Goruchwylio timau sy'n gwneud gwaith mewn mannau cyfyng

URN: EUSCS05
Sectorau Busnes (Suites): Mannau Cyfyng
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dyletswyddau goruchwyliwr mannau cyfyng. Yn ôl pob tebyg, bydd goruchwyliwr yn gyfrifol am sawl tîm sy'n gweithio mewn mannau cyfyng ar unrhyw un adeg. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.

Mae'n cynnwys trefnu timau gwaith, cynllunio gweithdrefnau cyn mynd i mewn, gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar diogelwch ac argyfwng ar gael a gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm sy'n gweithio mewn mannau cyfyng yn dilyn gweithdrefnau diogelwch wrth weithio mewn ffyrdd arferol. Mae hefyd yn cynnwys ymateb a chymryd cyfrifoldeb dros oruchwyliaeth o fannau cyfyng yn uniongyrchol.

Mae'r safon hon ar gyfer goruchwylwyr mannau cyfyng. Nid yw mynediad i fannau cyfyng yn ofynnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau iechyd a diogelwch perthnasol yn eu lle cyn i bobl fynd i mewn i fannau cyfyng

  2. trefnu bod y cyfarpar angenrheidiol ar gael i allu cynnal gweithgareddau gwaith

  3. trefnu timau gwaith cymwys i gyflawni gweithgareddau gwaith

  4. dyrannu gweithgareddau i unigolion er mwyn llenwi pob rôl angenrheidiol yn y tîm

  5. cadarnhau bod pob aelod o'r tîm yn gwybod eu rôl ac yn eu deall cyn dechrau gweithio

  6. hysbysu timau gwaith ynghylch natur a dosbarth y mannau cyfyng a'r systemau gwaith diogel cyn iddynt ddechrau gweithio

  7. cynnal asesiadau risg amser real cyn i dimau ddechrau gweithio

  8. cynllunio dulliau rheoli ar gyfer rhoi mynediad i bobl a cherbydau o amgylch pwyntiau mynediad

  9. cadarnhau bod systemau cyfathrebu wedi'u gosod a'u profi cyn i dimau ddechrau gweithio

  10. cadarnhau bod trefniadau argyfwng, gweithdrefnau a systemau cyfathrebu ar waith ac yn gweithio'n iawn

  11. rhoi gwybod i dimau gwaith a gweithwyr cymorth perthnasol ac oddi ar y safle am y trefniadau argyfwng

  12. trefnu bod yr holl gyfarpar achub ar y safle fel y nodir mewn gweithdrefnau argyfwng

  13. gwneud yn siŵr bod amodau atmosfferig ac eraill yn ddiogel cyn i dimau gwaith fynd i mewn i fannau cyfyng

  14. gwneud yn siŵr bod timau gwaith yn dilyn gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn ac allan o fannau cyfyng a gweithio ynddynt

  15. gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau ar gyfer cario cyfarpar diogelwch a'u defnyddio yn cael eu dilyn

  16. gwneud yn siŵr bod timau gwaith yn defnyddio cyfarpar canfod a mynediad yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  17. gwneud yn siŵr bod cyfathrebu rheolaidd â thimau gwaith ynghylch gweithgareddau gwaith ac amodau amgylcheddol

  18. mynd ati ar unwaith i gywiro unrhyw sefyllfaoedd lle nad yw aelodau'r tîm yn dilyn gweithdrefnau

  19. cymryd camau ar unwaith i gywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel

  20. gwneud yn siŵr bod timau gwaith yn cael eu monitro er mwyn cydymffurfio â gweithdrefnau'n barhaus

  21. cadarnhau bod parthau gwahardd yn eu lle i atal mynediad i bobl heb awdurdod yn dilyn sefyllfaoedd argyfwng

  22. cadarnhau bod cyfarpar achub yn eu lle cyn caniatáu mynediad i fannau cyfyng

  23. dechrau gweithdrefnau argyfwng ar unwaith pan mae angen neu sefyllfa yn codi

  24. cadw rheolaeth ar aelodau'r tîm gwaith yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau

  25. gwneud yn siŵr bod cyfarpar argyfwng yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr a gweithdrefnau argyfwng

  26. dilyn gweithdrefnau argyfwng a'u cynnal drwy gydol digwyddiadau ac argyfyngau

