Lleoli ac Osgoi Cyfarpar Cyflenwi mewn Gweithrediadau Afreolaidd ar gyfer Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy

URN: EUS GNC006
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol ar gyfer lleoli ac osgoi cyfarpar cyflenwi mewn gweithrediadau afreolaidd drwy ddefnyddio dulliau chwilio a chanfod priodol, cadw cofnodion wedi'u diweddaru, nodi ac osgoi peryglon o achosi niwed i wasanaethau a pherygl i bersonél, a dilyn arferion gwaith diogel. Mae cyfarpar cyflenwi yng nghyd-destun y safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn cyfeirio at gyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill.

Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am reoli gwaith maes yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pedair elfen:
1. lleoli cyfarpar cyflenwi
2. cynnal diogelwch a chyfanrwydd cyfarpar cyflenwi
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth er mwyn lleoli a chynnal cyfarpar cyflenwi
4. datrys problemau sy'n deillio o weithgarwch gwaith


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Lleoli cyfarpar cyflenwi

1. defnyddio cyfarwyddiadau gwaith a dehongli cynlluniau cyfleustodau i bennu maint safle'r gwaith ac i sicrhau y gellir nodi'r cyfarpar cyflenwi
2. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. defnyddio tystiolaeth arwyneb, cyfarpar lleoliad electronig, tyllau prawf a lluniadau i sicrhau y gellir nodi'r cyfarpar cyflenwi
4. nodi'r safle a'r math o gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau ar safle'r gwaith yn unol â chyfarwyddiadau'r gwaith a Chodau Ymarfer statudol a rheoliadol
5. nodi'r perygl o niwed i gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau yn unol â Chodau Ymarfer statudol a rheoliadol
6. cofnodi safleoedd a'r mathau o gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion sefydliadol
7. cyfathrebu'r manylion ynglŷn â safle a'r math o gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion sefydliadol
8. rhoi gwybod am unrhyw wyriadau i safle'r cyfarpar a nodi unrhyw strwythurau a chyfarpar eraill yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion sefydliadol
9. cynnal yr holl waith yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol

Cynnal diogelwch a chyfanrwydd cyfarpar cyflenwi

10. cynnal safle a chyflwr y cyfarpar cyflenwi o fewn safle'r gwaith yn unol â'u manylebau a Chodau Ymarfer
11. sicrhau bod arferion gwaith o fewn safle'r gwaith yn osgoi difrod i'r cyfarpar cyflenwi
12. sicrhau bod cyfarpar cyflenwi ar ddangos wedi'u cefnogi'n addas a'u diogelu yn unol â'u manylebau ac yn ôl gweithdrefnau cymeradwy 
13. cymryd camau rhagofalus i ddiogelu personél a chyfarpar rhag effeithiau niwed i gyfarpar cyflenwi yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy 
14. sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â'r manylebau diweddaraf, rheoliadau statudol ac arferion a gweithdrefnau cymeradwy

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

15. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
16. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
17. dilyn pob gweithdrefn weithredol a sefydliadol gymeradwy ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun 

Datrys problemau sy'n deillio o weithgarwch gwaith

18. rhoi gwybod am unrhyw ddifrod i gyfarpar cyflenwi yn brydlon i'r person dynodedig a sicrhau bod y safle'n ddiogel
19. datrys y problemau o ddydd i ddydd o fewn maes cyfrifoldeb deiliad y swydd 
20. cynghori cydweithwyr neu reolwyr am sefyllfaoedd lle y mae angen iddynt ymyrryd 
21. atgyfeirio problemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb deiliad y swydd i'r bobl ddynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyffredinol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
5. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
6. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith

