Gwaith mewn mannau cyfyng risg uchel
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio mewn mannau cyfyng risg uchel fel aelod o dîm gwaith. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.
Gall mannau cyfyng risg uchel:
- fod â mynedfeydd ansafonol a allai gynnwys gweithdrefnau cymhleth ar gyfer mynd i mewn
- bod mewn lleoliad anghysbell gyda risgiau penodol neu weithgaredd gwaith a ddiffinnir fel risg uchel
- cynnwys peryglon a nodwyd nad oes modd eu rheoli'n llawn wrth fynd i fewn neu wrth weithio.
Mae gweithio mewn unrhyw fan cyfyng risg uchel yn golygu gweithio yn unol â system waith y cytunwyd arni sy'n seiliedig ar asesiad risg sy'n seiliedig ar safle neu dasg benodol. Ar ben hynny, bydd angen y canlynol mewn mannau cyfyng risg uchel:
- defnyddio cyfarpar diogelwch fel cyfarpar anadlu
- un neu ragor o bobl y tu allan i'r man cyfyng sydd â chyfrifoldebau penodedig dros reoli'r mynediad a mynd i'r afael ag argyfyngau.
- tîm argyfwng a ddylai fod ar gael pe byddai argyfwng yn digwydd.
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi i fynd i mewn i fannau cyfyng risg isel a gweithio ynddynt yn ddiogel, mynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn ddiogel, defnyddio cyfarpar ac offer yn unol â manylion y gwneuthurwyr, defnyddio cyfarpar diogelwch a dilyn gweithdrefnau a gweithio'n ddiogel.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un o unrhyw sector y mae angen iddynt weithio mewn man cyfyng risg uchel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadw at asesiadau risg cyfredol, ar gyfer safleoedd penodol cyn dechrau gweithio
gosod systemau signalau a chyfathrebu a'u profi cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer tasgau a mannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod trefniadau argyfwng ac achub addas ar waith cyn mynd i mewn
gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar ac offer yn addas ac yn gweithio'n dda cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
dewis cyfarpar diogelu personol priodol (PPE) sy'n ffitio ac mewn cyflwr da
dewis cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng sy'n briodol ar gyfer yr amodau
cadarnhau bod cyfarpar diogelwch yn gydnaws â chyfarpar diogelu personol (PPE) y mae pobl yn ei gael drostynt eu hunain neu'n sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer.
cynnal gwiriadau o'r cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng cyn dechrau gweithio a'u defnyddio a chael cyfarpar newydd pan mae'n ddiffygiol
gwisgo'r cyfarpar anadlu gofynnol a chyfarpar diogelu personol cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
ffitio, addasu, cario, defnyddio a symud cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng dynodedig yn unol â gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng a rhoi gwybod i bobl briodol am ddiffyg cydymffurfio
monitro cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng wrth eu gweithredu a'u defnyddio
cael caniatâd i fynd i mewn gan y bobl ddynodedig sy'n goruchwylio'r gwaith
gosod, profi a chofnodi canlyniadau cyfarpar monitro priodol cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod yr amodau'n ddiogel cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
cynnal parthau diogelwch a rheoli mynediad a symudiad pobl a cherbydau o amgylch mynediadau mewn sefyllfaoedd pan mae angen cadw pobl draw
cael gafael ar gyfarpar mynediad sy'n briodol ar gyfer mynd i mewn a gadael, ei osod a'i wirio
defnyddio cyfarpar mynediad i fynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn unol â gweithdrefnau ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng risg uchel
defnyddio dulliau penodedig er mwyn mynd â chyfarpar ac offer i mewn i fannau cyfyng
datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar ac offer cyn ac wrth eu defnyddio
datrys unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i fannau cyfyng, eu gadael neu weithio ynddynt gyda phobl berthnasol
dilyn gweithdrefnau cyflogwyr ar gyfer gweithio'n ddiogel a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr cyfarpar
monitro amodau a lefelau risg mewn mannau cyfyng yn barhaus
cymryd camau priodol i reoli pob risg a chywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel ar unwaith
monitro gwybodaeth sy'n newid o gyfarpar monitro ac ymateb iddi'n barhaus
ymateb ar unwaith i amodau sy'n newid
