Gweithio fel aelod o dîm achub ac adfer mewn mannau cyfyng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio mewn mannau cyfyng fel aelod o dîm achub ac adfer. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.
Bydd angen i dîm argyfwng fod ar gael pan fydd yr asesiad risg ar gyfer man cyfyng yn pennu ei fod yn angenrheidiol. Mae tîm argyfwng yn dîm ymroddedig a gall fod yn dîm mewnol, contractwyr arbenigol neu'r gwasanaethau brys trwy drefnu ymlaen llaw.
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi ar gyfer cynnal gweithgareddau argyfwng, mynd i mewn ac allan o fannau cyfyng yn ddiogel, defnyddio cyfarpar argyfwng, adfer pobl sydd wedi'u hanafu, a defnyddio dyfeisiau yn unol â manylion gwneuthurwyr, achub ac adfer pobl sydd wedi'u hanafu, dilyn gweithdrefnau a gweithio'n ddiogel.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un o unrhyw sector sy'n gweithio'n rhan o dîm achub ac adfer mewn mannau cyfyng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadw at asesiadau risg a chynlluniau achub cyfredol sy'n ymwneud â safleoedd penodol cyn dechrau ar y gwaith achub ac adfer
cynnal asesiadau risg deinamig o amodau a sefyllfaoedd mewn mannau cyfyng cyn mynd i mewn iddynt a thrwy gydol y gwaith achub ac adfer
sefydlu a phrofi protocolau cyfathrebu gyda'r person wrth y llyw a gwirio'r amseroedd ymateb a amcangyfrifir
sefydlu a phrofi systemau signalau a chyfathrebu sy'n addas ar gyfer tasgau cyn mynd i mewn i leoedd cyfyng a'u croesi
dewis cyfarpar diogelu personol priodol (PPE) sy'n ffitio ac mewn cyflwr da
dewis cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng sy'n briodol ar gyfer yr amodau cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
cadarnhau bod offer diogelwch yn gydnaws â chyfarpar y mae pobl yn ei gael drostynt eu hunain a'r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer.
archwilio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng cyn dechrau gweithio a'u defnyddio, a chael cyfarpar newydd pan mae'n ddiffygiol
ffitio cyfarpar diogelwch dynodedig a'i addasu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng a rhoi gwybod i bobl briodol am ddiffyg cydymffurfio
monitro cyfarpar diogelwch trwy gydol y cyfnod y caiff ei ddefnyddio
cael caniatâd i fynd i mewn gan y bobl ddynodedig sy'n goruchwylio'r gwaith
gosod, profi a chofnodi canlyniadau cyfarpar monitro priodol cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
cynnal parthau diogelwch a rheoli mynediad a symudiad pobl a cherbydau o amgylch mynediadau mewn sefyllfaoedd pan mae angen cadw pobl draw
gweithio yn unol â chynlluniau achub ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng, eu gadael a symud o fewn iddynt
defnyddio dulliau penodedig er mwyn mynd â chyfarpar ac offer diogelwch, dianc ac argyfwng i mewn i fannau cyfyng
datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar ac offer diogelwch, dianc ac argyfwng cyn ac wrth eu defnyddio
datrys unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â mynd i mewn, gadael neu waith achub ac adfer gyda'r bobl berthnasol
dilyn gweithdrefnau cyflogwyr ar gyfer gweithio'n ddiogel a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr cyfarpar
monitro amodau a lefelau risg mewn mannau cyfyng ar adegau y cytunir arnynt
cymryd camau priodol i reoli pob risg a chywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel ar unwaith
monitro newid gwybodaeth o gyfarpar monitro ac ymateb iddi'n barhaus
ymateb ar unwaith i amodau sy'n newid
cynnal gweithgareddau achub ac adfer yn unol â gweithdrefnau trwy gydol digwyddiadau
asesu'r rhai sydd wedi'u hanafu a'u blaenoriaethu yn unol â gweithdrefnau argyfwng
rhoi cymorth cyntaf sylfaenol pan mae'n briodol i chi wneud hynny
symud y rhai sydd wedi'u hanafu i leoliadau diogel mewn ffyrdd sy'n lleihau anafiadau pellach
cofnodi digwyddiadau argyfwng a'u hamgylchiadau ac adrodd amdanynt yn unol â gweithdrefnau
cwblhau'r holl ddogfennaeth a'r adroddiadau ar adegau priodol
anfon dogfennaeth ac adroddiadau ymlaen at y bobl briodol ar unwaith
sicrhau bod cyfarpar ac offer diogelwch, dianc ac argyfwng yn cael eu hadfer o fannau cyfyng ar adegau priodol
cau mannau gwaith a'u gwneud yn ddiogel pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
gwirio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng ar ôl eu defnyddio a gadael yn ddiogel, a chadarnhau eu bod yn cyd-fynd â manylion cyn eu storio yn y storfa ddynodedig yn barod ar gyfer y gwaith nesaf.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion a nodweddion mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth
diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o beryglon a chategorïau ohonynt
mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno
peryglon, sylweddau a sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng
asesiad deinamig o sut i leihau'r risg o anaf i chi'ch hun, cydweithwyr a'r cyhoedd
sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
sut i archwilio Cyfarpar Amddiffyn Personol (PPE), ei ffitio a'i wisgo
cyfarwyddiadau gwneuthurwyr ynghylch defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng
cyfyngiadau cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng a sut i nodi pan nad yw'n gweithio
deddfwriaeth a chodau ymarfer a chanllawiau cymeradwy ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng
eich rôl wrth weithio'n rhan o dîm a sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel wrth weithio gydag eraill
mathau o sefyllfaoedd argyfwng a chategorïau ohonynt
y rolau a'r cyfrifoldebau wrth fynd i'r afael ag argyfyngau
gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau fu ond y dim iddynt ddigwydd
sut i roi cymorth cyntaf sylfaenol a phryd mae'n briodol gwneud hynny
sut i gynorthwyo pobl sydd wedi'u hanafu a'u symud
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng risg uchel
sut i asesu risgiau a pheryglon
pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon sy'n newid 22. y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n addas i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol
sut i leihau risgiau hyd at lefel dderbyniol ar gyfer gwneud gwaith achub ac adfer
y gwahanol fathau o gyfarpar monitro, eu cyfyngiadau a sut i'w defnyddio er mwyn ymateb i amodau
25, pam mae'n bwysig bod yn effro i amodau sy'n newid a datrys problemau ar unwaith
gweithdrefnau diheintio
sut i ddatrys problemau pan fydd pobl neu sefydliadau eraill yn cymryd rhan
dulliau cyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill yn ystod gweithrediadau achub ac adfer
sut i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwneuthurwyr ar gyfer paratoi, cyn ac ar ôl cynnal archwiliad, a defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng
systemau adrodd ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng