Pennu'r Gofynion Technegol sydd eu Hangen er mwyn Cyflawni Amcanion ar Weithrediadau Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC015
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn trafod y gweithgarwch sydd eu hangen er mwyn asesu a dadansoddi gweithgarwch gwaith penodol ar ased y rhwydwaith nwy, i bennu amodau penodol y safle, y gofynion technegol, y dull gweithio, yr asesiad risg a'r dilyniant gweithredol sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys chwe elfen:
1. nodi a chadarnhau'r amcanion gofynnol
2. dadansoddi amodau penodol y safle i bennu unrhyw oblygiadau
3. ymgymryd ag asesiad risg a chofnodi'r holl ffactorau perthnasol
4. nodi cynllun gwaith i gyflawni'r amcanion gofynnol
5. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
6. datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi a chadarnhau'r amcanion gofynnol
1. pennu amcanion y dasg gan ddefnyddio dogfennaeth y cwmni a chyfarwyddiadau'r gwaith
2. cynnal asesiad o amodau'r safle er mwyn cadarnhau'r agweddau perthnasol a'r goblygiadau posibl
3. cadarnhau unrhyw gyfyngiadau perthnasol a allai effeithio ar gwblhau'r gwaith
Dadansoddi amodau penodol y safle i bennu unrhyw oblygiadau
4. archwilio'r safle a chofnodi unrhyw ffactorau penodol a allai effeithio ar gwblhau'r gwaith
5. cadarnhau unrhyw cyfarpar penodol neu ofynion peiriannau
6. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
Ymgymryd ag asesiad risg a chofnodi'r holl ffactorau perthnasol
7. cynnal asesiad risg yn unol â gweithdrefnau'r diwydiant a gweithdrefnau'r cyflogwr
8. cofnodi'r asesiad risg a'r holl ffactorau penodol o berygl a allai effeithio ar gwblhau'r gwaith yn ddiogel
9. dilyn a chynnal arferion gwaith ac amgylchedd diogel yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol drwy gydol y gwaith
Nodi cynllun gwaith i gyflawni'r amcanion gofynnol
10. llunio datganiad dull sy'n disgrifio'r gweithgarwch dilynol sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion gofynnol
11. sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio â holl weithdrefnau'r maes tra'n cynnal y cyfluniad mwyaf effeithlon posibl
12. sicrhau bod yr holl drwyddedau ac awdurdodau gofynnol ar gyfer y gwaith ar waith ac yn ddilys
13. sicrhau bod yr agweddau ar brofi a chomisiynu wedi'u cynnwys yng nghynllun y gwaith
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
14. egluro'r gofynion technegol i'r tîm ac eraill sy'n ymwneud â'r gweithgarwch gwaith
15. disgrifio'r datganiad dull a'r gweithgarwch dilynol i'w dilyn
16. darllen a dehongli cyfarwyddiadau a dogfennaeth y gwaith
17. rhoi gwybod am unrhyw amrywiadau i'r datganiad dull bwriadedig
18. cadarnhau bod yr holl amcanion wedi'u cyflawni ar ddiwedd y gwaith
19. dogfennu cofnod gwaith yn unol â gweithdrefnau cymeradwy y diwydiant a'r cwmni
Datrys problemau yn effeithiol ac yn effeithlon
20. ymateb i unrhyw broblemau o fewn dyletswydd y swydd
21. rhoi gwybod am unrhyw broblemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i'r personél dynodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
5. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
6. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith
Maes Gwaith a Gweithdrefnau
7. gweithdrefnau a phrosesau'r cwmni ar gyfer rhoi gwybod am broblemau
8. sut i ddarllen a dehongli'r gweithdrefnau a'r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir i sicrhau bod cyfarpar yn addas at y diben ac yn ddiogel i'w defnyddio
9. pa brosesau a'r gweithdrefnau sydd angen eu dilyn ynghyd â chydymffurfio â nhw er mwyn cynnal asesiadau risg
10. sut i ddarllen a dehongli cyfarwyddiadau ar gyfer gofynion technegol penodol
11. pa gyfarpar diogelwch personol sydd angen eu gwisgo wrth ymgymryd â'r gweithgarwch gwaith
12. sut i gynnal arferion gweithio diogel ac amgylcheddol drwy gydol y gwaith
13. sut i leihau risgiau i chi eich hunain ac i eraill wrth ymgymryd â'r gweithgarwch gwaith
14. cyfarwyddiadau gwaith, systemau gwybodaeth a chyflwyno adroddiadau a dogfennaeth y cwmni
15. sut i ddethol y llwybr mwyaf addas ar gyfer y pibellau
16. sut y gellir diogelu safle'r gwaith yn y ffordd orau posibl
17. sut i ymateb i'r mathau a'r categorïau gwahanol o argyfyngau a allai ddigwydd
18. beth yw'r prosesau a'r technegau dilynol sydd angen eu dilyn a'u defnyddio
19. nodi cyfarwyddiadau a dogfennaeth gwaith anghywir a rhoi gwybod amdanynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC015
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, technegol, gofynion