Adnewyddu neu amnewid gorchuddion a chladin ar doeau neu waliau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnewyddu neu amnewid gorchuddion a chladin ar doeau neu waliau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau cladin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, gan gynnwys cyfarpar PPE
- defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
- sicrhau llwythi a deunyddiau
- dadlwytho a dosbarthu
- nodi amodau tywydd garw
Dewis
adnoddau
P3 dewis meintiau ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio yn unol â'r strategaeth osod
- deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
- offer a chyfarpar
- cyfarpar mynediad
risg o ddifrod
- cymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
gofynion y contract
- dangos sgiliau gwaith i adnabod, gwirio, mesur, marcio allan, torri, symud, glanhau, newid, alinio, lleoli, gosod a selio
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
- paratoi adnoddau a chefndiroedd i adnewyddu, stripio, ail-ddalennu neu ail-gladio, gorchuddion a chladin ar doeau neu waliau yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r systemau canlynol:
- adeiledig
- sêm sefyll
- gosodiadau cudd
- paneli cyfansawdd
- sment ffibr
a neilltuwyd
ac a neilltuwyd yn unol â gwybodaeth y contract, y rhaglen waith ac i ddiwallu
anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam y datblygwyd gweithdrefnau’r sefydliad a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig
- sesiynau cynefino ar safleoedd
- deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
- canllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion a chladin
K3 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
K4 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae'n cael ei chymhwyso i'r canlynol:
- damweiniau posibl
- peryglon i iechyd a'r amgylchedd
- aelodau o'r cyhoedd
- mewn mannau cyfyng
- ar uchder
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau
- codi a chario
- codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
K6 y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn, powdr
K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau
- gollyngiadau
- anafiadau
- cwympo
- gweithdrefnau achub
- gweithgareddau galwedigaethol
- nodi deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
- difrod i'r strwythur, yr adeilad neu'r tir presennol
K13 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle ynglŷn â'r canlynol:
- lleoedd cyfyng
- ar uchder
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
- difrod amgylcheddol
- llygredd
Dewis adnoddau
**
K15 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb a’r lluniadau
K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:
- gosodiadau, caewyr, seliau plwm, ffitiadau, stopwyr a systemau gwahanu
- pilenni inswleiddio, rheoli anwedd a gwahanu a philenni anadladwy
- paent preimio, deunyddiau glanhau, tapiau selio, deunydd selio a llenwadau
- dalennau metel a thryleu a system adeiledig, semau sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd, decin a sment ffibr
- cafnau dŵr ac ati
- offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- cyfarpar digidol
K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain mewn perthynas â’r canlynol:
- asesu risg
- dulliau gweithio
- amgylcheddau gwaith byw gydag aelodau o’r cyhoedd
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, aelodau'r cyhoedd, galwedigaethau eraill, tywydd garw a sut mae lleihau difrod i ffabrig presennol yr adeilad
K21 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- cyfrifoldebau cyfreithiol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- asesiadau risg
- datganiadau dull
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
Bodloni manyleb y contract
K23 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- sut mae nodi gofynion ansawdd gosod
- sut mae bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
- sut mae cadarnhau meini prawf gosod y gwneuthurwr
- sut mae nodi'r meini prawf ar gyfer symud deunyddiau ac ail-gladio sy'n cynnwys sylweddau peryglus, gan gynnwys asbestos heb drwydded
- sut mae gwirio pa mor gyfredol yw’r calibro ar gyfer offer lefelu
- sut mae cynnal cyfanrwydd arwynebau cefndir a waliau cefndir
- sut mae paratoi cefndiroedd a waliau cefndir ar gyfer systemau gorchuddio a chladio newydd (newydd neu wedi’u hailgylchu)
- sut mae nodi, adnabod a gweithio yn unol â llinellau grid a marciau datwm
- sut mae paratoi gorchuddion toeau a waliau presennol ar gyfer ail-gladio
- sut mae tynnu gorchuddion toeau a waliau presennol er mwyn ail-orchuddio
- sut mae rhoi deunyddiau glanhau a phaent preimio ar waith
- sut mae inswleiddio, selio tapiau, gwirio anwedd a philenni gwahanu
- sut mae asesu pa mor addas yw strwythurau a gorchuddion to presennol i dderbyn deunyddiau newydd
- sut mae gosod ac alinio cynhyrchion, addasu gosodiadau, stopwyr, bylchwyr, clipiau, ffitiadau, dalennau a deunyddiau cladin
- sut mae ffitio a gosod deunyddiau newydd
- sut mae ffurfio a siapio cydrannau ar gyfer uwchstandiau, allwthiadau a threiddiadau
- sut mae adnabod y gwahaniaethau rhwng deunyddiau gorchuddio a chladio ar gyfer toeau a waliau
- sut mae gwirio ansawdd ac addasrwydd y gwaith ar ôl ei gwblhau ac ar ddiwedd pob cyfnod gweithio
- sut mae nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
- sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
- sut mae gweithio o blatfformau gweithio symudol sy’n codi
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
- sut mae gweithio gydag aelodau’r cyhoedd ac o’u cwmpas
- sut mae gosod a chynnal man gweithio diogel ar wahân.
- sut mae gosod a chynnal mynedfeydd ac allanfeydd diogel o’r man gweithio
- deall a gosod yr arwyddion rhybudd cywir ar gyfer aelodau’r cyhoedd
- sut mae trin, storio a gwaredu deunyddiau a chydrannau sydd wedi cael eu symud
- sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- sut mae gweithio mewn mannau uchel
- sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
- pam mae gweithrediadau a symud offer a pheiriannau yn ddiogel yn sicrhau diogelwch a gwarchodaeth i’r amgylchedd gweithio
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar gwaith a phŵer yn cael eu cynnal a’u cadw
K24 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, gweithdrefnau sefydliadol ynglŷn ag ymddygiad ar y safle a sut mae herio ymddygiad amhriodol
K25 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag adnewyddu ac amnewid gorchuddion a chladin ar doeau a waliau
Amser a neilltuwyd
**
K27 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a gynlluniwyd a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith*
*