn; cypyrddau sychu, adrannau, gwagleoedd yn y to, gosodiadau sydd wedi'u slotio ac o dan y grisiau er mwyn cydymffurfio â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
26. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer gosod; dwythellau aer cynnes, dwythellau aer a ddychwelir, plenwm, addasyddion plenwm, griliau trosglwyddo, damperi a griliau
27. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cysylltu â gwasanaethau mewnbwn gan gynnwys; systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau gan gynnwys cyflenwad aer naturiol a chyflenwad a gaiff ei awyru
28. Arferion y diwydiant a safonau'r gwaith er mwyn cysylltu cyfarpar ac elfennau nwy gwres canolog aer cynnes â systemau
nwy, trydanol, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
29. Arferion y diwydiant a gofynion y gwneuthurwr er mwyn lleoli a gosod draen cyddwyso er mwyn cyddwyso unedau aer cynnes
30. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio ar gyfer elfennau, systemau a chyfarpar nwy
31. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion trydanol ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
32. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer y broses o gynnal a chadw cyfarpar gwres canolog aer cynnes domestig, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
33. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer comisiynu cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes domestig, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
34. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau yn gweithredu ac yn perfformio'n gywir a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio
35. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau'n gweithredu ac yn perfformio'n gywir a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
36. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau a) pwyseddau gweithredu'r system nwy
b) pwyseddau gweithredu'r cyfarpar a'r gyfradd nwy
37. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
38. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
39. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion cynnal a chadw er mwyn eu gadael â deiliad yr eiddo Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
40. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad systemau ac elfennau ailosod i ddefnyddwyr terfynol
41. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
42. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
43. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylcheddau yn ddiogel
44. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy