Etifeddiaeth Gosod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
URN: EUSDSG3.1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddio nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn ar gyfer peirianwyr nwy sydd angen gosod, cyfnewid a symud ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden oddi yno. Mae'r safon hwn yn cwmpasu'r gweithgarwch gwaith o gynllunio, gosod, cyfnewid, datgysylltu, datgomisiynu a chomisiynu'r cyfarpar hwnnw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgarwch gwaith ar gyfer gosod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
1. Nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cwsmer yn unol â gofynion y cwmni a'r diwydiant a gofynion statudol
2. Arolygu safle'r gwaith ac edrych ar ddiagramau safle fel y bo angen ar gyfer unrhyw nodweddion strwythurol pwysig a diffygion sy'n bodoli a allai effeithio ar y gwaith o'u gosod a'u cofnodi, gan gynghori deiliad yr eiddo ar unrhyw ddiffygion a ddarganfyddir
3. Gwirio bod lleoliad arfaethedig y cyfarpar yn bodloni gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer lleoli, gosod a chlirio
4. Gwirio bod maint, lleoliad ac argaeledd yr holl wasanaethau mewnbwn angenrheidiol yn bodloni gofynion gwneuthurwr y cyfarpar a safonau’r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
5. Llunio asesiad risg a datganiad dull sy'n ymgorffori'r darpariaethau diogelwch ar gyfer y safle gwaith, mynediad i'r safle gwaith, symud y gweithlu, aelodau o'r cyhoedd, symud a diogelu deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ar gyfer y gwaith
6. Diogelu safle'r gwaith a ffabrig yr adeilad rhag achosi difrod posibl yn ystod y broses o ddatgomisiynu a gosod
7. Gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu ar gael yn ôl yr angen a'u bod yn addas at y diben
8. Cynnal yr holl wiriadau a'r profion angenrheidiol er mwyn cadarnhau bod gwasanaethau a systemau yn bodloni gofynion y gwneuthurwr a'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
9. Gwirio'r gosodiadau sy'n bodoli am unrhyw gyfarpar ac elfennau o systemau nad ydynt yn ddiogel a defnyddio gweithdrefnau'r diwydiant nwy ar gyfer sefyllfaoedd peryglus fel y bo angen
Datgomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
10. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir datgomisiynu'n ddiogel
11. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch datgomisiynu
12. Defnyddio dulliau, profion a gweithdrefnau dynodedig ar gyfer ynysu'n ddiogel er mwyn datgomisiynu systemau ac elfennau nwy a thrydan
13. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfarpar, systemau nag elfennau sydd wedi'u datgomisiynu dros dro yn creu perygl diogelwch
14. Datgysylltu a symud cyfarpar, elfennau o'r system nwy a'r system drydanol oddi yno yn barhaol fel y bo angen
Gosod, Cyfnewid a Symud ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden oddi yno yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
15. Cynnal gwaith paratoi er mwyn bodloni gofynion gosod y gwneuthurwr
16. Cynnal y broses gosod er mwyn lleihau'r difrod i eiddo'r cwsmer a nodweddion adeiladu
17. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch gosod
18. Symud elfennau o systemau nwy a thrydan sydd eisoes yn bodoli yn ôl gofyn y gwaith gosod
19. Cynhyrchu elfennau o systemau nwy a thrydan yn ôl gofyn y gwaith gosod
20. Lleoli'r cyfarpar a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r lleoliad a'r cliriad sydd eu hangen yn ôl gofyn safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant
21. Darparu'r system awyru gofynnol ar gyfer gosodiadau a systemau cyfarpar newydd neu ailosodiadau
22. Sicrhau bod systemau nwy sydd eisoes yn bodoli yn lân a heb unrhyw weddillion
23. Atgyweirio a chysylltu elfennau o systemau nwy a thrydan i'r cyfarpar
24. Defnyddio gweithdrefnau profion tyndra, clirio a thrydanol i gadarnhau uniondeb y systemau a'r cyfarpar a osodir yn unol â safonau'r diwydiant
25. Cymryd camau gweithredu rhagofalus er mwyn atal y defnydd anawdurdodedig o gyfarpar nwy heb eu comisiynu, systemau nwy, systemau ac elfennau trydanol drwy weithdrefnau ynysu a'r defnydd o hysbysiadau rhybudd
Comisiynu a chomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden ymlaen llaw yn ôl safonau'r diwydiant a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
26. Cadarnhau bod yr holl waith gosod ar gyfer y cyfarpar yn cydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a'r Safonau Adeiladu
