Gosod Cyfarpar ar gyfer Gweithio'n Ddiogel mewn Gweithrediadau Afreolaidd ar y Ffordd Fawr yn ystod Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC004
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd gofynnol i ddilyn cyfarwyddiadau a manylebau gwaith er mwyn paratoi adnoddau a gwahanu ardaloedd ar gyfer gwaith afreolaidd ar y Ffordd Fawr Gyhoeddus. Mae'n gofyn am osod cyfarpar rheoli traffig dros dro sy'n addas ar gyfer y math o ffordd gerbydau a'r gwaith er mwyn diogelu'r personél, yr eiddo a'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am reoli gwaith maes yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys pedair elfen:
1. gosod arwyddion a goleuadau a gwarchod cyfarpar rheoli traffig yn unol â Chodau Ymarfer y diwydiant a deddfwriaeth bresennol
2. paratoi adnoddau ar gyfer gwaith ar y ffordd fawr
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
4. datrys problemau sy'n deillio o'r gwaith ar y ffordd fawr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gosod arwyddion a goleuadau a gwarchod cyfarpar rheoli traffig yn unol â Chodau Ymarfer y diwydiant a deddfwriaeth bresennol
1. lleoli'r ardal ar gyfer y gwaith ar y ffordd fawr a nodi'r math o ffordd gerbydau a'r gwaith.
2. cynllunio'r gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl eraill a cheisio osgoi anghyfleustra iddynt yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy.
3. cynnal asesiad risg penodol i'r safle er mwyn nodi peryglon ac i bennu'r amrywiaeth o arwyddion rheoli a chyfarpar diogelu sydd eu hangen ar gyfer y gwaith.
4. dethol, gwirio a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol penodol, gan gynnwys fest neu gôt gwelededd uchel
5. gosod arwyddion a goleuadau a gwarchod cyfarpar rheoli traffig yn ddiogel yn unol ag asesiad risg, codau ymarfer y diwydiant a deddfwriaeth bresennol.
6. tynnu pob cyfarpar rheoli oddi yno ar ôl cwblhau'r gwaith a'u storio a'u cynnal a chadw yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol.
7. cynnal yr holl waith yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol
8. cynnal diogelwch y safle lle nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau
Paratoi adnoddau ar gyfer gwaith ar y ffordd fawr
9. dethol y deunyddiau a'r cyfarpar ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau'r gwaith
10. cadarnhau bod cyflenwadau'r deunyddiau a'r cyfarpar yn addas ar gyfer gofyniad y gwaith, eu bod o'r ansawdd gofynnol a bod digon ohonynt ar gael
11. cynnal a chadw'r deunyddiau a'r cyfarpar wrth gael eu storio, yn unol â'r gofyniad gweithredol a sefydliadol
12. cynnal diogelwch deunyddiau a chyfarpar yn unol â'r gofynion gweithredol a sefydliadol
Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth
13. defnyddio'r cyfarwyddiadau a'r manylebau gwaith i bennu'r gofynion diogelwch ar gyfer ardal y gwaith ar y ffordd fawr ac i sicrhau y cydymffurfir â'r ddeddfwriaeth bresennol
14. defnyddio gweithdrefnau ac arferion cymeradwy drwy gydol y gweithgarwch gwaith i sicrhau y cydymffurfir â gofynion statudol
15. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
16. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
Datrys problemau sy'n deillio o'r gwaith ar y ffordd fawr
17. cofnodi a rhoi gwybod am ddiffygion, ailosodiadau neu gyfarpar ychwanegol sydd eu hangen i'r person dynodedig
18. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb deiliad y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus
5. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
6. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith
Gweithio'n ddiogel ar y ffordd fawr
7. prif ffynonellau gwybodaeth ar ofynion statudol ar gyfer rheoli'r gwaith ar y ffordd fawr
8. y mathau o arwyddion, goleuadau ac offer gwarchod
9. y mathau o gyfarpar rheoli traffig gan gynnwys arwyddion rhybudd, arwyddion blaenoriaeth, byrddau aros/mynd ac arwyddion traffig cludadwy
10. pwysigrwydd gwirio a rhoi gwybod am ddiffygion ar arwyddion, amddiffynwyr, goleuadau a systemau rheoli traffig a sicrhau y caiff cyfarpar diffygiol eu tynnu oddi yno
11. goblygiadau arwyddion, goleuadau, amddiffynwyr a dulliau rheoli traffig anghywir
12. dyluniad a diben pob arwydd a ddefnyddir i ddiogelu gwaith ar y ffordd fawr
13. gofynion gosod statudol er mwyn diogelu cyfarpar gan gynnwys arwyddion, goleuadau, amddiffynwyr a dulliau rheoli traffig o gymharu â'r amgylcheddau ac amodau gwahanol ar y ffordd fawr
14. dosbarthiadau'r brif ffordd, gan gynnwys ffyrdd cerbydau sengl a deuol
15. gofynion y dyluniad, gweithrediad a dulliau cynnal a chadw ar gyfer rheoli traffig gan gynnwys arwyddion rhybudd, arwyddion blaenoriaeth, byrddau aros/mynd ac arwyddion traffig cludadwy
16. gofynion rheoli traffig ar gyfer gwaith ar y ffordd fawr mewn gwahanol amodau
17. y gweithdrefnau a'r dilyniannau cywir er mwyn gosod cyfarpar rheoli traffig mewn gwahanol leoliadau gwaith
18. y gweithdrefnau cywir er mwyn symud cyfarpar rheoli traffig ynghyd â chynnydd y gwaith
19. pwysigrwydd sicrhau y cynhelir gwiriadau rheolaidd er mwyn diweddaru'r trefniadau ar gyfer arwyddion, goleuadau, amddiffynwyr a rheoli traffig wrth i ofynion newid ynghyd â chynnydd y gwaith
20. pwysigrwydd cynnal a chadw a glanhau arwyddion a goleuadau yn rheolaidd yn ystod y gwaith ar y ffordd fawr
21. gofynion ac argymhellion statudol ar gyfer yr arwyddion, goleuadau a gwarchod gwaith ar y ffordd fawr ar ffyrdd cerbydau sengl a deuol
22. amrywiaeth a diben y cyfarpar diogelwch personol a ddefnyddir yn ystod gwaith ar y ffordd fawr
23. pwysigrwydd gwirio a rhoi gwybod am ddiffygion mewn cyfarpar diogelu personol
24. prif weithdrefnau ac arferion y diwydiant er mwyn pennu gofynion y safle ac adnoddau, gan gynnwys gofynion amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, gweithredol, cydymffurfiaeth ag iechyd, diogelwch â'r amgylchedd, gweithdrefnau priodol y cwmni ac asesiadau risg o fewn cylch gorchwyl dyletswydd y swydd
25. y camau i'w cymryd mewn damwain neu argyfwng ar y ffordd fawr
26. y gweithdrefnau i alw'r gwasanaethau brys
27. y bobl a'r sefydliadau y mae'n ofynnol ymgysylltu â nhw ar weithrediadau ar y ffordd fawr
Cwmpas/ystod
Codau Ymarfer - statudol, rheoleiddiol, Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991
Gweithdrefnau ac arferion cymeradwy – gweithdrefnau amgylcheddol, statudol, rheoleiddiol, mewn argyfwng, iechyd a diogelwch, sefydliadol a'r cwmni ac asesiadau risg
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC004
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, gosod