Cyfarpar Cyflenwi ac Is-strwythur

7. lleoliadau nodweddiadol a dyfnder yr amrywiaeth cyffredin o gyfarpar cyflenwi tanddaearol 
8. dulliau o nodi cyfarpar cyflenwi tanddaearol e.e. tâp adnabod
9. y math o berygl sy'n gysylltiedig â chyflenwadau gwahanol a'r camau i'w cymryd mewn achosion o niwed. 
10. hysbysu'r bobl neu'r sefydliadau mewn achos o ddifrod i gyfarpar cyflenwi neu strwythurau tanddaearol eraill 
11. dulliau nodi ar gyfer gwaith cloddio er mwyn sicrhau y defnyddir y lleoliad cywir ar gyfer y gwaith cloddio gofynnol.
12. goblygiadau nodi'r gwaith cloddio yn anghywir, gan gynnwys costau, colli amser a gwastraffu deunyddiau 
13. pwysigrwydd diogelu cyfarpar cyflenwi ar ddangos yn ystod gwaith cloddio
14. dulliau o ddarparu cymorth dros dro a pharhaol i ddiogelu cyfarpar cyflenwi ar ddangos yn ystod gwaith cloddio ar safleoedd
15. prif ffynonellau deddfwriaeth sy'n ymwneud â gweithrediadau ar y ffordd fawr sy'n agos i gyfarpar cyflenwi eraill
16. dulliau lleoli a nodi cyfarpar cyflenwi tanddaearol yn weledol, gan gynnwys marcwyr, arwyddion a nodweddion a defnyddio cofnodion sydd eisoes yn bodoli 
17. egwyddorion gweithredu a'r dulliau o ddefnyddio cyfarpar canfod electronig a'u cyfyngiadau 
18. y gweithdrefnau diogel ar gyfer trin yr amrywiaeth o gyfarpar sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r dasg dan sylw 
19. sut i ddehongli canlyniadau darlleniadau'r cyfarpar canfod electronig 
20. effeithiau posibl y dylanwadau allanol ar ddarlleniadau cyfarpar canfod electronig 
21. y sefyllfaoedd lle y gellir defnyddio tyllau prawf i leoli cyflenwadau tanddaearol 
22. y rheoliadau sy'n llywodraethu lleoliad y cyfarpar cyflenwi lle y caiff gwasanaethau eraill eu hamlygu 
23. goruchwylio'r rhagofalon yn ystod y gwaith o leoli'r cyflenwad, gan gynnwys gofynion statudol a rheoliadol
24. gweithdrefnau ac arferion y diwydiant er mwyn cadarnhau lleoliad a nodi cyfarpar cyflenwi 
25. rolau a chyfrifoldebau'r amrywiaeth o sefydliadau sy'n rhan o'r gwaith a sut i ymgysylltu â nhw'n llwyddiannus 
26. nodweddion ffisegol allweddol pibell neu elfen, maint (diamedr), lliw a deunydd y cyflenwad ynghyd â'i wrthiant i effeithiau gweithgareddau cloddio
27. y dulliau a ddefnyddir i nodi cyfleustodau a chyfarpar cyflenwi asiantaethau eraill 
28. nodweddion ffisegol y cynnwys a gaiff ei gario gan y cyfarpar cyflenwi, rhinweddau cynnau, y dwysedd o gymharu â'r aer, trydaniad a'r niwed a achosir gan ddŵr.
29. y peryglon o beidio â chynnal diogelwch a chyfanrwydd cyfarpar cyflenwi
30. effeithiau posibl o ddifrod i'r cyfarpar cyflenwi
31. goblygiadau'r niwed ar gyfarpar cyflenwi a allai gynnwys perygl personol i iechyd neu fywydau'r gweithwyr, neu i eraill ar y safle
32. goblygiadau'r difrod i gyfarpar cyflenwi a allai gynnwys niwed i'r amgylchedd neu gostau gwaith ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau ac oedi cynnydd y gwaith
33. gofynion Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd / y Gorchymyn yng Ngogledd Iwerddon 
34. pwysigrwydd darparu cymorth a diogelwch digonol ar gyfer cyfarpar cyflenwi 
35. pwysigrwydd atgyfeirio problemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i'r bobl ddynodedig
36. y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am gynnydd y gwaith, problemau a gwyriadau i raglenni'r gwaith a'u cofnodi


Cwmpas/ystod

​Cyfarpar cyflenwi - y cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill, gwasanaethau uwchben y ddaear a thanddaearol, strwythurau adeiledig a'r amgylchedd naturiol (e.e. sylfeini, gwreiddiau coed a chyrsiau dŵr naturiol)

Gweithdrefnau ac arferion cymeradwy – gweithdrefnau amgylcheddol, statudol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, iechyd a diogelwch, sefydliadol a'r cwmni ac asesiadau risg


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUS GNC006

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, lleoli, osgoi