27. Gwirio y bydd amodau o fewn y systemau nwy a thrydan yn sicrhau y gellir comisiynu'n ddiogel
28. Dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer gweithgarwch comisiynu
29. Gwirio a chadarnhau bod pwyseddau gweithredu'r system a'r cyfarpar a'r gyfradd nwy yn bodloni gofynion y diwydiant a'u bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
30. Gwirio'r perfformiad hylosgi'n weledol a dadansoddi nwyon ffliw fel y bo angen
31. Profi perfformiad simnai ac ail-gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â gofynion safonau'r gwneuthurwr a'r diwydiant fel y bo angen
32. Ail-gadarnhau bod y gofynion awyru yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant ar gyfer y gwaith gosod
33. Hyfforddi deiliad yr eiddo ar sut i weithredu’r cyfarpar a'r system nwy yn gywir a darparu copi o lenyddiaeth cyfarpar ar eu cyfer
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn cwblhau'r gwaith o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu
34. Ymgysylltu â deiliad yr eiddo ac eraill a gaiff eu heffeithio gan y gwaith yn ystod y prosesau cynllunio, datgomisiynu, gosod a chomisiynu i sicrhau'r aflonyddwch lleiaf ar y gwaith
35. Defnyddio dogfennau normadol, safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig presennol a gwybodaeth o gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
36. Cynghori ar unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd peryglus a chamau unioni gofynnol i'r rheini sydd angen y wybodaeth
37. Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon â'r gwaith terfynol
38. Cwblhau'r holl gofnodion a'r ddogfennaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
39. Cyflwyno manylion ar gyfer y cyfarpar gosod a chyfnewid i'r Cynllun Hysbysiad Gwaith Nwy
Datrys problemau o fewn eich maes dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu
Datrys problemau o fewn eich maes dyletswydd a'ch cymhwysedd eich hun a allai effeithio ar y broses o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu
40. Unioni problemau o fewn eich maes cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun a rhoi gwybod am ddiffygion mewn gwasanaethau mewnbwn nwy a thrydan
41. Datrys problemau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy: 41.1 lle y mae gwiriadau a phrofion comisiynu ymlaen llaw yn datgelu diffygion mewn cyfarpar nwy, system nwy neu elfennau
41.2 lle nad yw cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau a gaiff eu comisiynu yn bodloni'r gofynion dylunio
41.3 lle na ellir adfer cyfarpar nwy, y system nwy neu'r elfennau i'w perfformiad llawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Rheoliadau a chanllawiau sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch amgylcheddol a'r defnydd o asesiadau risg
2. Deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyletswyddau cyffredinol y gweithredwr ar gyfer eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill
3. Cyfyngiadau eich ymreolaeth a'ch dyletswydd eich hun
Datgomisiynu, gosod a chomisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad a chyfarpar hamdden
1. Y ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd angen eu hymgorffori i'r asesiad risg ar gyfer y gosodiad domestig
2. Y cyfarpar sydd eu hangen er mwyn sicrhau mynediad diogel i weithio gydag uchder, neu mewn mannau cyfyngedig
3. Y dulliau o weithio sy'n diogelu addurniad adeiladau, eiddo cwsmeriaid a'r systemau a'r elfennau sydd eisoes yn bodoli
4. Gofynion gofalu a chynnal a chadw cyfarpar, a gwiriadau ar gyfer cyflwr diogel
5. Y cyfarpar, deunyddiau a'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer y cyfarpar nwy a datgomisiynu, gosod a chomisiynu'r system nwy
– gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a chynnal
6. Sut i storio cyfarpar, deunyddiau ac elfennau'n ddiogel er mwyn lleihau colled neu wastraff
7. Y peryglon posibl a allai godi o'r holl weithgarwch o ddatgomisiynu, gosod a chomisiynu a'r gwiriadau i'w cwblhau cyn i'r gwaith gychwyn
8. Y camau i'w cymryd os na fydd deunyddiau, elfennau a chyfarpar ar gael ar y safle i alluogi’r gweithgarwch datgomisiynu, gosod a chomisiynu
9. Sut i gael mynediad at y wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir, gan gynnwys dogfennau normadol, dogfennau canllawiau safonau'r diwydiant, Safonau Prydeinig a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n gymwys i'r gosodiad, i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i gydymffurfio â safonau'r fanyleb a'r diwydiant
