Meithrin a Chynnal Cydberthnasau Gwaith Effeithiol ar Safleoedd Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
URN: EUS GNC003
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2017
Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen er mwyn meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith da mewn gweithrediadau safleoedd. Mae'n cynnwys meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gyda chydweithwyr, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau safleoedd yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys dwy elfen:
1. meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol
2. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth yn effeithiol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol
1. meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
2. ymateb i randdeiliaid mewnol ac allanol yn gwrtais a chadarnhaol
3. ymateb i geisiadau yn unol â'r paramedrau a'r amserlenni y cytunir arnynt
4. cydweithio ag eraill a chynnig cymorth iddynt pan fydd angen
5. ymateb i unrhyw broblemau yn unol â chyfyngiadau dyletswyddau'r swydd yn brydlon
6. atgyfeirio problemau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd
gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth yn effeithiol
7. dilyn gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol er mwyn cyfleu gwybodaeth i bobl eraill
8. sicrhau y caiff gwybodaeth ei rhannu â'r tîm a'u bod yn ei deall
9. cyfnewid a chofnodi gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau gweithredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyffredinol
1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
4. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
5. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith
Cydberthnasau Gwaith Cynhyrchiol
6. sut i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith gydag aelodau o'r tîm, rhanddeiliaid mewnol ac allanol
7. rolau a chyfrifoldebau pobl eraill sy’n ymwneud â’r gweithgarwch gwaith
8. sut i gydweithio â grwpiau ac unigolion sydd â rolau a dyletswyddau amrywiol
9. sut i adnabod problemau sy'n effeithio ar gydberthnasau gwaith a chynhyrchiant ac ymateb iddynt
10. ffyrdd o gyfathrebu gwybodaeth i aelodau o'r tîm, rhanddeiliaid mewnol ac allanol
11. y ddogfennaeth i'w defnyddio i gyfathrebu gwybodaeth i unigolion a grwpiau
12. y gweithdrefnau a'r camau gweithredu y dylid eu cymryd mewn argyfwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUS GNC003
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr
Cod SOC
8149
Geiriau Allweddol
nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, cydberthnasau