Cynnal a Chomisiynu Cysylltiadau Penodedig i Asedau'r Rhwydwaith Nwy

URN: EUS GNC014
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol i gysylltu elfennau ac asedau peirianneg newydd i'r rhwydwaith nwy sydd eisoes yn bodoli. Mae'n gofyn am lefel uchel o wybodaeth am y mathau gwahanol o'r technegau cysylltu, a'r amgylchiadau penodol y gellir eu defnyddio ynddynt.

Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pum elfen:
1. dehongli gwybodaeth dechnegol ar gyfer cysylltu asedau peirianneg i'r system
2. dethol elfennau ac adnoddau ar gyfer y gwaith cysylltu
3. cysylltu cynnyrch neu asedau peirianneg i'r system
4. comisiynu cynnyrch neu asedau peirianneg newydd i'r system
5. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Dehongli gwybodaeth dechnegol ar gyfer cysylltu asedau peirianneg i'r system

1. defnyddio lluniadau, cofnodion, dogfennau gwaith, llawlyfrau, manylebau technegol ac awdurdodiadau i ddarparu manylion ar gyfer y gwaith o gysylltu
2. dehongli dimensiynau, hydoedd, lledau a niferoedd o'r wybodaeth dechnegol
3. nodi safleoedd peiriannau, is-strwythurau, adeiladau, cyrbiau a ffiniau cyfleustodau eraill i'r graddau eu bod yn effeithio ar y cysylltiad

Dethol elfennau ac adnoddau iâr gyfer y gwaith cysylltu

4. dethol y mathau o elfennau yn unol â'r gwaith a'r manylebau
5. dilyn gweithdrefnau cymeradwy i ailosod elfennau diffygiol, elfennau nad ydynt yn cyd-fynd ac elfennau is na'r safon
6. gwirio a sicrhau bod digon o weithwyr, peiriannau, cyfarpar, deunyddiau a nwyddau traul ar gael ar gyfer y gwaith dan sylw
7. ymateb i newidiadau gwirioneddol a newidiadau a ragwelir i'r defnydd a gynlluniwyd o adnodd yn brydlon ac yn effeithiol 

Cysylltu cynnyrch neu asedau peirianneg i'r system

8. pennu'r dull i'w ddefnyddio ar gyfer y gwaith cysylltu er mwyn bodloni meini prawf y dyluniad yn seiliedig ar wybodaeth hysbys ac amgylchiadau'r safle 
9. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle wrth i'r gwaith ddatblygu yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
10.defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg
11. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
12. gwirio a chadarnhau bod cyflwr a maint y gwaith cloddio yn ddigonol ac yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a manylebau 
13. sicrhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer y gwaith, gweithdrefn weithredol ac awdurdodiadau ar waith cyn cychwyn ar y gwaith cysylltu 
14. cymryd y rhagofalon digonol er mwyn atal niwed i elfennau a chyfarpar 
15. sicrhau bod yr asedau peirianneg a osodwyd i ddarparu cymorth ac i angori yn cydymffurfio â chodau ymarfer cymeradwy
16. cysylltu â'r system sydd eisoes yn bodoli gan ddefnyddio technegau awdurdodedig 
17. cynnal yr holl waith yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol

Comisiynu cynnyrch neu asedau peirianneg newydd

18. sicrhau bod gweithdrefn weithredol ysgrifenedig wedi cael ei chwblhau a'i hawdurdodi 
19. cyflawni'r gwaith o gomisiynu yn unol â dogfen awdurdodedig y weithdrefn weithredol 

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

20. dewis a darparu gwybodaeth i bobl sydd angen gwybodaeth dechnegol mewn ffordd sy'n addas ar gyfer y person, y math o wybodaeth a'r ffordd y caiff ei defnyddio
21. gwirio a chadarnhau dealltwriaeth o'r wybodaeth dechnegol a dderbynnir gan y derbynyddion
22. rhoi gwybod am anghywirdebau yn y ffynonellau gwybodaeth dechnegol a ddefnyddir i berson dynodedig
23. cwblhau dogfennaeth y gwaith yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
24. rhoi gwybod am unrhyw niwed i gyfarpar neu ddeunyddiau ynghyd â diffygion i'r person dynodedig
25. rhoi gwybod am waith heb ei gwblhau a'r gwaith na ddylid ei amserlennu i'r person dynodedig
26. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyffredinol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
9. y peryglon posibl o systemau pwysedd canolig, canolraddol neu uchel

Cysylltu a chomisiynu asedau'r rhwydwaith nwy sydd eisoes yn bodoli

10. pwysigrwydd cynnal asesiadau risg ar y safle a'u hadolygu 
11. polisi a gweithdrefnau'r sefydliad er mwyn bodloni'r gofynion statudol perthnasol, rheoliadau a Chodau Ymarfer 
12. goblygiadau methu â chael yr awdurdodiad priodol 
13. y ffactorau sy'n effeithio ar addasrwydd cloddiadau a'r ffyrdd o'u cadarnhau
14. y peryglon posibl mewn ceudyllau a ffosydd
15. y peryglon o gymryd camau gweithredu a allai achosi peryglon o ran mannau cyfyngedig mewn cloddiadau
16. yr amrywiaeth o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael a'r pwysigrwydd o'u gwisgo
17. y mathau gwahanol o gyfarpar atal llif y gellid eu defnyddio
18. goblygiadau defnyddio cyfarpar atal llif ar gyfundrefnau pwysedd gwahanol 
19. pwysigrwydd defnyddio peiriannau, cyfarpar, deunyddiau ac elfennau systemau cywir
20. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau ar gyfer peiriannau, cyfarpar, deunyddiau ac elfennau ac asedau systemau diffygiol 
21. y diffygion sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau a chyfarpar anghywir ar gyfer y gwaith gosod
22. yr amrywiaeth o ddulliau ynysu sydd ar gael a'r sail resymegol dros eu dethol
23. y weithdrefn ar gyfer gael gafael ar awdurdod i barhau â'r gwaith cysylltu
24. pwysigrwydd cael y caniatâd priodol er mwyn ynysu unrhyw ran o'r rhwydwaith
25. yr amrywiaeth o gamau gweithredu y dylid eu cymryd os na ellir parhau â'r gwaith yn unol â'r amserlen
26. sut i bennu'r camau adferol diogel priodol os na ellir parhau â'r gwaith am unrhyw reswm
27. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau'r cwmni
28. y dulliau o gael gafael ar wybodaeth o ddogfennau cyfeirio, Rheoliadau, Codau Ymarfer 
29. y mathau ac achosion o oedi sy'n debygol a'r mesurau osgoi
30. y peryglon o ddiffyg gweithdrefnau codi a chario
31. y mathau ac arwyddion o ddiffygion sy'n debygol o fodoli ar is-system a'r ffyrdd o bennu'r camau gweithredu priodol a diogel
32. pwysigrwydd cydymffurfio â safonau presennol y diwydiant


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUS GNC104

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, comisiynu, cysylltiadau, prif bibellau