Cynllunio, rheoli ac adolygu cydymffurfiad deddfwriaethol a diogelwch ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cydymffurfiad deddfwriaethol a diogelwch ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng. Mae man cyfyng yn unrhyw le, gan gynnwys unrhyw siambr, tanc, cerwyn, seilo, pwll, ffos, pibell, carthffos, ffliw, ffynnon neu fan tebyg lle ceir risg benodol y gellir ei rhagweld yn rhesymol oherwydd ei natur gaeedig. Gallai'r risgiau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i dân, ffrwydrad, nwy, mygdarthau, anwedd, diffyg ocsigen, lefelau cynyddol o hylif, mygu neu gaethiwo gan solidau sy'n llifo'n rhydd.
Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gwaith yn ddiogel mewn mannau cyfyng gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau deddfwriaethol, ystyriaethau iechyd a diogelwch a gofynion o ran cyfarpar. Mae'n cynnwys:
- cymhwyso gofynion deddfwriaethol a diwydiant perthnasol ar gyfer mannau cyfyng
- datblygu asesiadau risg
- penderfynu ar gamau rheoli addas
- datblygu systemau gwaith diogel
- sefydlu gweithdrefnau effeithiol ar gyfer defnyddio trwyddedau i weithio
- datblygu trefniadau effeithiol ar gyfer argyfyngau
- gweithredu a chynnal trefniadau effeithiol ar gyfer storio, adolygu ac archwilio dogfennau.
Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr sy'n gyfrifol am drefnu, cynllunio a rheoli cydymffurfiad deddfwriaethol a diogelwch ar gyfer gwaith mewn lleoedd cyfyng. Ni fydd y rheolwr o reidrwydd yn goruchwylio'r gwaith o dan sylw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi gweithgareddau gwaith sy'n cynnwys mannau cyfyng
penderfynu ar ddosbarth y mannau cyfyng ar sail eu disgrifiad a'r tasgau gwaith pan fo hynny'n berthnasol
nodi'r cymwyseddau sy'n ofynnol i ddatblygu systemau gwaith diogel ac effeithiol i reoli gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
cael gwybod beth yw'r gofynion deddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer gweithgareddau gwaith a gynhelir mewn mannau cyfyng
pennu'r nifer lleiaf o bobl sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
datblygu a gweithredu systemau gwaith addas a digonol ar gyfer mannau cyfyng
nodi cymwyseddau'r bobl sydd eu hangen i weithio ym mhob man cyfyng a nodwyd
penderfynu pryd a sut y dylid defnyddio trwyddedau i weithio mewn mannau cyfyng
cadarnhau bod yr holl bobl berthnasol yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau
monitro, archwilio ac adolygu systemau gwaith diogel yn ôl yr angen
nodi peryglon sy'n gysylltiedig â gweithio mewn mannau cyfyng gan gynnwys pwy allai gael ei niweidio a sut
gwerthuso risgiau a nodi'r camau rheoli sydd eu hangen i'w lliniaru
cofnodi canfyddiadau asesiadau risg mewn dogfennaeth briodol
adolygu a diweddaru asesiadau risg yn ôl yr angen i gynnal iechyd a diogelwch ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng
defnyddio asesiadau risg i bennu'r math a nifer y camau rheoli ar gyfer peryglon penodol mewn mannau cyfyng er mwyn sicrhau bod iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal
pennu'r profion angenrheidiol er mwyn gwirio effeithiolrwydd camau rheoli ar gyfer y peryglon mewn mannau cyfyng
nodi'r gweithdrefnau sy'n ofynnol ar gyfer gweithio'n ddiogel mewn mannau cyfyng
pennu'r cofnodion sy'n gysylltiedig â'r camau rheoli a pha mor aml y caiff y rhain eu hadnewyddu a'u hadolygu
pennu cyfansoddiad, cymwyseddau a galluoedd corfforol a niferoedd y timau gwaith i allu gweithio mewn mannau cyfyng gan ddefnyddio dulliau rheoli cydnabyddedig
nodi'r cyfarpar arbenigol i reoli peryglon a ganfyddir a rhai a ragwelir
pennu'r drefn ar gyfer sefydlu, dilysu a chynnal camau rheoli peryglon a rhoi gwybod i'r tîm gwaith amdanynt
sefydlu trefniadau effeithiol ar gyfer delio â sefyllfaoedd argyfwng a allai godi
pennu cwmpas y gwaith sy'n gorfod cael trwyddedau i weithio mewn mannau cyfyng
nodi'r gweithwyr sydd eu hangen i weithredu'r camau rheoli a ddarperir gan drwyddedau i weithio
cwblhau'r cofnodion a'r dogfennau angenrheidiol sy'n ofynnol gan drwyddedau i weithio
sefydlu gweithdrefn er mwyn sicrhau bod timau gwaith yn cael eu hysbysu ynglŷn â'u rôl/rolau a'u dyletswyddau o dan drwyddedau i weithio
pennu'r ymatebion argyfwng sy'n ofynnol ar gyfer tasgau penodol sydd wedi cael asesiad risg mewn mannau cyfyng
pennu trefniadau addas a digonol ar gyfer cymorth cyntaf
sicrhau bod gan yr holl weithwyr perthnasol y cymhwysedd a'r awdurdodiad perthnasol ar gyfer eu rôl
