Gosod gwresogyddion a chyfarpar aer â dwythellau nwy

URN: EUSDSG3.10
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn gymwys i beirianwyr nwy sydd angen gosod, cyfnewid a thynnu gwresogyddion aer â dwythellau nwy domestig oddi yno ac mae'n cynnwys yr amrywiaeth canlynol o gyfarpar:

Unedau gwres canolog aer cynnes Llif isel, Uchel, Llorweddol a Gosodiadau sy'n Slotio. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, gosod, cyfnewid, datgysylltu, datgomisiynu a chomisiynu'r cyfarpar hwnnw.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer gwresogyddion aer â dwythellau nwy

1. Nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cwsmer
2. Cymharu gofynion gwaith y cwsmer â gofynion statudol a gofynion y diwydiant a nodi unrhyw faterion a allai wrthdaro
3. Arolygu safle'r gwaith ac edrych ar ddiagramau safle fel y bo angen ar gyfer unrhyw nodweddion strwythurol pwysig a diffygion sy'n bodoli a allai effeithio ar y gwaith o'u gosod a'u cofnodi, gan gynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ddarganfyddir
4. Gwirio bod lleoliad arfaethedig y cyfarpar yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoli, gosod a chlirio
5. Gwirio bod maint, lleoliad ac argaeledd yr holl wasanaethau mewnbwn angenrheidiol yn bodloni gofynion safonau gwneuthurwr a diwydiant y cyfarpar ar gyfer y gwaith gosod gan gynnwys gwasanaethau a systemau
6. Gwirio a sicrhau bod dyluniad y gosodiad arfaethedig yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant
7. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
8. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a gosod
9. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
10. Cadarnhau bod y cyflenwad nwy, cyflenwad trydan, y ddarpariaeth o system awyru ac addasrwydd y simneiau lle y bo angen yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
11. Cynnal yr holl wiriadau a'r profion angenrheidiol er mwyn cadarnhau bod y cyflenwad nwy, cyflenwad trydan a'r system simneiau lle y bo angen yn bodloni gofynion y gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
12. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen

Datgomisiynu gwresogyddion aer â dwythellau nwy yn ôl safonau'r diwydiant

13. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn  
 sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
14. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
15. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
16. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn cyflwyno perygl diogelwch
17. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system drydanol oddi yno yn barhanol fel y bo angen

Gosod, cyfnewid a symud gwresogyddion aer â dwythellau nwy oddi yno yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

18. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni gofynion gosod y gwneuthurwr
19. Cynnal y broses gosod er mwyn lleihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu
20. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch gosod
21. Symud elfennau o systemau nwy a thrydan sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y cynllun gosod
22. Cynhyrchu elfennau o systemau nwy a thrydan yn ôl gofyn y cynllun gosod
23. Cynhyrchu'r system ddwythellau newydd neu sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gosod y cyfarpar, systemau neu'r elfennau newydd neu er mwyn ymestyn y system ddwythellau
24. Lleoli'r cyfarpar a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
25. Darparu'r system awyru ofynnol ar gyfer gosodiadau a systemau cyfarpar newydd neu ailosodiadau
26. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
27. Atgyweirio a chysylltu elfennau o systemau nwy a thrydan i'r cyfarpar
28. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra a chlirio a phrofion trydanol i gadarnhau uniondeb y system a'r cyfarpar nwy a osodwyd
29. Defnyddio gweithdrefnau gwirio a phrofi safonol i gadarnhau uniondeb y system simneiau a seliau ffliw y cyfarpar newydd neu 
sydd eisoes yn bodoli
30. Cymryd camau gweithdredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd

Comisiynu a chomisiynu gwresogyddion aer â dwythellau nwy ymlaen llaw yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

31. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y cyfarpar yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a'r Safonau Adeiladu
32. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
33. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
34. Gwirio a chadarnhau'r canlynol:
34.1. bod pwyseddau gweithredu'r system nwy yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant 
34.2. bod pwysedd gweithredu a chyfradd nwy y cyfarpar yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant a gofynion y gwneuthurwr
35. Gwirio'r perfformiad hylosgi'n weledol a dadansoddi nwyon ffliw fel y bo angen
36. Profi perfformiad simnai ac ailgadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
37. Ailgadarnhau bod y gofynion awyru yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
38. Gwirio a chadarnhau gweithrediad yr elfennau, systemau a'r cyfarpar a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
39. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i wetihredu'r cyfarpar a'r system nwy yn gywir a darparu copi o lenyddiaeth cyfarpar ar eu cyfer

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu

40. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo a phobl eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, gosod a chomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
41. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a gwybodaeth o gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
42. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
43. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
44. Cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn cadarnhau bod elfennau, systemau a chyfarpar nwy yn cael eu comisiynu'n ddiogel
45. Cwblhau cofnodion datgomisiynu cyfarpar a'r system nwy
46. Cyflwyno manylion ar gyfer y cyfarpar gosod a chyfnewid i'r Cynllun Hysbysiad Gwaith Nwy

