Achub yn uniongyrchol mewn argyfwng a chael pobl sydd wedi’u hanafu o fannau cyfyng

URN: EUSCS07
Sectorau Busnes (Suites): Mannau Cyfyng
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfarwyddo tîm i achub a chael pobl sydd wedi'u hanafu o fannau cyfyng. Nid oes angen i chi gael mynediad. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.

Bydd angen i dîm argyfwng fod ar gael pan fydd yr asesiad risg ar gyfer man cyfyng yn pennu ei fod yn angenrheidiol. Mae tîm argyfwng yn dîm ymroddedig a gall fod yn dîm mewnol, contractwyr arbenigol neu'r gwasanaethau brys trwy drefnu ymlaen llaw.

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithrediadau argyfwng, cynnull timau achub pan fydd argyfyngau'n codi, cyfarwyddo a monitro gweithgareddau achub mewn argyfwng, ac adrodd a sicrhau safleoedd ar ôl digwyddiadau ac argyfyngau.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un fel peiriannydd, cydlynydd, rheolwr neu oruchwyliwr sy'n cyfarwyddo gweithgareddau tîm ar gyfer achub neu adfer mewn mannau cyfyng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal asesiadau risg deinamig o amodau a sefyllfaoedd mewn mannau cyfyng drwy gydol y gwaith achub ac adfer

  2. asesu ac addasu cynlluniau achub er mwyn ystyried amodau a sefyllfaoedd

  3. trefnu bod yr holl gyfarpar achub a diogelwch a bennir mewn systemau gwaith diogel, ar y safle cyn i'r gwaith ddechrau

  4. rhoi cyfarpar argyfwng a dyfeisiau adfer a thrin y rhai sydd wedi cael damwain, mewn mannau neu safleoedd hawdd eu cyrraedd

  5. cadarnhau bod y cyfarpar a'r offer achub a diogelwch yn addas ar gyfer gweithgareddau achub ac adfer

  6. cynnal gwiriadau cyn defnyddio cyfarpar achub a diogelwch i gadarnhau eu bod yn gweithio ac yn addas i allu cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol, manylion gwneuthurwyr a chodau ymarfer cymeradwy cyn dechrau gweithio

  7. cadarnhau bod yr holl gyfarpar diogelu personol (PPE) penodedig yn addas a bodd modd ei ddefnyddio gyda'r cyfarpar achub a diogelwch sydd i'w wisgo cyn ei ddefnyddio

  8. datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar diogelwch a rhoi gwybod i'r bobl briodol am ddiffyg cydymffurfio

  9. gwneud yn siŵr bod systemau cyfathrebu mewn argyfwng yn cael eu sefydlu a'u profi er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio cyn i'r gwaith achub ac adfer ddechrau

  10. sicrhau bod pob aelod o'r tîm argyfwng a gweithwyr cymorth perthnasol oddi ar y safle yn ymwybodol o'r trefniadau mewn argyfwng, a gwneud yn siŵr eu bod yn deall ar adegau priodol

  11. dadansoddi'r holl wybodaeth sydd ar gael am ddigwyddiadau ac argyfyngau cyn dechrau achub ac adfer

  12. cadarnhau bod trefniadau argyfwng, gweithdrefnau a systemau cyfathrebu ar waith cyn mynd i mewn

  13. defnyddio aelodau o'r tîm argyfwng a chadarnhau bod pob aelod o'r tîm argyfwng yn gwybod beth yw eu rolau ac yn eu deall cyn i'r gwaith achub ac adfer ddechrau

  14. gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm argyfwng yn eu lle gydag offer diogelu personol priodol cyn dechrau mynd i mewn

  15. sefydlu parthau gwahardd er mwyn atal pobl heb awdurdod rhag mynd i mewn16. gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm argyfwng yn cadw at weithdrefnau gweithio diogel a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr ar gyfer cludo, gosod, addasu a defnyddio cyfarpar achub a diogelwch.

  16. gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm argyfwng yn mynd i mewn i fannau cyfyng fel y rhagnodwyd ar gyfer argyfyngau ac yn cynnal ffordd ddiogel o ddianc

  17. gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm argyfwng yn cynnal gweithgareddau achub ac adfer yn unol â gweithdrefnau

  18. cyflwyno cyfarpar ac offer achub a diogelwch mewn mannau cyfyng fel y nodir yng nghyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r cyflogwyr

  19. monitro gweithdrefnau achub ac adfer yn barhaus

  20. cyfathrebu'n rheolaidd â thimau gwaith argyfwng ar bob cam o weithgareddau achub ac adfer

  21. asesu, blaenoriaethu a thrin y rhai sydd wedi'u hanafu yn unol â gweithdrefnau brys

  22. dilyn a gweithdrefnau brys a'u cynnal drwy gydol digwyddiadau ac argyfyngau

  23. monitro amodau a risgiau mewn mannau cyfyng yn ogystal â chyfarpar achub a diogelwch yn barhaus yn ystod gwaith achub ac adfer

  24. gwirio a chofnodi darlleniadau amgylcheddol yn rheolaidd a newid gweithgareddau achub ac adfer er mwyn datrys problemau a ddangosir gan wybodaeth o gyfarpar monitro

  25. cymryd camau ar unwaith er mwyn rheoli risgiau a chywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel

  26. trefnu bod cymorth cyntaf sylfaenol ar gael pan fo hynny'n briodol ar gyfer y rhai sydd wedi'u hanafu a'u hadfer i'r wyneb

