Gwaith mewn mannau cyfyng risg isel
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio mewn mannau cyfyng risg isel. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig.
Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd. Nodweddion mannau cyfyng risg isel:
- lle risg isel i fynd i mewn, o bosibl, a mynediad syml a dirwystr
- ysgolion neu risiau sefydlog
- awyriad mecanyddol neu naturiol da
- heb unrhyw risg debygol o lifogydd
- tebygolrwydd isel o risg y gellir ei rhagweld yn rhesymol wrth fynd i mewn neu wrth weithio
- gallai gynnwys gweithio ar eich pen eich neu'n rhan o dîm.
Mae gweithio mewn unrhyw fan cyfyng yn golygu gweithio yn unol â system waith y cytunwyd arni sy'n seiliedig ar asesiad risg. Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi i fynd i mewn i fannau cyfyng risg isel a gweithio ynddynt yn ddiogel, mynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn ddiogel, defnyddio cyfarpar ac offer yn unol â manylion y gwneuthurwyr, dilyn gweithdrefnau a gweithio'n ddiogel a mynd i'r afael ag argyfyngau. Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio mewn man cyfyng risg isel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwirio nad oes ffyrdd amgen hyfyw i weithwyr fynd i mewn cyn penderfynu mynd i mewn i fannau cyfyng
cadarnhau bod unrhyw asesiadau risg sy'n bodoli eisoes yn gywir cyn dechrau gweithio
cynnal asesiadau risg deinamig pan fo angen ar adegau priodol yn ystod y gwaith
ceisio cyngor gan bobl briodol pan mae'r amodau o dan sylw yn wahanol i'r rhai a nodwyd mewn asesiadau risg
defnyddio dulliau cyfathrebu llafar sy'n addas ar gyfer tasgau a mannau cyfyng risg isel
defnyddio gweithdrefnau a dulliau cyfathrebu sy'n briodol wrth weithio ar eich pen eich neu'n rhan o dîm
gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar ac offer yn addas, yn gweithio'n dda ac yn barod i'w defnyddio cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd mewn cyflwr da
cael caniatâd i fynd i mewn i fan lle mae pobl ddynodedig yn goruchwylio gwaith
gosod, profi a chofnodi canlyniadau cyfarpar monitro priodol cyn mynd i mewn i fannau cyfyng
cynnal parthau diogelwch a rheoli mynediad a symudiad pobl a cherbydau o amgylch mynediadau mewn sefyllfaoedd pan mae angen cadw pobl draw
gwneud yn siŵr bod unrhyw ysgolion neu risiau sefydlog mewn cyflwr diogel cyn eu defnyddio
mynd i mewn i fannau cyfyng a'u gadael yn unol â gweithdrefnau ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng risg isel
defnyddio dulliau penodedig er mwyn mynd â chyfarpar ac offer i mewn i fannau cyfyng
dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun pan mae hynny'n cael ei ganiatáu
datrys unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i fannau cyfyng, eu gadael neu weithio ynddynt gyda phobl berthnasol
dilyn gweithdrefnau gweithio diogel cyflogwyr bob amser
defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr bob amser
monitro amodau a lefelau risg mewn mannau cyfyng ar adegau y cytunir arnynt
cymryd camau priodol i reoli pob risg a chywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel ar unwaith
monitro gwybodaeth o gyfarpar monitro ac ymateb iddi yn unol â gweithdrefnau
dechrau gweithdrefnau gadael mewn argyfwng ar unwaith mewn sefyllfaoedd peryglus
cofnodi digwyddiadau argyfwng a'u hamgylchiadau a rhoi gwybod amdanynt yn unol â gweithdrefnau
cwblhau'r holl ddogfennau ac adroddiadau cyn eu ffeilio mewn mannau dynodedig neu eu rhoi i bobl berthnasol
sicrhau bod cyfarpar ac offer yn cael eu hadfer o fannau cyfyng pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
cau mannau gwaith a'u gwneud yn ddiogel pan mae'r gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion a nodweddion diffiniol mannau cyfyng, iechyd a diogelwch, a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
y codau ymarfer a'r canllawiau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
mathau o fannau a allai fynd yn gyfyng gan fod risg a nodwyd yno
risgiau a nodwyd a allai greu man cyfyng
ymwybyddiaeth o sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ynghylch sut i ddefnyddio cyfarpar
y rolau wrth weithio'n rhan o dîm
y rolau a'r cyfrifoldebau wrth fynd i'r afael ag argyfyngau
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau, digwyddiadau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd, gan gynnwys y wybodaeth allweddol i'w rhoi am eich lleoliad
cynlluniau dosbarthu mannau cyfyng
sut i nodi mannau cyfyng risg isel
y pwysigrwydd o asesu cyflwr ysgolion a grisiau sefydlog a'r dulliau o wneud hynny
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng risg isel
pam mae'n bwysig bod yn effro i risgiau a pheryglon posibl, sut i gynnal asesiadau risg deinamig a pha mor briodol yw mathau o asesiadau risg gan gynnwys rhai cyffredinol a rhai ar gyfer safleoedd penodol
y gweithdrefnau a'r dulliau gweithio sy'n briodol i ddosbarth y man cyfyng ac amodau lleol
sut i leihau risgiau fel eu bod ar lefel dderbyniol i allu gwneud y gwaith gan gynnwys ynysu gwasanaethau sy'n gysylltiedig, a chadw llygad ar ddarlleniadau anadl ar ei orau ar gyfarpar monitro.
pwysigrwydd a chyfyngiadau mathau gwahanol o gyfarpar monitro a sut i wneud yn siŵr eu bod wedi'u gwefru
ffyrdd o fonitro amodau a gweithgaredd gwaith
pam mae'n bwysig datrys problemau am waith mewn mannau cyfyng ar unwaith a sut i gyfathrebu â phobl o sefydliadau eraill
y rhagofalon i'w cymryd wrth weithio ar eich pen eich hun gan gynnwys defnyddio asesiad risg deinamig wrth i amodau newid a chyfathrebu am amodau anniogel
y dulliau cyfathrebu ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill wrth weithio ar eich pen eich hun ac mewn sefyllfaoedd argyfwng, gan gynnwys y perygl sy'n gysylltiedig â defnyddio ffonau symudol pan mae nwy ffrwydrol wedi'i ganfod
y gweithdrefnau ar gyfer paratoi, gwirio a defnyddio offer a chyfarpar
y systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol a datrys problemau