Deunyddiau wedi'u Uno drwy ddefnyddio Prosesau Ymdoddi Bôn mewn Gweithrediadau Afreolaidd ar gyfer Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC011
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol ar gyfer deunyddiau wedi'u huno ar gyfer gweithrediadau afreolaidd drwy ddefnyddio prosesau ymdoddi bôn â pheiriannau awtomatig a pheiriannau nad ydynt yn awtomatig, ar ddeunyddiau gwreiddiol â'r un statws SDR a math o bolymer. Gellid cynnal y broses o uno mewn pob tywydd a sicrhau ei bod yn cydymffurfio â safonau a manylebau'r diwydiant.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am reoli gwaith maes yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
1. paratoi ac uno gan ddefnyddio prosesau ymdoddi bôn
2. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
3. datrys problemau sy'n deillio o uno deunyddiau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Uno gan ddefnyddio technegau Ymdoddi Bôn
1. gweithio'n ddiogel a sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, amgylcheddol ac eraill
2. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. dethol gwirio a gwisgo'r cyfarpar diogelwch personol dynodedig
4. dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gwaith yn gywir ar gyfer paratoi ac uno
5. gwirio a chadarnhau bod y gwaith paratoi ar gyfer uno yn cydymffurfio â'r fanyleb ac yn bodloni'r gofynion ansawdd
6. gwirio bod y cyfarpar uno a chyfarpar a nwyddau traul cysylltiedig yn cyd-fynd â'r ffordd y cânt eu nodi ac yn addas at y diben
7. darparu diogelwch digonol ar gyfer y tywydd yn ystod y cylch uno cyfan.
8. cynnal gweithrediadau'r peiriannau a'u monitro yn unol â manylebau a chyfarwyddiadau'r gwaith
9. cwblhau'r gwaith o uno â bôn i'r ansawdd gofynnol a'r cywirdeb dimensiynol a nodir
10. dad-gysylltu gleiniau a chynnal y prawf sicrhau ansawdd cymeradwy ar y glain
11. sicrhau y gellir nodi'r uniad a'r glain drwy eu marcio yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
12. cau'r cyfarpar i gyflwr diogel ar ddiwedd y gweithgarwch uno
13. dilyn gweithdrefnau cymeradwy a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i reoli'r deunyddiau sy'n weddill ac sy'n wastraff ynghyd ag atodiadau dros dro.
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
14. dilyn yr holl weithdrefnau ac arferion cymeradwy ynghyd â'r gofynion statudol a rheoliadol sy'n ymwneud â'r gweithgarwch gwaith
15. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
16. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth uno
17. dilyn pob gweithdrefn weithredol a sefydliadol gymeradwy ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun
Datrys problemau sy'n deillio o uno deunyddiau
18. rhoi gwybod am unrhyw niwed i gyfarpar neu ddeunyddiau ynghyd â diffygion yn brydlon i'r person dynodedig
19. datrys y problemau o ddydd i ddydd o fewn maes cyfrifoldeb y swydd
20. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
21. dilyn gweithdrefnau'r cwmni yn syth mewn argyfwng
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
5. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
6. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith
Uno drwy ddefnyddio Prosesau Ymdoddi Bôn
7. gweithdrefnau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy'n berthnasol i'r gweithgarwch gwaith
8. gweithdrefnau codi a chario â llaw
9. codau ymarfer y diwydiant a gweithdrefnau'r cwmni
10. y rheswm dros allu uno pibellau sydd â manylebau tebyg yn unig
11. sut i ddehongli'r manylebau peirianneg perthnasol i'r gweithgarwch peirianneg
12. y camau gwahanol yn ystod o broses uno a'r pwysigrwydd o allugoi y caiff pob cam ei gwblhau
13. yr angen am gymorth pibellau ac alinio gan gynnwys goblygiadau cymorth gwael ac alinio anghywir
14. dwyseddau gwahanol ddeunyddiau pibellau a'u goblygiadau
15. y mathau gwahanol o ddeunyddiau pibellau a ddefnyddir a'u cydweddoldeb i'w huno
16. achos ac effeithiau posibl diffygion a halogi
17. gweithdrefnau cynnal a chadw, graddnodi cyfarpar, canlyniadau cynnal a chadw'n wael
18. y gweithdrefnau sicrhau ansawdd gwahanol y gellir eu defnyddio er mwyn nodi diffygion gan gynnwys profion dinistriol a phrofion nad ydynt yn ddinistriol
19. sut i lunio adroddiadau perfformiad technegau ymdoddi bôn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC011
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, ymdoddi bôn, uno