10. Sut i fesur a chofnodi manylion y gwaith gosod a'r safle at ddibenion rhag-gynhyrchu
11. Sut i gadarnhau bod gofynion y gwasanaethau a'r systemau yn ddigonol er mwyn gosod y cyfarpar nwy newydd, y system nwy a'r elfennau gan gynnwys ymestyn y system neu ychwanegu elfennau
12. Dulliau, profion a gweithdrefnau ynysu diogel i ddatgomisiynu systemau neu elfennau nwy a thrydan
13. Y gweithdrefnau ar gyfer datgomisiynu cyfarpar a systemau dros dro neu'n barhaol gan gynnwys defnyddio bondiau parhad dros dro
14. Y rhagofalon i sicrhau nad yw cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu yn achosi perygl diogelwch
15. Y mesurau i atal cyfarpar neu systemau sydd wedi'u datgomisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
16. Yr angen i ymgysylltu ag eraill lle y gellir effeithio ar eu gweithdrefnau a'u harferion drwy wahardd gweithrediad y cyfarpar nwy a'r system nwy a lle y bydd angen cydweithredu ac ymgysylltu
17. Arferion y diwydiant a safonau gwaith ar gyfer cynhyrchu a gosod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
18. Y gofynion lleoli ac atgyweirio ar gyfer ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i gydymffurfio â manyleb y gwneuthurwr, safonau'r diwydiant, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio), Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu
19. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer cysylltu:
19.1 er mwyn mewnosod gwasanaethau a systemau
20. Y gweithdrefnau a'r dulliau gwaith ar gyfer:
20.1 ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden ac elfennau ar gyfer systemau nwy, trydanol, awyru a simneiau newydd a systemau sydd eisoes yn bodoli
21. Y broses a'r gweithdrefnau, cyfarpar a gofynion deddfwriaethol er mwyn:
21.1 profi tyndra a chlirio cyfarpar, systemau nwy ac elfennau
21.2 profion trydanol ar gyfer cyfarpar, systemau ac elfennau i sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel e.e. gwiriadau diogelwch trydanol rhagarweiniol
22. Yr arferion a'r dilyniannau ar gyfer comisiynu ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau yn unol â manyleb y gwneuthurwr a safonau'r diwydiant
23. Y gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau yn gweithredu, perfformio ac yn gweithio'n ddiogel a'u gwirio yn erbyn y fanyleb dylunio
24. Y gweithdrefnau er mwyn gwirio a chadarnhau pwyseddau gweithredu'r system nwy a phwysedd gweithredu'r cyfarpar a chyfradd nwy
25. Y profion, gwiriadau a'r defnydd o ddadansoddwyr nwyon ffliw sy'n cadarnhau addasrwydd y perfformiad hylosgi nwy
26. Y profion a'r gwiriadau i gadarnhau uniondeb, addasrwydd a pherfformiad y systemau
27. Sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth a chofnodion gosod a chomisiynu er mwyn eu gadael gyda'r eiddo
28. Y mesurau i atal cyfarpar a systemau nwy sydd heb eu comisiynu rhag cael eu defnyddio mewn gweithrediadau drwy hysbysiadau diogelwch a rhybudd
29. Gweithdrefnau trosglwyddo'r system ac arddangos gweithrediad ffyrnau nwy domestig, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, systemau nwy ac elfennau i ddefnyddwyr terfynol
30. Y camau i'w cymryd pan fydd problemau'n codi yn y gweithgarwch gwaith
31. Strwythurau rheoli gwaith a dulliau adrodd am gynnydd gwaith a'i gofnodi neu broblemau sy'n oedi cynnydd
32. Sut i gasglu a gwaredu cynnwys systemau a allai fod yn beryglus i iechyd neu'r amgylchedd yn ddiogel
33. Sut i ynysu cyfarpar nwy, systemau nwy ac elfennau nad ydynt yn ddiogel ynghyd â defnyddio gweithdrefnau sefyllfaoedd peryglus y diwydiant nwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae “Ffyrnau” yn cyfeirio at Ffyrnau Rhydd-Sefyll, Gosodedig, Platiau Poeth, Griliau, Ffyrnau Mawr, Tanwydd Deuol.
Mae "Cyfarpar Hamdden" yn cyfeirio at Wresogyddion Tai Gwydr, Barbeciwiau,Gwresogyddion Patio, Cyfarpar 'Flambeaux' Nwy a Goleuadau Nwy Awyr Agored
Mae "Safle Gwaith" yn cyfeirio at yr ardal lle caiff y gwaith ei gyflawni a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.
Mae "Gwasanaethau a Systemau" yn cyfeirio at ddŵr, gwres canolog, nwy, cyflenwad trydan, gwaredu cyddwyso, simneiau a systemau awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
DSG 3.1
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Gwyddoniaeth a Thechnegwyr Peirianegol, Gosodwr Cyfarpar Nwy
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
gosod, domestig, nwy, ffyrnau, peiriannau sychu dillad, cyfarpar hamdden, gosod, ynni, cyfleustod, cyfleustodau