sicrhau bod timau gwaith ac unrhyw gynorthwywyr allanol yn deall y gweithdrefnau ymateb i argyfwng a'r trefniadau cymorth cyntaf
cwblhau dogfennaeth am fannau cyfyng a'u cadw yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
adolygu'r dogfennau a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng er mwyn sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal
cynnal archwiliadau o'r system reoli a ddefnyddir i reoli gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng er mwyn sicrhau bod cydymffurfiad statudol yn cael ei gynnal
cynnal cymwysterau a hyfforddiant parhaus ar gyfer y rôl hon yn unol â gofynion deddfwriaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif egwyddorion mannau cyfyng cyfredol, iechyd a diogelwch a deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol
codau ymarfer, canllawiau a safonau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
yr ystod o asesiadau risg a allai fod angen eu cynhyrchu i gydymffurfio â gweithgareddau gwaith a gynhelir mewn man cyfyng
y ddyletswydd ddeddfwriaethol a roddir i gyflogwr, rheolwr, goruchwyliwr a gweithredwr sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith mewn man cyfyng
gofynion sefydliadol sy'n berthnasol i weithgareddau gwaith mewn man cyfyng
y broses 5 cam o gynhyrchu asesiadau risg
y peryglon sy'n gynhenid i fan cyfyng wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith
y peryglon sy'n cael eu trosglwyddo i fan cyfyng wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith
yr hierarchaeth sy'n ofynnol gan statudau ar gyfer rheoli peryglon
cynlluniau dosbarthu ar gyfer cymhlethdod mynediad
sut i bennu difrifoldeb peryglon a lefelau risg
y grwpiau o bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan weithgareddau gwaith sy'n gysylltiedig â mannau cyfyng
y cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer gweithwyr sy'n ymwneud â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng gan gynnwys gwaharddiadau meddygol, ffactorau dynol, materion ergonomig
mathau o systemau awyru gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y byddai defnyddio'r rhain yn fwyaf effeithiol
yr offer monitro amgylcheddol sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
y cyfundrefnau monitro amgylcheddol sy'n ofynnol i allu gwneud gwaith yn ddiogel
y cyfarpar sydd ar gael ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng
y cyfarpar a'r offer y gellir eu defnyddio yn yr amgylchedd gwaith o dan sylw
sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar a'r offer yn addas at y diben
y cyfarpar anadlol amddiffynnol sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
y cyfarpar anadlol amddiffynnol personol sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
y camau perthnasol ar gyfer rheoli "risgiau penodedig" yn effeithiol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
sut i werthuso effeithiolrwydd y camau rheoli sydd ar waith ar hyn o bryd a'r rhai arfaethedig
gweithdrefnau diheintio
yr elfennau sydd eu hangen ar gyfer system ddiogel a dulliau gweithio
y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i helpu i ddatblygu dull diogel o weithio
y drefn ar gyfer cynnal gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
y cyfarpar sydd ei angen i ymgymryd â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
y dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng
pryd y dylid rhoi trwyddedau i weithio
sut i roi trwyddedau i weithio
perthnasedd trwyddedau i weithio ar gyfer gweithgareddau mewn mannau cyfyng
yr elfennau sydd eu hangen ar gyfer trwyddedau i weithio
rolau a chyfrifoldebau'r gweithwyr sy'n ymwneud â gweithgareddau mewn mannau cyfyng o dan system trwydded i weithio
sut gall sefyllfaoedd argyfwng godi mewn mannau cyfyng
rolau a chyfrifoldebau gweithwyr sy'n ymwneud â gweithgareddau gwaith mewn mannau cyfyng pe byddai argyfwng yn codi
systemau cyfathrebu ac adrodd ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael ag argyfyngau
y cyfarpar achub y gellir ei ddefnyddio mewn mannau cyfyng
y camau cymorth cyntaf y gellir eu defnyddio mewn mannau cyfyng
y gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael â'r hyn sy'n digwydd o ganlyniad i argyfwng
y systemau adrodd ar gyfer gweithgareddau gwaith arferol a datrys problemau
y prosesau a ddefnyddir i bennu pa mor aml y caiff asesiadau risg eu hadolygu
pa mor aml y mae angen cynnal hyfforddiant parhaus ar gyfer y rôl hon a sut a ble i gael mynediad ato