Gosod Elfennau ac Asedau Peirianneg ar Waith Adeiladu Nwy
URN: EUS GNC012
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol i ddehongli manylebau technegol a gosod Elfennau ac Asedau peirianneg newydd ar Waith Adeiladu Nwy.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pedair elfen:
1. dehongli gwybodaeth dechnegol ar gyfer gosod Elfennau ac Asedau ar y system
2. dethol Elfennau, Asedau ac adnoddau i'w gosod ar y system
3. gosod Elfennau ac Asedau ar y system
4. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth dechnegol ar gyfer gosod Elfennau ac Asedau ar y system
1. defnyddio lluniadau, cofnodion, dogfennau gwaith, llawlyfrau, manylebau technegol ac awdurdodiadau i ddarparu manylion ar gyfer y gwaith o gysylltu
2. dehongli dimensiynau, hydoedd, lledau a niferoedd o'r wybodaeth dechnegol
3. dehongli safleoedd peiriannau, gwasanaethau, adeiladau, cyrbiau a ffiniau cyfleustodau o'r wybodaeth dechnegol
4. gwneud y cywiriadau priodol i luniadau, cofnodion a dogfennau gwaith
Dethol Elfennau, Asedau ac adnoddau i'w gosod ar y system
5. dethol yr Elfennau, Asedau a'r adnoddau yn unol â manylebau'r gwaith ac ansawdd
6. gwirio Elfennau ac Asedau a gosod cyfarpar ar gyfer gweithredadwyedd a sicrhau nad ydynt wedi cael eu niweidio
7. dilyn gweithdrefnau i ailosod Elfennau ac Asedau diffygiol, Elfennau ac Asedau nad ydynt yn cyd-fynd ac Elfennau ac Asedau is na'r safon
8. sicrhau bod digon o weithwyr, peiriannau, cyfarpar, deunyddiau a nwyddau traul ar gael ar gyfer y gweithgarwch gwaith
Gosod Elfennau ac Asedau ar y system
9. dehongli manyleb y dyluniad i bennu'r dull a ddefnyddir ar gyfer y gwaith gosod
10. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â pholisi'r cwmni
11. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg
12. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
13. gwirio a chadarnhau bod amgylchedd y gwaith yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a manylebau
14. dethol, paratoi a gweithredu'r cyfarpar gosod yn unol â'r fanyleb a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
15. gosod Elfennau Asedau yn eu safleoedd yn unol â'r fanyleb
16. gosod Elfennau ac Asedau i safonau'r diwydiant gan
ddefnyddio technegau mecanyddol a/neu dechnegau weldio ar ffurf ymdoddi
17.cymryd y rhagofalon digonol er mwyn atal niwed i Elfennau ac Asedau, cyfarpar ac offer yn ystod y gwaith gosod
18. diogelu Elfennau ac Asedau a osodir yn unol â'r fanyleb a chodau ymarfer
19. cadw pellteroedd cyfagos rhag y cyfarpar cyfleustodau eraill yn unol â chodau ymarfer cymeradwy
20. sicrhau bod asedau a osodir wedi'u cefnogi a'u hangori yn unol â chodau ymarfer
21. cysylltu â system PE (Polyethylen) neu system Fetalaidd sydd eisoes yn bodoli gan ddefnyddio cysylltiadau penodol yn unol â chodau ymarfer
22. gwirio ansawdd y gwaith gosod a chadarnhau ei fod yn cydymffurfio â'r safon a nodir
23. cynnal diogelwch y system lle nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau neu wedi'i gwblhau erbyn yr amserlen
24. sicrhau bod arferion gwaith yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithio diogel drwy gydol y gweithgarwch gwaith
25. cadarnhau y caiff yr holl waith ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol a rheoliadol
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
26. dewis a darparu gwybodaeth i bobl sydd angen gwybodaeth dechnegol mewn ffordd sy'n addas ar gyfer y person, y math o wybodaeth a'r ffordd y caiff ei defnyddio
27. gwirio a chadarnhau dealltwriaeth o'r wybodaeth dechnegol a dderbynnir gan y derbynyddion
28. rhoi gwybod am unrhyw anghywirdebau yn y ffynonellau gwybodaeth dechnegol a ddefnyddir i berson dynodedig
29. cwblhau a storio dogfennaeth y gwaith yn gywir ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy
30. rhoi gwybod am unrhyw niwed i gyfarpar neu ddeunyddiau ynghyd â diffygion i'r person dynodedig
31. rhoi gwybod am waith heb ei gwblhau a'r gwaith na ddylid ei amserlenni i'r person dynodedig
32. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth
amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
9. y peryglon posibl o bwysedd canolig, canolraddol neu uchel
Gosod Elfennau ac Asedau Peirianneg
10. polisi a gweithdrefnau sefydliadau er mwyn bodloni'r gofynion statudol perthnasol
Codau Ymarfer
11. y gweithdrefnau ar gyfer derbyn yr awdurdodiadau cywir a'u pwysigrwydd
12. y ffactorau sy'n effeithio ar addasrwydd cloddiadau a'r ffyrdd o'u cadarnhau
13. peryglon posibl mewn ffosydd a cheudyllau
14. y peryglon o gymryd camau gweithredu a allai achosi peryglon o ran mannau cyfyngedig mewn cloddiadau
15. pwysigrwydd defnyddio'r peiriannau, cyfarpar, deunyddiau a'r systemau cywir
16. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau ar gyfer peiriannau, cyfarpar, deunyddiau a systemau diffygiol
17. y diffygion sy'n gysylltiedig â'r dulliau a'r cyfarpar anghywir ar gyfer y gwaith gosod
18.yr amrywiaeth o ddulliau ynysu sydd ar gael a'r sail resymegol dros ddethol
19. pwysigrwydd cael y caniatâd priodol er mwyn ynysu unrhyw ran o'r rhwydwaith
20. yr amrywiaeth o gamau gweithredu y dylid eu cymryd os na ellir parhau â'r gwaith yn unol â'r amserlen
21. y ffyrdd o bennu'r camau adferol diogel priodol os na ellir parhau â'r gwaith
22. dulliau o gael gafael ar wybodaeth o ddogfennau cyfeirio, Rheoliadau, Codau Ymarfer
23. polisi a gweithdrefnau'r sefydliad er mwyn bodloni'r gofynion statudol perthnasol
Rheoliadau, Codau Ymarfer
24. y mathau ac achosion o oedi sy'n debygol a'r mesurau osgoi
25. y peryglon o ddiffyg gweithdrefnau codi a chario
26. y mathau ac arwyddion o ddiffygion sy'n debygol o fodoli ar is-system a'r ffyrdd o'u rhwystro'n gywir a chamau gweithredu diogel
27. pwysigrwydd cydymffurfio â safonau presennol y diwydiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC012
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith, nwy, asedau, elfennau