Cynllunio Gweithgarwch Peirianneg ar gyfer Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy

URN: EUS GNC017
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud â chynllunio'r gweithrediadau i'w cwblhau ar asedau'r rhwydwaith nwy. Mae'n cynnwys y prosesau a'r gweithdrefnau sydd angen eu dilyn i sicrhau y bydd y gwaith a gwblhawyd yn cydymffurfio â'r manylebau sicrhau ansawdd a gweithredu a bennir gan y sefydliad.

Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys chwe elfen:
1. casglu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn paratoi cynllun cynhwysfawr 
2. nodi'r materion yn ymwneud ag Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y bydd angen eu cynnwys yn y cynllun 
3. pennu'r dilyniant a gynlluniwyd a'r amserlen sydd ei hangen ar gyfer y gweithgarwch 
4. paratoi a dogfennu'r cynllun
5. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
6. datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Casglu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn paratoi cynllun cynhwysfaw

1. nodi'r holl ffactorau perthnasol i'w cynnwys yn y cynllun
2. ymgysylltu ag asiantaethau allanol yn ôl yr angen er mwyn casglu'r wybodaeth sy'n berthnasol ar gyfer cyflawni'r cynllun 
3. pennu'r holl drwyddedau a gweithdrefnau sydd angen eu dilyn drwy gydol y gweithrediad
4. cynllunio a chyflawni'r holl waith yn unol â pholisi a gweithdrefnau gwaith y cwmni 

Nodi'r materion yn ymwneud ag Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd a fydd angen eu cynnwys yn y cynllun

5. nodi unrhyw ofynion penodol a allai effeithio ar y safle neu'r gweithrediadau a gynllunnir
6. cadarnhau os bydd angen defnyddio unrhyw delerau ac amodau penodol ar gyfer y safle, gweithrediad neu'r amserlen a gynllunnir 

Pennu'r dilyniant a gynlluniwyd a'r amserlen sydd ei hangen ar gyfer y gweithgarwch

7. ymgysylltu ag eraill i nodi amserlen realistig ar gyfer y gweithrediadau gofynnol 
8. cofnodi'r dilyniant o weithgarwch yn unol â gweithdrefnau Rheoli Gweithrediadau'n Ddiogel a gweithdrefnau'r cyflogwr
9. llunio opsiynau wrth gefn ar gyfer newidiadau annisgwyl i'r amserlen a gynlluniwyd 
10. dilyn a chynnal arferion gwaith ac amgylchedd diogel yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol drwy gydol y gwaith

Paratoi a dogfennu'r cynllun

11. llunio cynllun cynhwysfawr gan gynnwys gofynion adnoddau, amserlenni a cherrig milltir yn ôl y gofyn 
12. cynnal y cynllun yn unol â pholisi a gweithdrefnau'r cyflogwr 

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

13. egluro'r cynllun a ddogfennwyd i'r holl bersonél perthnasol
14. rhoi gwybod am unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r cynllun ar unrhyw gam o'r gweithrediad 
15. rhoi gwybod am gwblhau'r gweithrediad a gynlluniwyd a nodi unrhyw amrywiadau i'r cynllun gwreiddiol 
16. sicrhau y caiff yr holl gofnodion eu diweddaru yn unol â gweithdrefnau'r cyflogwr 

Datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon

17. nodi unrhyw broblemau ac ymateb iddynt yn unol â chyfyngiadau dyletswyddau eich swydd
18. rhoi gwybod am unrhyw broblemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i'r personél dynodedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyffredinol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
5. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
6. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng

Cynllunio Gweithgarwch Peirianneg

7. gweithdrefnau a phrosesau'r cwmni ar gyfer rhoi gwybod am broblemau
8. sut i ddarllen a dehongli'r polisïau, gweithdrefnau a ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir
9. y prosesau a'r gweithdrefnau sydd angen eu dilyn ynghyd â chydymffurfio â nhw wrth gwblhau gweithrediadau cynllunio 
10. effaith bosibl cynllunio sawl gweithrediad safle 
11. sut i gynnal arferion gweithio diogel ac amgylcheddol drwy gydol y gwaith
12. sut i leihau risgiau i chi eich hunain ac i eraill wrth ymgymryd â'r gweithgarwch gwaith
13. cyfarwyddiadau gwaith, systemau gwybodaeth a chyflwyno adroddiadau a dogfennaeth y cwmni
14. gweithdrefnau Rheoli Gweithrediadau'n Ddiogel (Systemau Gwaith Diogel)
15. sut i ymateb i'r mathau a'r categorïau gwahanol o argyfyngau a allai ddigwydd
16. y prosesau a'r technegau dilynol sydd angen eu dilyn a'u defnyddio wrth waredu deunyddiau ac adnoddau o safle 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUS GNC017

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, cynllunio, asedau