Creu Amgylchedd Gwaith Effeithlon ac Effeithiol ar gyfer Gweithrediadau Safleoedd ar Waith Adeiladu Rhwydwaith Nwy

URN: EUS GNC001
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn diffinio'r cymhwysedd sydd ei angen er mwyn creu amgylchedd gwaith effeithlon ac effeithiol lle y caiff gweithrediadau eu cynnal. 

Mae'r safon hwn yn gymwys i'r rheini sy'n gyfrifol am weithrediadau safleoedd yn ystod gwaith adeiladu'r rhwydwaith nwy. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cynnwys arwain a chyfarwyddo aelodau'r tîm a gwneud penderfyniadau ar y dull gweithredu a ddefnyddir wrth ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
1. gweithio'n effeithlon yn unol â gweithdrefnau'r diwydiant
2. trefnu gwaith eich hun a gwaith eraill ynghyd â chynnal safonau
3. defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Gweithio'n effeithlon yn unol â gweithdrefnau'r diwydiant

1. cynnal asesiad risg ac adolygiad sy'n benodol i'r safle yn unol â gweithdrefnau'r cwmni 
2. dethol, gwirio cyflwr, defnyddio a storio'r cyfarpar diogelwch personol priodol
3. trefnu gwaith a'r ardal weithredol yn drefnus er mwyn lleihau'r peryglon 
4. storio a defnyddio deunyddiau ac offer gwaith yn unol â gofynion y gwaith a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
5. cynnal a chadw cyfarpar yn barod i'w defnyddio a'u storio mewn mannau dynodedig pan fydd eu hangen 

Trefnu gwaith eich hun a gwaith eraill ynghyd â chynnal safonau

6. trefnu gwaith i gydymffurfio â chyfarwyddiadau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
7. defnyddio dulliau gwaith yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gwneud y gorau o amser
8. cydlynu gwaith eich hun gyda gweithgarwch personél a gweithgarwch cysylltiedig eraill 
9. atgyfeirio awgrymiadau i wella'r dulliau gwaith i berson dynodedig eu cadarnhau a chytuno ar y camau i'w cymryd 
10. cyflawni'r holl waith i'r safonau y cytunwyd arnynt ac yn unol â'r fanyleb a'r polisi sefydliadol
11. cytuno ar unrhyw wyriadau i safonau neu fanyleb gyda pherson dynodedig cyn ymgymryd â'r gwaith
12. gwirio gwaith eich hun a gwaith personél eraill er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r safonau penodol
13. atgyfeirio unrhyw waith a allai effeithio ar ddiogelwch neu'r amgylchedd yn andwyol i berson dynodedig
14. diddymu a gwaredu gwastraff a deunyddiau sy'n weddill yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
15. cadarnhau y caiff yr holl waith ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a'r gofynion statudol
16. gadael y safle mewn cyflwr diogel a glân

Defnyddio a chyfathrebu data a gwybodaeth

17. dilyn gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol er mwyn cyfleu gwybodaeth i bobl eraill
18. cadw cofnodion yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol
19. gwirio unrhyw amgylchiadau lle y mae'r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda'r personél dynodedig
20. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
21. cyfnewid a chofnodi gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau gweithredol 
22. rhoi gwybod am unrhyw sefyllfaoedd sy'n gofyn am ymyriad ychwanegol i'r person dynodedig 
23. atgyfeirio problemau ac amodau nad ydynt yn rhan o gyfrifoldeb y swydd i berson dynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gweithio'n effeithlon ac effeithiol

1. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan
Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
a sut i gydymffurfio â nhw
2. prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut i gynnal asesiadau risg sy'n benodol i'r safle a'u hadolygu
4. llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefel awdurdod y cwmni
5. nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. gweithdrefnau cofnodi a chyflwyno adroddiadau am ddamweiniau sefydliadol
7. yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer y gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod y cyfarpar yn addas at y diben
8. gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
9. gweithdrefnau ac arferion cymeradwy yng nghyd-destun y gweithrediadau, y gweithgarwch gwaith ac amgylchedd y gweithlu sy'n cwmpasu gweithdrefnau amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, argyfwng, gweithredol a phriodol y cwmni
10. arferion y diwydiant a gofynion y cwmni ar gyfer y gweithgarwch gwaith o fewn cylch gorchwyl y ddeiliadaeth
11. gofynion deddfwriaethol gan gynnwys unrhyw drwyddedu, neu ardystio neu archwilio ar gyfer y gweithgarwch gwaith
12. y gweithdrefnau a'r camau gweithredu y dylid eu cymryd mewn argyfwng
13. rhinweddau deunyddiau gwaith, y rhai sy'n beryglus a'r rhai nad ydynt yn beryglus, sy'n berthnasol i'r gweithgarwch gwaith
14. prif nodweddion ffisegol yr amrywiaeth o ddeunyddiau a ddefnyddir mewn gweithrediadau gwaith, sut y gall amodau'r tywydd effeithio arnynt a sut y gellir eu diogelu
15. trin yr amrywiaeth o ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer y gweithgarwch gwaith yn ddiogel
16. y mathau o gyfarpar a ddefnyddir gyda'r gweithrediad a'r gweithgarwch gwaith, gan gynnwys cyfarpar a reolir â llaw a chyfarpar pŵer ar gyfer gweithgareddau cyffredinol a phenodol
17. y trefniadau gweithredol a sefydliadol, mannau dynodedig a gweithdrefnau gwaith ar gyfer storio cyfarpar 
18. dulliau o drin a storio deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
19. y dulliau cyfathrebu perthnasol a ddefnyddir yn y gweithgarwch gwaith
20. technegau codi a thrin diogel ar gyfer yr amrywiaeth o gyfarpar a deunyddiau 
21. y gofyniad a'r manylebau gwaith, gan gynnwys y dulliau a'r safonau gwaith, a'r amserlen i'w gwblhau  
22. y categorïau a'r defnydd o ddeunyddiau yn y gweithgarwch gwaith, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddir er mwyn cwblhau'r gwaith a'r deunyddiau sy'n ymddangos o ganlyniad i'r gwaith 
23. yr argymhellion ar gyfer trin, storio a gwaredu deunyddiau gweddilliol neu wastraff o ganlyniad i'r gweithrediadau gwaith, gan gynnwys adfer deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio
24. sut i gasglu gwybodaeth o gynlluniau, amserlenni a rhaglenni gwaith 
25. y prosesau a'r dilyniant o ddigwyddiadau ar gyfer y gweithgarwch gwaith
26. y gwaith paratoi gofynnol, gan gynnwys sicrhau bod darpariaethau diogelwch a diogelwch ar y safle ar waith 
27. y gweithdrefnau er mwyn sicrhau y caiff y safle ei adael yn ddiogel a glân
28. gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer cwblhau'r gweithgarwch gwaith
29. y dulliau gwaith a rheoli ansawdd a ddefnyddir ar gyfer y gweithgarwch gwaith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSGNC001

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinwyr Tîm Nwy, Crefftwyr a Thechnegwyr

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

nwy, rhwydwaith, rhwydwaith nwy, diogel