  27. cofnodi digwyddiadau, argyfyngau a'u hamgylchiadau ac adrodd amdanynt yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  28. trefnu bod cymorth cyntaf sylfaenol ar gael gan unigolion cymwys ar gyfer y rhai sydd wedi'u hanafu a'u hadfer i'r wyneb

  29. parhau i gyfathrebu yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau yn unol â gweithdrefnau argyfwng

  30. rhoi digon o wybodaeth berthnasol i'r gwasanaethau brys am ddigwyddiadau ac argyfyngau wrth eu trosglwyddo iddynt

  31. gwneud yn siŵr bod safleoedd yn ddiogel ac yn cael eu cynnal ar gyfer ymchwiliadau ôl-achub

  32. goruchwylio'r gwaith o adfer cyfarpar ac offer pan fydd y gwaith wedi'i orffen

  33. cau mannau gwaith a'u gwneud yn ddiogel pan mae gwaith wedi'i gwblhau

  34. gwneud adroddiadau a chwblhau'r holl ddogfennau a'u rhoi i bobl ddynodedig.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif egwyddorion a nodweddion mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol

  2. y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng

  3. defnyddio awdurdodiadau a thrwyddedau gwaith

  4. dyletswyddau a chyfrifoldebau personol o dan ddeddfwriaeth

  5. cyfrifoldebau tîm achub a'i aelodau unigol

  6. cyfrifoldebau rheoli timau gwaith

  7. diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o beryglon a chategorïau ohonynt

  8. mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno

  9. peryglon, sylweddau a sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng

  10. asesiad deinamig o sut i leihau'r risg o anaf i chi'ch hun, cydweithwyr a'r cyhoedd

  11. sut i asesu ac adolygu risgiau a pheryglon, hierarchaeth y mesurau rheoli a sut gellir eu defnyddio i leihau risgiau hyd at lefel dderbyniol er mwyn i waith gael ei wneud

  12. ymwybyddiaeth o sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng

  13. dulliau a thechnegau defnyddio a gwisgo cyfarpar diogelu personol

  14. technegau canfod diffygion a chydnabod cyfyngiadau offer

  15. cyfarwyddiadau gwneuthurwyr ynghylch defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng

  16. mathau o gyfarpar achub a'u cyfyngiadau

  17. deddfwriaeth a chodau ymarfer a chanllawiau cymeradwy ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelwch gan gynnwys cyfarpar anadlu hunangynhwysol a phibelli aer

  18. sut i gadw aelodau eraill y tîm yn ddiogel

  19. sut i gael gafael ar unigolion sydd â chymhwyster cymorth cyntaf

  20. mathau o sefyllfaoedd argyfwng a chategorïau ohonynt a gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag afreoleidd-dra, sefyllfaoedd annormal, argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau fu ond y dim iddynt ddigwydd, gan gynnwys achub ac adfer, a phryd y dylech roi gwybod i bobl eraill

  21. cynlluniau dosbarthu mannau cyfyng22. sut i nodi mannau cyfyng risg ganolig a risg uchel

  22. sut i baratoi, profi a defnyddio cyfarpar mynediad, dianc ac achub cynorthwyol

  23. pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon posibl ac amodau sy'n newid bob amser

  24. y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n addas i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol

  25. y gwahanol fathau o gyfarpar monitro a'u cyfyngiadau

  26. ffyrdd o fonitro amodau a gweithgaredd gwaith

  27. pam mae'n bwysig datrys problemau ar unwaith a chael pobl ddynodedig i'w datrys

  28. dulliau cyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad ag aelodau'r tîm mewn mannau cyfyng, timau argyfwng a rheolwyr

  29. gweithdrefnau ar gyfer paratoi offer a chyfarpar, eu harchwilio a'u defnyddio

  30. diben byrddau argyfwng, cofnodion a byrddau BACO a sut i'w defnyddio

  31. systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol ac anarferol, datrys problemau a sefyllfaoedd argyfwng


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSCS05

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol a thechnolegau gweithgynhyrchu, Adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig

Cod SOC

2142

Geiriau Allweddol

Man cyfyng; risg uchel; risg ganolig; risg isel; risg benodol; goruchwylio; nifer o dimau; cyfarpar diogelwch; cyfarpar argyfwng; gweithdrefnau diogelwch; argyfyngau