Pennu'r Gofynion Adnoddau sydd eu hangen er mwyn Cyflawni Amcanion ar gyfer Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC016
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud â darparu'r adnoddau dynol a deunyddiau sydd eu hangen i gyflawni gweithgarwch gwaith penodol ar asedau'r rhwydwaith nwy. Mae'n cynnwys y prosesau a'r gweithdrefnau sydd angen eu dilyn i sicrhau bod y gwaith a gwblhawyd yn cydymffurfio â'r manylebau sicrhau ansawdd a gweithredu a bennir gan y sefydliad.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pum elfen:
1. pennu'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r gwaith
2. pennu'r ffynhonnell a darparu amserlenni ar gyfer yr adnoddau sydd eu hangen
3. sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni'r gwaith yn unol â'r amserlen benodol
4. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
5. datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Pennu'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r gwaith
1. pennu'r lleoliad gwaith gan ddefnyddio dogfennaeth y cwmni a chyfarwyddiadau'r gwaith
2. cynnal asesiad o'r adnoddau penodol ar gyfer y dasg yn unol â gweithdrefnau'r diwydiant a gweithdrefnau'r cyflogwr
3. llunio cynllun adnoddau er mwyn sicrhau y gellir ymgymryd â'r gwaith caffael
4. ystyried a dogfennu'r opsiynau adnoddau a allai sicrhau y gellir defnyddio dulliau gweithredu amgen
Pennu'r ffynhonnell a darparu amserlenni ar gyfer yr adnoddau sydd eu hangen
5. llunio opsiynau ar gyfer sefyllfaoedd lle y caiff adnoddau eu defnyddio o bosibl
6. pennu opsiwn a ffefrir a chadarnhau argaeledd adnoddau
7. caffael adnoddau yn unol â gweithdrefnau'r cyflogwr
8. ymgysylltu â chyflenwyr adnoddau i gadarnhau y cânt eu cyflenwi yn unol â'r amserlen y cytunir arni
Sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni'r gwaith yn unol â'r amserlen benodol
9. cadarnhau y caiff adnoddau eu cynnal yn unol â'r amserlen y cytunir arni
10. rhoi gwybod am unrhyw adnoddau sydd ar goll neu adnoddau diffygiol i'r cyflenwr a chytuno ar broses i'w hatgyweirio
11. sicrhau bod y personél a ddefnyddir yn bodloni'r gofynion penodol o ran cymhwysedd a gallu
12. rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion yn yr adnoddau a allai effeithio ar gyflawni'r canlyniadau gofynnol
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
13. rhoi gwybod am gyfarpar neu adnoddau nad ydynt ar gael neu sy'n ddiffygiol
14. darllen a dehongli cyfarwyddiadau a dogfennaeth y gwaith
15. sicrhau bod y personél a ddefnyddir i gwblhau'r gwaith yn gwbl ymwybodol o'r dasg ac unrhyw ofynion penodol
16. rhoi gwybod am gwblhau'r gwaith a dogfennu yn unol â gweithdrefnau'r cyflogwr
17. trefnu i symud ac ailgylchu'r holl ddeunyddiau sy'n weddill yn unol ag ystyriaethau amgylcheddol a gweithdrefnau'r cyflogwr
Datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon
18. nodi unrhyw broblemau ac ymateb iddynt yn unol â chyfyngiadau dyletswyddau eich swydd
19. rhoi gwybod am unrhyw broblemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i'r personél dynodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y
Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
5. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
6. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
Pennu Gofynion Adnoddau
7. gweithdrefnau a phrosesau'r cwmni ar gyfer rhoi gwybod am broblemau gyda'r personél ac adnoddau deunyddiau
8. polisïau a gweithdrefnau caffael sefydliadol
9. sut i ddarllen a dehongli'r gweithdrefnau a'r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir i sicrhau bod cyfarpar yn addas at y diben, yn ddiogel i'w defnyddio ac y cânt eu cynnal a chadw'n gywir
10. y cyfarpar diogelwch personol sydd angen eu gwisgo wrth ymgymryd â'r gweithgarwch gwaith
11. sut i gynnal arferion gweithio diogel ac amgylcheddol drwy gydol y gwaith
12. sut i leihau risgiau i chi eich hunain ac i eraill wrth ymgymryd â'r gweithgarwch gwaith
13. cyfarwyddiadau gwaith, systemau gwybodaeth a chyflwyno adroddiadau a dogfennaeth y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC016
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, adnoddau, caffael, asedau