Rheoli mynediad a threfniadau ar gyfer mannau cyfyng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli sut mae eraill yn mynd ac allan o fannau cyfyng yn ogystal â'r trefniadau sydd eu hangen i'w cadw'n ddiogel pan maent yno. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau penodol hyn arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.
Nid yw mynediad i fannau cyfyng yn ofynnol yn y safon hon. Mae'n cynnwys rheoli'r gweithdrefnau cyn mynediad a mynd i mewn ac allan o fannau cyfyng, cynnal dulliau cyfathrebu ag aelodau'r tîm sydd mewn mannau cyfyng, monitro darlleniadau o gyfarpar, seinio'r larwm a throsglwyddo i dimau achub yn ystod sefyllfaoedd argyfwng.
Mae'r safon hon ar gyfer y cynorthwy-ydd diogelwch neu'r person wrth y llyw sy'n rheoli mynediad a threfniadau ar gyfer mannau cyfyng heb fynd i mewn iddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud yn siŵr bod gan aelodau'r tîm y cyfarpar angenrheidiol sy'n addas at y diben ac o fewn eu dyddiad gwasanaeth cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau iechyd a diogelwch perthnasol yn eu lle cyn caniatáu i bobl fynd i mewn i fannau cyfyng
cadarnhau bod yr holl systemau cyfathrebu wedi'u gosod, eu profi ac yn gweithio
gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm yn deall y trefniadau a'r gweithdrefnau ar gyfer gweithio ac argyfyngau
gwneud yn siŵr bod systemau cyfathrebu mewn argyfwng a chyfarpar achub ar gael ac yn addas at y diben cyn caniatáu mynediad i fannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod y cyfarpar awyru yn gweithio a bod amodau amgylcheddol eraill yn ddiogel cyn i dimau gwaith fynd i mewn i fannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm gwaith yn mynd i mewn ac allan o fannau cyfyng yn unol â gweithdrefnau
gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm gwaith yn gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) a chyfarpar diogelu ac argyfwng personol cyn iddynt fynd i mewn i fannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm gwaith yn defnyddio cyfarpar monitro a chyfarpar mynediad fel y nodwyd
cywiro unrhyw weithgareddau anghywir gydag aelodau'r tîm ar unwaith
cynnal parthau diogelwch o amgylch safleoedd gwaith; rheoli mynediad i bobl a cherbydau o amgylch pwyntiau mynediad
datrys unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig ag aelodau'r tîm yn mynd i mewn ac allan o fannau cyfyng neu weithio ynddynt gyda'r bobl ddynodedig
cymryd camau ar unwaith i gywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel
monitro darlleniadau amgylcheddol yn barhaus ac ymateb i wybodaeth o gyfarpar monitro
cyfathrebu ar adegau y cytunwyd arnynt gyda thimau gwaith ynghylch amodau amgylcheddol wrth bob cam o'r gwaith
cau pwyntiau mynediad a'u gwneud yn ddiogel ar ddiwedd y gweithgaredd gwaith
goruchwylio'r gwaith o adfer cyfarpar ac offer o'r safle pan fydd y gwaith wedi'i orffen
cychwyn gweithdrefnau argyfwng a'u dilyn ar unwaith pan fydd digwyddiadau neu argyfyngau'n codi
cynorthwyo aelodau'r tîm gwaith i adael mannau cyfyng yn unol â gweithdrefnau diogelwch yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau
rhoi gwybodaeth berthnasol i dimau achub mewn argyfwng yn unol â gweithdrefnau argyfwng
cofnodi digwyddiadau ac argyfyngau a rhoi gwybod am eu hamgylchiadau mewn systemau adrodd priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion a nodweddion mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
dyletswyddau a chyfrifoldebau personol fel y person wrth y llyw o dan ddeddfwriaeth
diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o beryglon a chategorïau ohonynt
mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risgiau a nodwyd yno
peryglon, sylweddau a sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng
asesiad deinamig o sut i leihau'r risg o anaf i chi'ch hun, cydweithwyr a'r cyhoedd
camau y gellir eu cymryd i leihau risg hyd at lefel dderbyniol er mwyn i waith gael ei wneud
ymwybyddiaeth o sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
dulliau a thechnegau defnyddio a gwisgo cyfarpar diogelu personol
cyfyngiadau cyfarpar a sut i nodi os nad yw'n gweithio
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ynghylch defnyddio cyfarpar ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng a gweithio ynddynt yn ddiogel
cynlluniau dosbarthu mannau cyfyng
sut i nodi mannau cyfyng risg canolig a risg uchel
sut i baratoi cyfarpar mynediad, eu profi a'u defnyddio
pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon posibl ac amgylchiadau sy'n newid
eich cylch gorchwyl mewn cysylltiad â chymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd argyfwng yn seiliedig ar asesiad risg
y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n addas i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol
y gwahanol fathau o gyfarpar monitro a'u cyfyngiadau
ffyrdd o fonitro amodau a gweithgaredd gwaith ac ymateb iddynt
pam mae'n bwysig datrys problemau yn ddi-oed ynghylch sut mae aelodau'r tîm yn mynd i mewn, gadael ac yn gweithio
dulliau cyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad ag aelodau'r tîm mewn mannau cyfyng, timau argyfwng a goruchwylwyr
gweithdrefnau ar gyfer paratoi offer a chyfarpar, eu harchwilio a'u defnyddio
sut i gau pwyntiau mynediad a'u gwneud yn ddiogel
systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol ac anarferol a sefyllfaoedd argyfwng
gwybodaeth berthnasol i'w rhoi i dimau achub
sut mae systemau awyru'n gweithio a'u manteision a'u hanfanteision mewn mannau cyfyng