Cadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid prosiect
URN: ECIPMA2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Prosiect
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2012
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid prosiect. Swyddogaeth a gyflawnir yn barhaus yw hon.
Gall rhanddeiliaid prosiect fod yn fewnol neu’n allanol i’r sefydliad ac maent yn cynnwys noddwyr, cleientiaid, cwsmeriaid a phob grŵp/unigolyn perthnasol mewn perthynas â’r prosiect.
Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Rheoli Prosiect (PMNOS) yn seiliedig ar y cylch bywyd rheoli prosiect canlynol:
A. Sefydlu ac arwain tîm y prosiect, a gweithio gyda rhanddeiliaidB. Diffinio a chychwyn y prosiectC. Datblygu’r cynllun rheoli prosiectD. Cyflenwi’r prosiectE. Cau ac adolygu’r prosiect
Mae’r safon hon yn rhan o faes A ‘Sefydlu ac arwain tîm y prosiect, a gweithio gyda rhanddeiliaid’.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. rhoi cyfleoedd addas i randdeiliaid prosiect gyfrannu at gyfathrebu
2. cyflwyno'r wybodaeth yn y ffyrdd a’r fformatau mwyaf priodol i’r rhanddeiliaid prosiect dan sylw
3. sicrhau bod y rhanddeiliaid prosiect yn cael gwybodaeth amserol a pherthnasol sy’n gyson â’r cynllun cyfathrebu
4. sicrhau bod yr wybodaeth yn bodloni anghenion y rhanddeiliaid prosiect, gan gynnal lefelau cyfrinachedd gofynnol
5. mynd ati i geisio ac asesu gwybodaeth gan randdeiliaid prosiect a allai effeithio ar weithrediad y prosiect
6. cynnal y cynllun cyfathrebu i fodloni anghenion y prosiect
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. cyd-destun y prosiect
2. gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol perthnasol
3. y rhesymau pam mae angen rhoi gwybod yn llawn ac yn barhaus i randdeiliaid prosiect am gynnydd prosiect
4. y dulliau y ceir eu defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid prosiect, a sut mae dewis dulliau priodol
5. sut mae cyflwyno gwybodaeth sy’n berthnasol i ofynion, perthnasoedd a disgwyliadau rhanddeiliaid prosiect
6. sut mae rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid
7. ym mha ffyrdd y gallai’r rhanddeiliaid prosiect newid yn ystod y prosiect
8. sut mae defnyddio sgiliau dylanwadu a chyd-drafod
9. pwysigrwydd cadw cyfrinachedd
10. gweithdrefnau ac arferion sefydliadol perthnasol ar gyfer cyfathrebu â rhanddeiliaid
11. sut mae cynnal cynlluniau cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Rhanddeiliaid:
1. Noddwyr
2. Cleientiaid neu gwsmeriaid
3. Grwpiau/unigolion perthnasol sydd â diddordeb yn y prosiect
4. Grwpiau/unigolion perthnasol y mae’r prosiect yn effeithio arnynt
5. Grwpiau/unigolion perthnasol a allai effeithio ar y prosiect
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynllun cyfathrebu
*
*
Dogfen sy’n nodi pa wybodaeth sydd i’w chyfathrebu â phwy, pam, pryd, ble, sut, drwy ba gyfrwng, a’r effaith ddymunol.
Cyd-destun y prosiect
*
Ymddengys yr ymadrodd hwn yn yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ac mae’n berthnasol i gyd-destun ehangach y prosiect y bydd angen i’r unigolyn wybod amdano, fel amgylchedd y prosiect, y berthynas â rhaglen waith ehangach a sut mae’r prosiect yn cydredeg â strategaethau sefydliadol.
Yn y sector y mae’r rheolwr prosiect yn gweithio ynddo (e.e. y diwydiannau datblygu meddalwedd, adeiladu, gweithgynhyrchu neu broses) bydd ei gyd-destun penodol ei hun a bwriedir i’r ymadrodd hwn gyfleu’r ystyr hon.
Dylanwadu
Dylanwadu yw’r weithred o effeithio ar ymddygiad a gweithredoedd eraill.
Cyd-drafod*
Cyd-drafod yw trafod rhwng dau neu ragor o bartïon gyda’r nod o ddod i gytundeb.
Prosiect
Ymgais unigryw, dros dro at gyflawni amcanion a gynlluniwyd.
Rhanddeiliaid
Gall rhanddeiliaid prosiect fod yn fewnol neu’n allanol i’r sefydliad, gan gynnwys noddwyr, cleientiaid, cwsmeriaid a phob grŵp/unigolyn perthnasol mewn perthynas â’r prosiect.
*Rheoli rhanddeiliaid *
Rheoli rhanddeiliaid yw’r dull systematig o nodi, dadansoddi, cynllunio a gweithredu camau wedi’u cynllunio i ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Engineering Construction Industry Training Board
URN gwreiddiol
ECIPMA2
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Prosiect, Uwch Reolwr Prosiect, Rheolwr Prosiect Tîm, Rheolwr Prosiect/Gweithredu
Cod SOC
1123
Geiriau Allweddol
Rheoli prosiect, rheoli rhanddeiliaid, cyfathrebu