Gweithio mewn mannau cyfyng risg ganolig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng risg ganolig a gweithio'n ofalus ynddynt. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.
Nodweddion mannau cyfyng risg ganolig:
- mynediadau dyfnach, o bosibl, a allai fod y tu hwnt i olwg y swyddog diogelwch neu'r person wrth y llyw
- mynediadau safonol a allai olygu gorfod dringo neu ddefnyddio cyfarpar mynediad
- risgiau a nodwyd ond sydd wedi'u rheoli wrth fynd i mewn neu wrth weithio
- gall gynnwys gweithio i ffwrdd o'r pwynt mynediad
- gall olygu bod mwy nag un person yn mynd i mewn i'r man cyfyng.
Mae gweithio mewn unrhyw fan cyfyng yn golygu gweithio yn unol â system waith y cytunwyd arni sy'n seiliedig ar asesiad risg. Ar ben hynny, mewn mannau cyfyng risg ganolig:
- gallech orfod defnyddio llinell achub mewn sefyllfaoedd prin
- gallech orfod cael cyfarpar diogelu a dulliau achub cynorthwyol fel winsh achub
- rhaid cario pecynnau dianc addas er mwyn achub eich hun mewn argyfwng
- rhaid cael un neu ragor o bobl y tu allan i'r man cyfyng sydd â chyfrifoldebau penodedig dros reoli'r mynediad a mynd i'r afael ag argyfyngau.
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi i fynd i mewn i fannau cyfyng risg ganolig a gweithio ynddynt yn ddiogel, mynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn ddiogel, defnyddio cyfarpar ac offer yn unol â manylion y gwneuthurwyr, dilyn gweithdrefnau a gweithio'n ddiogel, defnyddio cyfarpar dianc ac argyfwng, a mynd i'r afael ag argyfyngau. Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un o unrhyw sector y mae angen iddynt weithio mewn man cyfyng risg ganolig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau bod unrhyw asesiadau risg sy'n bodoli eisoes yn gywir cyn dechrau gweithio
cynnal asesiadau risg deinamig pan fo angen ar adegau priodol yn ystod gwaith
gosod systemau signalau a chyfathrebu a'u profi cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer tasgau a mannau cyfyng
gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar ac offer yn addas ac yn gweithio'n dda cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
dewis cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd mewn cyflwr da
dewis ac archwilio pecynnau dianc ar gyfer achub eich hun cyn dechrau gweithio, a chael rhai newydd pan fyddant yn ddiffygiol
rhoi gwybod i bobl briodol am ddiffygion cydymffurfio pecynnau dianc
cael caniatâd i fynd i mewn gan y bobl ddynodedig sy'n goruchwylio'r gwaith
gosod, profi a chofnodi canlyniadau cyfarpar monitro priodol cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
mynd i mewn i fannau cyfyng pan mae'n ddiogel gwneud hynny
cynnal parthau diogelwch a rheoli mynediad a symudiad pobl a cherbydau o amgylch mynediadau mewn sefyllfaoedd pan mae angen cadw pobl draw
cael gafael ar gyfarpar mynediad sy'n briodol ar gyfer mynd i mewn a gadael, ei osod a'i wirio
defnyddio cyfarpar mynediad i fynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn unol â gweithdrefnau ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng risg ganolig
defnyddio dulliau penodedig er mwyn mynd â chyfarpar ac offer i mewn i fannau cyfyng
datrys unrhyw broblemau gyda chyfarpar ac offer cyn ac wrth eu defnyddio
datrys unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i fannau cyfyng, eu gadael neu weithio ynddynt gyda phobl berthnasol
dilyn gweithdrefnau cyflogwyr ar gyfer gweithio'n ddiogel a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr cyfarpar
monitro amodau a lefelau risg mewn mannau cyfyng yn barhaus
cymryd camau priodol i reoli pob risg a chywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel ar unwaith
monitro gwybodaeth o gyfarpar monitro ac ymateb iddi yn unol â gweithdrefnau
parhau'n effro i amodau sy'n newid ac ymateb iddynt yn unol â gweithdrefnau bob amser
defnyddio protocolau sydd wedi ennill eu plwyf ar gyfer signalau neu gyfathrebu er mwyn dechrau cynlluniau argyfwng
dechrau cynlluniau argyfwng ar unwaith mewn sefyllfaoedd peryglus
defnyddio cyfarpar dianc priodol ar gyfer yr amgylchedd fel y nodir mewn gweithdrefnau
cario a defnyddio pecynnau dianc ar gyfer achub eich hun ar adegau priodol yn unol â gweithdrefnau a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
cofnodi digwyddiadau argyfwng a'u hamgylchiadau a rhoi gwybod amdanynt yn unol â gweithdrefnau
cwblhau'r holl ddogfennaeth a'r adroddiadau ar adegau priodol
anfon dogfennaeth ac adroddiadau ymlaen at y bobl briodol ar unwaith
sicrhau bod cyfarpar ac offer yn cael eu hadfer o fannau cyfyng pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
cau mannau gwaith a'u gwneud yn ddiogel pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
gwirio cyfarpar ac offer ar ôl eu defnyddio a'u storio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
gwirio cyfarpar dianc ac argyfwng ar ôl eu defnyddio a gadael yn ddiogel, a chadarnhau eu bod yn cyd-fynd â manylion cyn eu storio yn y storfa ddynodedig yn barod ar gyfer y gwaith nesaf.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion a nodweddion diffiniol mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth
sut i ddefnyddio awdurdodiadau gwaith a thrwyddedau i weithio
diffiniadau o sefyllfaoedd peryglus a gwahanol fathau o risg a nodir a chategorïau ohonynt
mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno
peryglon, sylweddau a sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng risg ganolig
sut i gynnal asesiad risg deinamig er mwyn adolygu risg, cofnodi canfyddiadau a lleihau'r risg o anaf i chi eich hun, cydweithwyr a'r cyhoedd
ymwybyddiaeth o sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
dulliau a thechnegau defnyddio a gwisgo cyfarpar diogelu personol
cyfyngiadau cyfarpar a sut i nodi pan nad yw'n gweithio
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr mewn cysylltiad a defnyddio cyfarpar ar gyfer mynd i mewn i fan cyfyng a gweithio yno'n ddiogel
eich rôl wrth weithio'n rhan o dîm a sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel wrth weithio gydag eraill
y rolau a'r cyfrifoldebau wrth fynd i'r afael ag argyfyngau
gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau fu ond y dim iddynt ddigwydd
cynlluniau dosbarthu mannau cyfyng
sut i nodi mannau cyfyng risg ganolig
sut i osod cyfarpar mynediad a'i archwilio
defnydd a chyfyngiadau pecynnau dianc a sut i'w harchwilio a'u defnyddio
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng risg ganolig
sut i asesu ac adolygu risgiau a pheryglon, hierarchaeth y mesurau rheoli a sut gellir eu defnyddio i leihau risgiau hyd at lefel dderbyniol er mwyn i waith gael ei wneud
sut mae systemau awyru'n gweithio a'u manteision a'u hanfanteision mewn mannau cyfyng
pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon posibl ac amodau sy'n newid
y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n addas i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol
y gwahanol fathau o gyfarpar monitro a'u cyfyngiadau
ffyrdd o fonitro amodau a gweithgaredd gwaith
pam mae'n bwysig datrys problemau ynghylch gwaith mewn mannau cyfyng ar unwaith
sut i ddatrys problemau pan fydd pobl neu sefydliadau eraill yn cymryd rhan
systemau a phrotocolau signalau a chyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill wrth weithio mewn mannau cyfyng risg ganolig ac mewn sefyllfaoedd argyfwng
sut i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwneuthurwyr ar gyfer paratoi, cyn ac ar ôl cynnal archwiliad, a defnyddio offer a chyfarpar
systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol ac anarferol a sefyllfaoedd argyfwng