Datrys problemau o fewn eich dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu

47. Unioni problemau o fewn eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
48. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy yn yr achosion canlynol: 
48.1. lle y mae gwiriadau a phrofion cyn ymgymryd â'r gwaith o gomisiynu yn datgelu diffygion mewn cyfarpar nwy, system nwy neu elfennau
48.2. lle nad yw cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofynion dylunio
48.3. lle na ellir adfer cyfarpar nwy, y system nwy neu'r elfennau i'w perfformiad llawn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth Gyffredinol

1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun

Dadgomisiynu, gosod a chomisiynu gwres canolog aer cynnes

4. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y broses gosod ddomestig
5. Mynediad diogel a gweithio gydag uchderau
6. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
7. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
8. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
9. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, gosod a chomisiynu'r system nwy
– gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
10. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
11. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
12. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi’r gweithgarwch datgomisiynu, gosod a chomisiynu
13. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r cyfarpar, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
14. Sut i fesur a chofnodi manylion y gwaith gosod a'r safle at ddibenion rhag-gynhyrchu
15. Sut i gadarnhau bod y gwasanaethau a'r systemau yn ddigonol er mwyn gosod y cyfarpar nwy a'r elfennau newydd neu, i ymestyn y system
16. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
17. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
18. Y rhagofalon i sicrhau nad yw cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
19. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
20. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy
21. Y camau yn ystod y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu lle y bydd angen cydweithio ac ymgysylltu â masnachau a deiliaid eiddo eraill o bosibl
22. Y mathau o gyfarpar gwres canolog aer cynnes er mwyn sicrhau y caiff y gwresogydd cywir ei ddethol; llif isel, uchel, llorweddol a gosodiad sy'n slotio
23. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer mesur cyfarpar gwres canolog aer cynnes
24. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod cyfarpar, systemau ac elfennau nwy gwres canolog aer cynnes i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
25. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau nwy gwres canolog aer cynnes i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
26. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau o wres canolog aer cynnes mewn; cypyrddau sychu, adrannau, gwagleoedd yn y to, gosodiadau sydd wedi'u slotio ac o dan y grisiau 
er mwyn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
27. Arferion y diwydiant a'r safonau gwaith er mwyn cynhyrchu systemau dwythellau newydd neu sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gosod cyfarpar, systemau ac elfennau gwres canolog aer cynnes
28. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer gosod; dwythellau aer cynnes, dwythellau aer a ddychwelir, plenwm, addasyddion plenwm, griliau trosglwyddo, damperi a griliau
29. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cysylltu â gwasanaethau mewnbwn gan gynnwys; systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau, gan gynnwys cyflenwad aer naturiol a chyflenwad a gaiff ei awyru 
30. Arferion y diwydiant a safonau'r gwaith er mwyn cysylltu cyfarpar ac elfennau gwres canolog aer cynnes â systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
31. Arferion y diwydiant a gofynion y gwneuthurwr er mwyn lleoli a gosod draen cyddwyso er mwyn cyddwyso unedau aer cynnes
32. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion tyndra a chlirio ar gyfer elfennau, systemau a chyfarpar nwy
33. Y broses a'r gweithdrefnau, y cyfarpar a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cynnal profion trydanol ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel
34. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer comisiynu cyfarpar gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
35. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau yn gweithredu ac yn perfformio'n gywir a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio
36. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau'n gweithredu ac yn perfformio'n gywir a sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel
37. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau'r canlynol:
a) pwyseddau gweithredu'r system nwy
b)pwyseddau gweithredu'r cyfarpar a'r gyfradd nwy
38. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
39. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
40. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion gosod a chomisiynu er mwyn eu gadael gyda'r eiddo Y mesurau i atal systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
41. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad cyfarpar nwy gwres canolog aer cynnes, systemau nwy ac elfennau i ddefnyddwyr terfynol
42. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
43. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
44. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylcheddau yn ddiogel
45. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.

Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, 
Barbeciwiau, Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Gwresogyddion aer â dwythellau nwy" yn cyfeirio at Unedau Aer Cynnes Sylfaenol ac Unedau Aer Cynnes Cyfunol – maent yn ymgorffori Gwresogydd Dŵr ar ffurf Cylchredwr sy'n Storio Nwy. Mae'n bosibl y cânt eu cyflunio fel Llif Isel, Uchel a Llorweddol a Gosodiad sy'n Slotio ac yn cynnwys Simneiau Agored, Simneiau Wedi'u Selio mewn Ystafelloedd a Simneiau wedi'u Drafftio â Ffan.
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau dwythellau ac awyru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

DSG 3.10

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

Gosod, nwy, aer cynnes, gwres canolog, systemau, cyfleustod, cyfleustodau