Gosod nwyddau dŵr glaw ar orchuddion a chladin ar doeau a waliau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod nwyddau dŵr glaw ar orchuddion a chladin ar doeau a waliau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau toi a chladin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli'r wybodaeth am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach yn gysylltiedig a'r canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, gan gynnwys cyfarpar PPE
- defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
- sicrhau llwythi a deunyddiau
- dadlwytho a dosbarthu
- nodi amodau tywydd garw
Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
- deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
- offer a chyfarpar
- cyfarpar mynediad
risg o ddifrod
**
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod ar gyfer y gwaith a'r ardal o'i gwmpas drwy:
- cymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion drwy'r canlynol:
- dangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, torri, llinellu a lefelu, addasu, ffitio, gosod a sicrhau
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
gosod y nwyddau dŵr glaw canlynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir:
- allfeydd
- bracedi, gosodiadau a chynheiliaid
- cafnau, peipiau glaw ac onglau
- deunydd selio a gasgedi
- cafnau wedi'u leinio â philen
- darnau gorffen, griliau, gardiau, caeadau
- gorlifoedd, swmpau ac allfeydd
a neilltuwyd
ac a neilltuwyd yn unol â gwybodaeth y contract, y rhaglen waith ac i ddiwallu
anghenion galwedigaethau eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig
- sesiynau cynefino ar safleoedd
- deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
- canllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod nwyddau dŵr glaw
**
K3 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
K4 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
Arferion gwaith diogel
- damweiniau posibl
- peryglon i iechyd a’r amgylchedd
- mewn mannau cyfyng
- ar uchder
- gydag offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau
- codi a chario
- codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
- gwaith poeth
K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau
- gollyngiadau
- anafiadau
- cwympo
- gweithdrefnau achub
- gweithgareddau galwedigaethol
- nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
- gweithiwr
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- cwsmer
- y cyhoedd
K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesu risg
- asesiad risg personol gan gynnwys asesiad meddygol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- COSHH
- tywydd
- ardal waith
k10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
k11 egwyddorion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer atal
K12 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal ynglŷn â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K13 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle ynglŷn â’r canlynol:
- lleoedd cyfyng
- ar uchder
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
- difrod amgylcheddol
- llygredd
P3 Dewis adnoddau**
K14 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K15 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd a chyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb a’r lluniadau
K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:
- bracedi, gosodiadau a chynheiliaid
- cafnau, peipiau, peipiau glaw ac onglau
- deunydd selio a gasgedi
- cafnau wedi’u leinio â philen
- darnau gorffen, griliau, giardiau, hidlenni a chloriau
- gorlifoedd, swmpau ac allfeydd
- offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- cyfarpar digidol
- cyfarpar mynediad
K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain mewn perthynas â’r canlynol:
- asesu risg
- dulliau gweithio
Lleihau'r risg o ddifrod**
K21 pam a sut mae'n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â'r canlynol
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- cyfrifoldebau cyfreithiol
- gweithdrefnau'r sefydliad
- asesiadau risg
- datganiadau dull
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K22 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy'n ymwneud â'r canlynol:
- sut mae deall y broses sicrhau ansawdd a gofynion y cynllun archwilio a phrofi
- sut mae bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
- sut mae cadarnhau meini prawf gosod y gwneuthurwr
- sut mae adnabod datwm, llinell a lefel
- sut mae delio â deunyddiau ac adnoddau sy'n anghywir ac wedi'u difrodi
- sut mae lleoli, gosod a sicrhau bracedi a chynhaliadau
- sut mae gosod cafnau, peipiau glaw ac onglau sympiau, allfeydd a gorlifoedd
- sut mae cynnal cyfanrwydd arwynebau ar gyfer cafnau wedi'u leinio â philen
- sut mae gosod deunyddiau a chydrannau, darnau gorffen, gardiau dail, deunyddiau selio a gasgedi
- sut mae gwirio ansawdd ac addasrwydd ym mhob man cadw
- sut mae nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
- sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladau anodd eu trin, adeiladwaith traddodiadol (cyn -1919) ac arwyddocâd hanesyddol
- sut mae gweithio o blatfformau gweithio symudol sy'n codi
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
- sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- sut mae gweithio mewn mannau uchel
- sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
- pam mae gweithrediadau a symud offer a pheiriannau yn ddiogel i sicrhau diogelwch a gwarchodaeth i'r amgylchedd gweithio
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar gwaith a phŵer yn cael eu cynnal a'u cadw
K24 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, gweithdrefnau sefydliadol ynglŷn ag ymddygiad ar y safle a sut mae herio ymddygiad amhriodol ar y safle
K25 sut a phryd y dylid cynnal a chadw offer a chyfarpar mewn perthynas ag offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar cysylltiol
P6 Amser a neilltuwyd
K26 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a gynlluniwyd ac a amcangyfrifwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
K27 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a gynlluniwyd a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith