Gweithredu Cyfarpar Pwer a Pheiriannau Symudol Bach ar gyfer Gweithrediadau Safleoedd ar Waith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC009
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd sydd ei angen er mwyn gweithredu cyfarpar pŵer ar gyfer gweithrediadau safleoedd ar Waith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy. Mae'r safon yn nodi arfer da tra'n defnyddio cyfarpar pŵer disymud, cyfarpar a reolir â llaw, cynnal gweithrediadau â chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pedair elfen:
1. paratoi cyfarpar pwer i'w defnyddio ar weithrediadau safleoedd ar waith adeiladu'r rhwydwaith nwy
2. cynnal a gweithredu cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
3. cau a chynnal gwiriadau ar ôl defnyddio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
4. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cyfarpar pŵer i'w defnyddio ar weithrediadau safleoedd ar waith adeiladu'r rhwydwaith nwy
1. defnyddio cyfarwyddiadau a manylebau gwaith er mwyn cadarnhau'r gweithrediadau sydd angen defnyddio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
2. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg
4. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
5. cynnal archwiliadau cyn cychwyn defnyddio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
6. cofnodi unrhyw ddiffygion yn y cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
7. cadarnhau bod cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach yn ddiogel, yn gywir ac yn barod i'w defnyddio yn unol â gofynion y gwaith
Cynnal a gweithredu cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
8. cynnal gweithdrefnau cychwyn a stopio i gadarnhau bod y swyddogaethau yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau rheoli diogel a chyfarwyddiadau gweithredu'r gwneuthurwr
9. gweithredu cyfarpar yn ddiogel yn unol â manylebau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r polisïau a’r gweithdrefnau cymeradwy
Cau a chynnal gwiriadau ar ôl defnyddio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
10. stopio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
11. cynnal gwiriadau ar ôl defnyddio'r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol
12. storio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach yn ddiogel
13. cadarnhau y caiff yr holl waith ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol a rheoliadol
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
14. cofnodi a rhoi gwybod am ddiffygion cyfarpar a diffygion yn eu perfformiad i'r person dynodedig
15. cofnodi a rhoi gwybod am ailosodiadau a gaiff eu nodi i'r person dynodedig
16. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
17. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
18. rhoi gwybod am niwed i gyfarpar i'r person dynodedig
19. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau statudol, sefydliadol a rhoi gwybod mewn argyfwng
Gweithio gyda Chyfarpar Pŵer a Pheiriannau Symudol Bach
9. y peryglon posibl i iechyd tra'n defnyddio cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach a'r camau sydd angen eu cymryd i reoli'r risg
10. sut i gynnal y rhagolygon diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y gweithrediadau yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
11. goblygiadau tarthau gwenwynig, llwch, deunyddiau peryglus a sŵn i chi eich hunain, eraill, gweithgarwch cyfagos, y cyhoedd a'r amgylchedd o'u hamgylch
12. sut i ddefnyddio'r technegau codi a chario cywir tra'n defnyddio offer pŵer a pheiriannau symudol bach
13. gofynion cyflogwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwiriadau rheolaidd a gwiriadau cyn defnyddio'r cyfarpar
14. sut i ddethol a defnyddio'r cyfarpar a'r peiriannau symudol bach priodol ar gyfer y gweithgarwch gwaith
15. y gofynion cymhwysedd ar gyfer gweithredu cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
16. arferion cydnabyddedig y diwydiant ar gyfer gweithgarwch y priod fasnach a'r gwaith adeiladu cyffredinol, gan gynnwys gofynion
Statudol presennol
17. argymhellion y gwneuthurwr ar gyfer gweithredu cyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bach
18. pwysigrwydd cynnal cyfarpar a pheiriannau symudol bach mewn cyflwr da a'r gweithdrefnau rhoi gwybod am ddiffygion
19. gweithdrefnau rheoli amgylcheddol a rhoi gwybod amdano
Cwmpas/ystod
Gweithdrefnau ac arferion cymeradwy - gweithdrefnau amgylcheddol, statudol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, iechyd a diogelwch, sefydliadol a'r cwmni ac asesiadau risg
Cyfarpar pŵer - Cyfarpar a reolir â llaw, cyfarpar symudol a disymud e.e. cywasgydd, generadur, pwmp dŵr, cywasgwr plât sy'n dirgrynu, rholeri ffosydd, llifiau palmentydd a ffyrdd; torrwr niwmatig/hydrolig, torwyr disgiau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
GNC009
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, cyfarpar pwer, cyfarpar