Gosod systemau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau

URN: COSVR98
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Cladio (Adeiladu),Gweithrediadau Atgywerio ac Adnewyddu Aml-grefft Cynnal a Chadw Adeiladau
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag atgyweirio systemau gorchuddio a chladio ar waliau a thoeau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau cladin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

*
*

P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhaglen
  • gosod llinellau a lefelau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • strategaeth ar gyfer gosod
  • cynllun arolygu a phrofi
  • taflen wirio
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)


Arferion gwaith diogel

*
*

**P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach yn gysylltiedig a'r canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, gan gynnwys cyfarpar PPE
  • defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos
  • sicrhau llwythi a deunyddiau
  • dadlwytho a dosbarthu
  • nodi amodau tywydd garw


Dewis
adnoddau
*
*

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

  • deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
  • offer a chyfarpar
  • cyfarpar mynediad


Lleihau'r
risg o ddifrod
*
*
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • cymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol


Bodloni
gofynion y contract
*
*
P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy’r canlynol:

  • dangos sgiliau gwaith i symud, newid, adnewyddu ac atgyweirio
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
  • nodi ac atgyweirio’r diffygion canlynol mewn systemau gorchuddio a chladio yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir:

-  gollyngiadau
-  cyddwysiad
-  gorchuddion a chydrannau wedi’u difrodi
-  mân ddiffygion cotiau arwynebau
-  seliau plwm sydd wedi'u difrodi neu sydd ar goll

Amser
a neilltuwyd
*
*

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gwybodaeth y contract, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill 




Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth



K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith


K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhaglen
  • gosod llinellau a lefelau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • strategaeth ar gyfer gosod
  • cynllun arolygu a phrofi
  • taflen wirio
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
  • gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig
  • sesiynau cynefino ar safleoedd
  • deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy’n rheoli adeiladau
  • canllawiau swyddogol sy’n gysylltiedig ag atgyweirio gorchuddion a chladin ar systemau waliau a thoeau

K3  yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio

K4  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn


P2
Arferion gwaith diogel

K5  gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso i’r canlynol:

  • damweiniau posibl
  • peryglon i iechyd a’r amgylchedd
  • aelodau o’r cyhoedd
  • mewn mannau cyfyng
  • ar uchder
  • offer a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau
  • codi a chario
  • codi mecanyddol
  • cyfarpar mynediad mecanyddol

K6  y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn, powdr

K7  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau
  • gollyngiadau
  • anafiadau
  • cwympo
  • gweithdrefnau achub
  • gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
  • difrod i’r strwythur, yr adeilad neu’r tir presennol

K8  gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, ynglŷn â’r canlynol:

  • gweithiwr
  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • cwsmer
  • y cyhoedd
  • deunyddiau

K9  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesu risg
  • sesiad risg personol gan gynnwys asesiad meddygol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • COSHH
  • tywydd
  • ardal waith

K10  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11  egwyddorion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer atal

K12  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)


K13  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle ynglŷn â’r canlynol:

  • lleoedd cyfyng
  • ar uchder
  • offer a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
  • cyfarpar mynediad mecanyddol
  • difrod amgylcheddol
  • llygredd

P3 Dewis
adnoddau


K14  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K15  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion

K16  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb a’r lluniadau

K17  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • gosodiadau, caewyr, seliau plwm, ffitiadau, stopwyr a systemau gwahanu
  • pilenni inswleiddio, rheoli anwedd a gwahanu a philenni anadladwy
  • paent preimio, deunyddiau glanhau, tapiau selio, deunydd selio a llenwadau
  • dalennau metel a thryleu a systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd, decin a sment ffibr
  • cafnau dŵr ac ati
  • offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
  • cyfarpar digidol

K18  sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain mewn perthynas â’r canlynol:

  • asesu risg
  • dulliau gweithio

K19  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer atgyweirio systemau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau

P4
Lleihau'r risg o ddifrod

**
K20  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, aelodau'r cyhoedd, galwedigaethau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod i ffabrig presennol yr adeilad

K21  pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • cyfrifoldebau cyfreithiol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • asesiadau risg
  • datganiadau dull
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K22  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5
Bodloni manyleb y contract

K23  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • sut mae nodi gofynion ansawdd gosod
  • sut mae bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
  • sut mae cadarnhau meini prawf atgyweirio a gosod y gwneuthurwr
  • sut mae nodi diffygion gan gynnwys gollyngiadau a chyddwysiad, dalennau a chydrannau sydd wedi’u difrodi, diffygion cotiau arwynebau, seliau plwm sydd wedi’u difrodi ac sydd ar goll
  • sut mae symud ac adfer deunyddiau diffygiol
  • sut mae atgyweirio cydrannau gorchuddio
  • sut mae tynnu a newid deunyddiau gorchuddio a chladio, cydrannau, ffitiadau, gosodiadau a seliau plwm sydd wedi’u difrodi, ar goll ac yn anghywir
  • sut mae dod o hyd i ffynhonnell y gollyngiadau a’r cyddwysiad
  • sut mae delio â dŵr sy’n gollwng a chyddwyso ac atal hynny
  • sut mae archwilio, profi, atgyweirio a newid nwyddau dŵr glaw
  • sut mae nodi a sicrhau cyfanrwydd uniadau a gorgyffyrddiadau
  • sut mae trin diffygion cotiau arwynebau
  • sut mae defnyddio selwyr a llenwadau i sicrhau bod seliau’n aerglos ac yn dal dŵr
  • sut mae gosod a newid inswleiddiad, pilenni anadlu a haenau rheoli anwedd
  • sut mae adnabod y gwahaniaethau rhwng deunyddiau gorchuddio a chladio ar gyfer toeau a waliau
  • sut mae gwirio ansawdd ac addasrwydd y gwaith ar ôl ei gwblhau ac ar ddiwedd pob cyfnod gweithio
  • sut mae nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
  • sut mae gweithio o blatfformau gweithio symudol sy’n codi
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
  • sut mae gweithio gydag aelodau’r cyhoedd ac o’u cwmpas
  • sut mae gosod a chynnal man gweithio diogel ar wahân
  • sut mae gosod a chynnal mynedfeydd ac allanfeydd diogel o’r man gweithio
  • deall a gosod yr arwyddion rhybudd cywir ar gyfer aelodau’r cyhoedd
  • sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel
  • sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
  • pam mae gweithrediadau a symud offer a pheiriannau yn ddiogel yn sicrhau diogelwch a gwarchodaeth i’r amgylchedd gweithio
  • sut mae rheoli ac arwain gweithrediadau a symudiadau offer a pheiriannau er mwyn sicrhau bod amgylchedd gweithio diogel yn cael ei ddiogelu
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar gwaith a phŵer yn cael eu cynnal a’u cadw

K24  pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, gweithdrefnau sefydliadol ynglŷn ag ymddygiad ar y safle a sut mae herio ymddygiad amhriodol

K25  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag atgyweirio gorchuddio a chladio ar doeau a waliau


P6
Amser a neilltuwyd

K26  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a gynlluniwyd ac a amcangyfrifwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser

K27  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a gynlluniwyd a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith*
*

**

**


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR98

Galwedigaethau Perthnasol

Toi gyda Llechi a Theils, Toewyr

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Diffygion haenau arwyneb; Sment ffibr; Seliau plwm; Tapiau selio; Gollyngiadau; Cladin