defnyddio protocolau sydd wedi ennill eu plwyf ar gyfer signalau neu gyfathrebu er mwyn dechrau cynlluniau argyfwng
dechrau cynlluniau argyfwng ar unwaith mewn sefyllfaoedd peryglus
dilyn gweithdrefnau argyfwng a'u cynnal drwy gydol digwyddiadau
defnyddio cyfarpar dianc priodol ar gyfer yr amgylchedd fel y nodir mewn gweithdrefnau
cofnodi digwyddiadau argyfwng a'u hamgylchiadau ac adrodd amdanynt yn unol â gweithdrefnau
cwblhau'r holl ddogfennaeth a'r adroddiadau ar adegau priodol
anfon dogfennaeth ac adroddiadau ymlaen at y bobl briodol ar unwaith
sicrhau bod cyfarpar ac offer yn cael eu hadfer o fannau cyfyng pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
cau mannau gwaith a'u gwneud yn ddiogel pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
gwirio cyfarpar ac offer ar ôl eu defnyddio a'u storio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
gwirio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng ar ôl ei ddefnyddio a gadael yn ddiogel, a chadarnhau ei fod yn cydymffurfio â manylion cyn eu storio yn y storfa ddynodedig yn barod ar gyfer y gwaith nesaf.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion a nodweddion diffiniol mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth
diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o risg a nodir a chategorïau ohonynt
mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno
peryglon, sylweddau, a sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng risg uchel gan gynnwys boddi, amlyncu, gwres, mygu, tân a ffrwydrad
sut i gynnal asesiad risg deinamig er mwyn adolygu risg, cofnodi canfyddiadau a lleihau'r risg o anaf i chi eich hun, cydweithwyr a'r cyhoedd
ymwybyddiaeth o sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
defnydd a chyfyngiadau cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng gan gynnwys cyfarpar anadlu, cyfarpar diogelu rhag cwympo a chyfarpar achub cynorthwyol
sut i gynnal gwiriadau cyn defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng, a nodi diffygion ynddynt
sut i ffitio, rhoi ymlaen, gwisgo, defnyddio a thynnu cyfarpar diogelu personol a chyfarpar dianc ac anadlu a'r goblygiadau o ran hyd ac amddiffyniad os na chaiff hyn ei wneud yn gywir
cyfarwyddiadau gwneuthurwyr ynghylch defnyddio cyfarpar diogelwch, dianc ac argyfwng gan gynnwys cyfarpar diogelu rhag cwympo, cyfarpar achub cynorthwyol, cyfarpar anadlu hunangynhwysol a llinell aer, gan gynnwys y rhai ar gyfer pwysau'r corff a blew'r wyneb
deddfwriaeth a chodau ymarfer a chanllawiau cymeradwy ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelwch gan gynnwys cyfarpar anadlu hunangynhwysol
eich rôl wrth weithio'n rhan o dîm a sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel wrth weithio gydag eraill
y rolau a'r cyfrifoldebau wrth fynd i'r afael ag argyfyngau
gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau fu ond y dim iddynt ddigwydd
eich cylch gorchwyl mewn cysylltiad â chymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd argyfwng yn seiliedig ar asesiad risg
cynlluniau dosbarthu mannau cyfyng
sut i nodi mannau cyfyng risg uchel
sut i osod cyfarpar mynediad a'i archwilio
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng risg uchel
sut i asesu ac adolygu risgiau a pheryglon, hierarchaeth y mesurau rheoli a sut gellir eu defnyddio i leihau risgiau hyd at lefel dderbyniol er mwyn i waith gael ei wneud
pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon posibl ac amodau sy'n newid
sut mae systemau awyru'n gweithio a'u manteision a'u hanfanteision mewn mannau cyfyng
y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n addas i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol
y gwahanol fathau o gyfarpar monitro a'u cyfyngiadau
ffyrdd o fonitro amodau a gweithgaredd gwaith
gweithdrefnau diheintio
pam mae'n bwysig datrys problemau ynghylch gwaith mewn mannau cyfyng ar unwaith
sut i ddatrys problemau pan fydd pobl neu sefydliadau eraill yn cymryd rhan
systemau a phrotocolau signalau a chyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill wrth weithio mewn mannau cyfyng risg uchel ac mewn sefyllfaoedd argyfwng
sut i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwneuthurwyr ar gyfer paratoi, cyn ac ar ôl cynnal archwiliad, a defnyddio offer a chyfarpar
systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol ac anarferol a sefyllfaoedd argyfwng