Cynnal Amgylchedd Gwaith Diogel yn Ystod Gweithrediadau Safleoedd ar Waith Adeiladu Rhwydwaith Nwy

URN: EUS GNC002
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud â sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel i weithio ynddo. 

Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau safleoedd yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r safon hwn yn cynnwys tair elfen:
1. cynnal iechyd a diogelwch eich hun ac eraill
2. cynnal diogelwch peiriannau, cyfarpar a'r amgylchedd gwaith
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynnal iechyd a diogelwch eich hun ac eraill

1. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle ar gyfer eich maes gwaith yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
2. defnyddio'r mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg penodol i'r safle
3. gweithio'n ddiogel gan sicrhau nad ydych yn peryglu eich hun, eraill na'r amgylchedd 
4. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol  ar gyfer y dasg
5. ymateb yn unol â'r maes cyfrifoldeb ac arferion a gweithdrefnau cymeradwy
6. dilyn gweithdrefnau'r cwmni yn syth mewn argyfwng  

Cynnal diogelwch peiriannau, cyfarpar a'r amgylchedd gwaith

7. sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas at y diben
8. gosod, paratoi a defnyddio peiriannau a chyfarpar yn ddiogel
9. sicrhau bod mynedfeydd ac allanfeydd yn ddiogel yn y lleoliadau gwaith
10. sicrhau bod cyfarpar iechyd a diogelwch mewn cyflwr da ac yn addas at y diben
11. atal personél heb awdurdod rhag cael mynediad at safle'r gwaith yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
12. cynnal diogelwch y safle drwy fonitro parhaus
13. defnyddio gweithdrefnau cymeradwy mewn argyfwng

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

14. dilyn gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol er mwyn cyfleu gwybodaeth i bobl eraill
15. cynnal cofnodion yn unol â'r gofynion gweithredol a sefydliadol
16. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
17. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
18. cyfnewid a chofnodi gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau gweithredol
19. rhoi gwybod am unrhyw sefyllfaoedd sy'n gofyn am ymyriad ychwanegol i'r person dynodedig
20. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyffredinol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg sy'n benodol i'r safle
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
9. y rheoliadau presennol ar gyfer dylunio a rheoli gwaith adeiladu a sut maent yn effeithio ar eich maes gwaith 

Cynnal Amgylchedd Diogel

10. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ar gyfer arferion gwaith diogel ar gyfer peiriannau, cyfarpar a'r amgylchedd gwaith
11. sut i sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas at y diben
12. sut i sicrhau bod mynedfeydd ac allanfeydd yn ddiogel yn y lleoliadau gwaith
13. sut i adnabod man cyfyngedig a'r perygl y gall lleoliad gwaith fynd yn fan cyfyngedig, y peryglon cysylltiedig â'r gweithdrefnau i'w dilyn
14. pwysigrwydd defnyddio mesurau rheoli ar gyfer y peryglon a nodwyd 
15. sut i fonitro diogelwch safle ac ymateb i unrhyw ymddygiad anniogel
16. gofynion sefydliadol ar gyfer storio cyfarpar diogelu personol a'i defnyddio'n ddiogel
17. gweithdrefnau cymeradwy mewn argyfwng
18. sut i wirio a dehongli gwybodaeth a dderbynnir ar gyfer cywirdeb, dilysrwydd ac ystyr a phwysigrwydd gwneud hynny 
19. pwysigrwydd dehongli a dilyn cyfarwyddiadau yn gywir 
20. pwysigrwydd cadarnhau dealltwriaeth o'r cyfarwyddiadau a dderbynnir ac a roddir
21. dulliau o gofnodi gwybodaeth ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfrifiadurol 
22. gwybodaeth sydd angen ei rhoi i eraill yn ymwneud ag iechyd a diogelwch y safle
23. ffynonellau gwybodaeth a sut i gael gafael arnynt
24. pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir ar ffurf sy'n addas at y diben ac o fewn yr amserlenni a nodwyd 
25. diben trywyddau archwilio data a sut i'w cadw a'u cynnal 
26. polisïau cyfrinachedd y sefydliad


Cwmpas/ystod

​Arferion gwaith - unrhyw weithgareddau, gweithdrefnau, defnydd o ddeunyddiau neu gyfarpar a thechnegau gwaith a ddefnyddir er mwyn cyflawni eich gwaith 

Pobl ddynodedig - y bobl hynny a nodir yng ngweithdrefnau iechyd a diogelwch y gwaith


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUS GNC002

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy