Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y
Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
5. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
6. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith
7. arferion cloddio diogel fel y nodir yn HSG47
8. y systemau rheoli sy'n gymwys ar gyfer rheoli diogelwch gweithio ar gloddiadau
Cloddio
9. y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r cymorth ar gyfer cloddiadau
10. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin yr amrywiaeth o gyfarpar cefnogi cloddiadau
11. y prif ddulliau o gloddio gan gynnwys cloddio â llaw a chloddio â pheiriannau
12. y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cloddio â llaw a chloddio â pheiriannau gan gynnwys cyfarpar a reolir â llaw a chyfarpar pŵer ynghyd â chyfarpar modur
13. y mathau o arwynebau ac is-arwynebau
14. y mathau o ddeunyddiau'r is-arwynebau a ddefnyddir ar gyfer arwynebau palmentydd gwahanol
15. prif ofynion statudol y gweithwyr sy'n ymwneud â'r gwaith cloddio o ran diogelwch personol, gweithgarwch cloddio, cymorth cyfarpar cyflenwi a'r cymorth ar gyfer y gwaith cloddio
16. yr angen am fanciwr cymwys wrth gwblhau gwaith cloddio â pheiriant
17. gofynion deddfwriaeth gan gynnwys darpariaethau statudol a rheoliadol
18. dethol, defnyddio a gofalu am gyfarpar a reolir â llaw a chyfarpar pŵer
19. gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gyfer cyfarpar a reolir â llaw a chyfarpar pŵer
20. y mathau o niwed i gyfarpar cyflenwi a allai godi wrth ddefnyddio arferion cloddio anghywir
21. y peryglon i ddiogelwch wrth ddefnyddio arferion cloddio anghywir
22. y canlyniadau posibl o weithgarwch cloddio anghywir
23. mathau a swyddogaeth y cyflenwadau gwahanol y gellir dod o hyd iddynt mewn gwaith cloddio, gan gynnwys cyfleustodau a chyfarpar asiantaeth eraill a gwasanaethau uwchben y ddaear, strwythurau adeiledig a rhinweddau naturiol
24. sut i nodi'r mathau gwahanol o gyflenwadau mewn gwaith cloddio
25. yr effaith bosibl o dywydd cyfnewidiol ar y gwaith cloddio
26. y canlyniadau posibl o fethu â gosod strwythurau cefnogi ffosydd cywir
27. pwysigrwydd yr economi wrth ddefnyddio cyfarpar pŵer a chyfarpar modur ar gyfer y gwaith cloddio
28. dulliau diogel o storio a gwaredu deunyddiau a allai beryglu'r amgylchedd
29. sut y gall deunyddiau anghywir niweidio'r cyfarpar cyflenwi neu'r is-strwythur, y costau i ail-wneud y gwaith a'r oedi i raglen y gwaith
30. sut y gall dulliau storio anghywir ar gyfer deunyddiau olygu nad ydynt yn addas i'w defnyddio ynghyd â goblygiadau cost yn dilyn hynny.
31. gweithdrefnau ac arferion cymeradwy yng nghyd-destun y gweithrediadau, y gweithgarwch gwaith a'r gweithlu
32. gweithdrefnau ac arferion y diwydiant ar gyfer gwaith cloddio gan gynnwys gofynion amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, gweithredol, cydymffurfiaeth ag iechyd, diogelwch â'r amgylchedd, gweithdrefnau'r cwmni ac asesiadau risg o fewn cylch gorchwyl dyletswydd yr ymgeisydd.
33. rolau a dyletswyddau pobl yn y tîm gweithrediadau'r safle/y ffordd fawr
34. strwythurau rheoli safle ar gyfer gweithrediadau safleoedd.
35. yr amgylchiadau lle y dylid atgyfeirio problemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb deiliad y swydd i'r bobl ddynodedig
36. cyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y
Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ar gyfer gwaith cloddio
37. y canllawiau iechyd a diogelwch sy'n llywodraethu'r gwaith cloddio
38. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin yr amrywiaeth o gyfarpar cloddio
39. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
40. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau
41. amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol a ddefnyddir ar waith cloddio
42. prif weithdrefnau ac arferion y diwydiant er mwyn pennu gofynion y safle ac adnoddau, gan gynnwys gofynion amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, gweithredol, cydymffurfiaeth ag Iechyd, Diogelwch â'r Amgylchedd, gweithdrefnau priodol y cwmni ac asesiadau risg o fewn cylch gorchwyl dyletswydd deiliad y swydd.
43. sut i adnabod man cyfyngedig a'r perygl y gall cloddiad fynd yn fan cyfyngedig, y peryglon cysylltiedig â'r gweithdrefnau i'w dilyn
44. pwysigrwydd defnyddio'r cyfarpar monitro awyrgylch priodol
45. gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am gynnydd y gwaith, problemau a gwyriadau i raglenni'r gwaith a'u cofnodi
46. dulliau paratoi gwahanol o ran cefnogi ffosydd, gan gynnwys dulliau gosod a gwirio
47. dulliau ac egwyddorion systemau cymorth ar gyfer cloddio gan gynnwys systemau pren, dalennau, mecanyddol, hydrolig a niwmatig
48. deunyddiau i'w defnyddio ar gyfer systemau cefnogi gwaith cloddio gan gynnwys pren, dalen fetel
49. yr amgylchiadau lle y mae'n rhaid gosod cyfarpar cefnogi gwaith cloddio
50. systemau cymorth ar gyfer cloddio ar gyfer dyfnderau cloddio a mathau gwahanol o bridd
51. systemau cefnogi gwaith cloddio ar gyfer cloddiadau a allai ymsuddo
52. achosion o ansefydlogrwydd mewn ardaloedd a gaiff eu cloddio, gan gynnwys mathau o bridd, presenoldeb dŵr daear, gollyngiadau o bibellau dŵr a draenio
53. sefyllfaoedd lle y mae angen defnyddio systemau pwmpio cloddiadau o bosibl
54. y peryglon a allai godi o weithio mewn cloddiadau heb system awyru naturiol neu gynorthwyol, o allanfeydd nwy a nwyon a gaiff eu cynhyrchu'n naturiol, cyfarpar cyflenwi niweidiol a niwed i gyfarpar electronig
55. y canlyniadau i ddiogelwch y gweithlu, cyfarpar cyflenwi, is-strwythurau eraill, cynnydd gwaith a'r gost os na chaiff uniondeb y gwaith cloddio ei gynnal