  27. rhoi digon o wybodaeth berthnasol i'r gwasanaethau brys wrth drosglwyddo'r rhai sydd wedi'u hanafu

  28. adfer a symud cyfarpar ac offer o fannau cyfyng yn unol â gweithdrefnau pan ganiateir hynny

  29. sefydlu a chynnal parthau gwahardd mewn mannau perthnasol yn unol â gweithdrefnau deddfwriaethol ar gyfer ymchwilio ar ôl digwyddiad

  30. cofnodi argyfyngau a'u hamgylchiadau ac adrodd amdanynt yn unol â gweithdrefnau deddfwriaethol y sefydliad

  31. rhoi'r cyfarpar a ddefnyddiwyd yn y man dynodedig er mwyn rhoi gwasanaeth iddo ar ôl ei ddefnyddio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif egwyddorion mannau cyfyng cyfredol, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau iechyd a diogelwch sy'n ymwneud ag achub mewn argyfyngau mewn mannau cyfyng a defnyddio cyfarpar diogelwch

  2. y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng

  3. sut i gael gafael ar systemau gwaith diogel ar gyfer mannau cyfyng a'u dehongli

  4. goblygiadau polisïau diod a chyffuriau'r sefydliad

  5. y gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau fu ond y dim iddynt ddigwydd, achub ac adfer

  6. yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn cynlluniau argyfwng gan gynnwys sut i ddelio â marwolaethau

  7. cyfrifoldebau tîm achub a'i aelodau unigol

  8. sut i ddefnyddio awdurdodiadau gwaith a thrwyddedau

  9. y diffiniad o gynlluniau dosbarthu a'r hyn sy'n diffinio mannau cyfyng a'u natur a'u nodweddion

  10. diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o beryglon a chategorïau ohonynt

  11. y mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno

  12. y peryglon, y sylweddau a'r sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng

  13. asesiad deinamig o sut i leihau'r risg o anaf i chi'ch hun, cydweithwyr a'r cyhoedd

  14. y camau y gellir eu cymryd i leihau risg hyd at lefel dderbyniol er mwyn achub ac adfer

  15. mathau o gyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng, sut i'w ddefnyddio, a'i gyfyngiadau

  16. sut a ble i leoli cyfarpar achub

  17. sut i baratoi ar gyfer y tywydd ac ymdopi ag ef

  18. y dulliau a'r technegau ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelu personol a'i wisgo

  19. cyfarwyddiadau gwneuthurwyr sy'n ymwneud ag archwilio a defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng gan gynnwys cyfarpar diogelu rhag cwympo, cyfarpar achub cynorthwyol, cyfarpar anadlu hunangynhwysol a llinell aer

  20. ffynonellau gwybodaeth am ddigwyddiadau ac argyfyngau gan gynnwys mapiau, lluniadau technegol, darlleniadau o gyfarpar monitro, adroddiadau gan y person wrth y llyw

  21. eich rôl wrth arwain gwaith achub ac adfer mewn argyfwng o ran sicrhau bod aelodau'r tîm argyfwng a gwaith yn cadw'n ddiogel

  22. cyfyngiadau'r cyfarpar anadlu sy'n cael ei ddefnyddio gan aelodau'r tîm argyfwng a gwaith ac am ba mor hir y gellir ei ddefnyddio

  23. sut i ddefnyddio byrddau cyfrif a chofnodion o ddigwyddiadau ar gyfer rheoli gweithrediadau achub

  24. rôl aelodau'r tîm argyfwng wrth roi cymorth cyntaf sylfaenol a phryd mae'n briodol iddynt wneud hynny

  25. defnydd diffibrilwyr allanol awtomataidd (AED) ac unedau therapi ocsigen (dadebru) a phryd mae'n briodol eu defnyddio

  26. y gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn a gweithdrefnau gweithio, a'r cysylltiad rhwng gweithdrefnau, cynlluniau achub ac asesiadau risg

  27. pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon

  28. y gwahanol fathau o gyfarpar monitro, eu cyfyngiadau a sut i'w defnyddio

  29. gweithdrefnau diheintio

  30. pam mae'n bwysig datrys problemau sy'n ymwneud ag aelodau'r tîm argyfwng neu waith ar unwaith a gyda phwy mae angen eu datrys, gan gynnwys pan fydd pobl neu sefydliadau eraill yn cymryd rhan

  31. dulliau cyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill i'w defnyddio pan mae argyfyngau mewn mannau cyfyng

  32. sut i beidio ag amharu ar safle er mwyn galluogi ymchwiliad pellach yn dilyn argyfyngau a sefyllfaoedd achub

  33. cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwneuthurwyr ar gyfer paratoi offer a chyfarpar, eu harchwilio a'u defnyddio, a lle dylai cyfarpar diffygiol neu sydd wedi'i ddefnyddio gael ei roi er mwyn rhoi gwasanaeth iddo neu ei gynnal ar ôl ei ddefnyddio

  34. y systemau adrodd ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng a datrys problemau

  35. y wybodaeth bwysig i'w rhoi i'r gwasanaethau brys am bobl sydd wedi'u hanafu a sut i roi gwybod am hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSCS07

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig, Peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu

Cod SOC

2142

Geiriau Allweddol

Man cyfyng; risg uchel; risg ganolig; risg isel; risg benodol; mynd i mewn; mynd allan; diogelwch; cyfarpar mynediad; uniongyrchol; cynllun; paratoi; adroddiad; diogelu; argyfyngau; digwyddiadau; achub, adfer; dianc, tîm argyfwng; anafedig;