Cynnal Profion Penodedig ar gyfer Elfennau ac Asedau Peirianneg y Rhwydwaith Nwy ar Waith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC013
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen er mwyn profi elfennau ac asedau'r rhwydwaith nwy yn unol â safonau a disgwyliadau'r diwydiant. Mae'n cynnwys sicrhau bod y ffordd y caiff profion eu cynnal a'u cofnodi yn cydymffurfio â'r safonau sicrhau ansawdd a bennir gan y sefydliad. Mae'n gofyn am ddealltwriaeth o'r gofynion diogelwch sydd angen eu dilyn a'u meithrin wrth gynnal gweithgarwch a gweithdrefnau profion.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal gweithgarwch profion
1. gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth iechyd,
diogelwch ac amgylcheddol
2. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle
3. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiadau risg
4. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch
personol priodol
5. sicrhau na fydd trydydd parti yn ymyrryd ar y safle a diogelu rhag tresmasu
6. defnyddio cyfarpar cynnal profion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwaith a manylebau'r gwneuthurwr
7. sicrhau bod y cyfarpar yn gweithio yn unol â gofynion a pharamedrau gweithredu system
8. dilyn lluniadau, cynlluniau a manylebau ar gyfer y profion penodedig ar gyfer elfennau ac asedau'r rhwydwaith nwy
9. cyfrifo amseroedd a lefelau penodedig y profion
10. angori elfennau ac asedau i wrthsefyll pwyseddau'r profion
11. gosod a chynnal y profion yn dilyn cyfarwyddiadau gwaith ac o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt
12. cynnal yr holl brofion yn unol â gweithdrefnau cymeradwy y diwydiant a'r cwmni
13. dilyn gweithdrefnau cymeradwy i nodi a datrys problemau sy'n deillio yn ystod y profion
14. adolygu canlyniadau profion i gadarnhau bod perfformiad y system yn cydymffurfio â manylebau a pharamedrau perfformiad
15. cofnodi canlyniadau'r profion a chwblhau'r dogfennau cofnodi profion yn dilyn systemau adrodd a defnyddio'r ddogfennaeth yn unol â gweithdrefnau a gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
9. y peryglon posibl o systemau pwysedd canolig, canolraddol neu uchel
Profion penodedig ar gyfer prif bibellau a gwasanaethau'r rhwydwaith nwy
10. y gofynion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy'n berthnasol ar gyfer y profion
11. cyfundrefnau gwahanol ar gyfer pwysedd a dulliau cysylltiedig ar gyfer profi a chofnodi
12. sut i gyfrifo amseroedd a lefelau penodedig y profion
13. pwysigrwydd angori digonol wrth gynnal y profion
14. y manylebau clirio a chomisiynu ar gyfer elfennau ac asedau
15. sut i ddefnyddio'r mathau o gyfarpar profi, clirio a chomisiynu yn gywir gan gynnwys y rheini a ddefnyddiwyd mewn profion hydrolig
16. sut i galibro'r mesuryddion pwysedd, a pham fod angen eu calibro
17. sut i ddehongli canlyniadau profion yn erbyn manylebau a chodau ymarfer
18. effaith y pwysedd atmosfferig a'r tymheredd ar ganlyniadau profion ar gyfer elfennau ac asedau
19. y canlyniadau posibl os bydd prawf yn methu gan gynnwys o ran yr amgylchedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC013
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, profi, asedau, pwysedd, pwyseddau