Uno Deunyddiau drwy Brosesau Ymdoddi Electronig ar gyfer Gweithrediadau Safleoedd ar Waith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC010
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol ar gyfer Uno deunyddiau drwy brosesau ymdoddi electronig, sy'n cynnwys defnyddio technegau awtomatig a thechnegau nad ydynt yn awtomatig. Dylid cynnal y broses o Uno mewn pob tywydd a sicrhau ei bod yn cydymffurfio â safonau a manylebau'r diwydiant.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys tair elfen;
1. uno deunyddiau yn defnyddio technegau Uno ar ffurf ymdoddi electronig
2. cau a chynnal gwiriadau ar ôl defnyddio cyfarpar uno
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Uno deunyddiau yn defnyddio technegau ymdoddi electronig
1. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
2. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg
3. darparu diogelwch digonol ar gyfer y tywydd yn ystod y cylch uno cyfan
4. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
5. gweithio'n ddiogel a sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, amgylcheddol ac eraill
6. dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau’r gwneuthurwr yn gywir er mwyn paratoi a chynnal yr uniadau
7. gwirio bod y cyfarpar uno a chyfarpar a nwyddau traul cysylltiedig yn cyd-fynd â'r ffordd y cânt eu nodi ac yn addas at y diben
8. cwblhau'r uniadau fel y'i nodir gan ddefnyddio'r dechneg gywir o uno ar ffurf ymdoddi electronig
9. gwirio ansawdd a chadarnhau bod yr uniadau yn cydymffurfio â'r safon a nodir ar gyfer yr uniadau a gwblhawyd
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer cau'r cyfarpar i gyflwr diogel ar ddiwedd y gweithgarwch uno
11. dilyn gweithdrefnau cymeradwy a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i reoli'r deunyddiau sy'n weddill ac sy'n wastraff ynghyd ag atodiadau dros dro
12. cadarnhau y caiff yr holl waith ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol a rheoliadol
Cau a chynnal gwiriadau ar ôl defnyddio cyfarpar uno
13. stopio cyfarpar uno yn ddiogel a chynnal gwiriadau ar ôl defnyddio'r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol
14. storio cyfarpar uno yn ddiogel
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
15. dilyn yr holl weithdrefnau ac arferion cymeradwy ynghyd â'r gofynion statudol a rheoliadol sy'n ymwneud â'r gweithgarwch uno
16. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
17. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
18. rhoi gwybod am unrhyw niwed i gyfarpar cyflenwi neu gyfarpar uno yn brydlon i'r person dynodedig.
19. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig
20. dilyn gweithdrefnau cymeradwy yn syth mewn argyfwng
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
Uno Deunyddiau drwy Brosesau Ymdoddi Electronig
9. deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol a gweithdrefnau amgylcheddol sy'n berthnasol i'r gweithgarwch uno
10. y goblygiadau diogelwch o'r gweithgarwch uno gan gynnwys agosrwydd at osodiadau eraill a chyfarpar atal llif
11. sut i ddehongli'r manylebau peirianneg perthnasol i'r gweithgarwch uno
12. sut i ddefnyddio cyfarpar uno yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
13. y mathau, meintiau a'r dwyseddau gwahanol o ddeunyddiau pibellau a'r defnydd a wneir ohonynt, dulliau uno ar gyfer pob un a'r peryglon posibl
14. y dilyniannau i'w cymryd yn ystod y broses uno a phwysigrwydd sicrhau y caiff pob cam ei gwblhau
15. yr angen am gynnal, alinio a rheoli pibellau yn ystod y gwaith uno gan gynnwys goblygiadau cynnal gwael ac alinio anghywir
16. achos ac effaith diffygion a halogi ar y pibellau neu'r gosodiadau
17. gofynion cynnal a chadw cyfarpar a graddnodi ynghyd â chanlyniadau cynnal a chadw'n wael
18. y gweithdrefnau sicrhau ansawdd y dylid eu defnyddio yn ystod ac ar ôl cwblhau'r gwaith o uno
19. sut i lunio adroddiadau perfformiad technegau ymdoddi electronig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC010
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, ymdoddi electronig, uno