Gosod systemau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod systemau gorchuddio a chladio ar waliau a thoeau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau toi a chladin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli'r wybodaeth am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach yn gysylltiedig a'r canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, gan gynnwys cyfarpar PPE
- defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, gwastraff, pecynnau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
- sicrhau llwythi a deunyddiau
- dadlwytho a dosbarthu
- nodi amodau tywydd garw
adnoddau
P3 dewis meintiau ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio yn unol â'r strategaeth osod
- deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
- offer a chyfarpar
risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod ar gyfer y gwaith a'r ardal o'i gwmpas drwy:
- cymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
gofynion y contract
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion drwy'r canlynol:
- dangos sgiliau i fesur, gosod allan, addasu, alinio, lefelu, plymio, ffitio, gosod a gorffen
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
- gosod deunyddiau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau gan gynnwys seliau plwm, agoriadau, fentiau, uwchstandiau, allwthiadau a threiddiadau'n unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r systemau canlynol:
- adeiledig
- sêm sefyll
- gosodiadau cudd
- paneli cyfansawdd
- sment ffibr
a neilltuwyd
ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, y rhaglen waith ac i
ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig
- sesiynau cynefino ar safleoedd
- deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
- canllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod systemau gorchuddio a chladio
K3 yr amrediad o wasanaethau, offer a systemau digidol
perthnasol a sut a pham maent yn cael eu defnyddio
K4 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
P2 Arferion gwaith diogel
**
**
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae'n cael ei chymhwyso i'r canlynol:
- damweiniau posibl
- peryglon i iechyd a'r amgylchedd
- mewn mannau cyfyng
- ar uchder
- gydag offer a chyfarpar
- symud a storio deunyddiau
- codi a chario
- codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
K6 y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn, powdr
K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau
gollyngiadau
anafiadau
- cwympo
- gweithdrefnau achub
- gweithgareddau galwedigaethol
- nodi deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
K8 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, ynglŷn â'r canlynol:
- gweithiwr
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- cwsmer
- y cyhoedd
K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesu risg
- asesiadau risg personol
- sesiwn gynefino ar safle
- gweithdrefnau'r sefydliad
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
Diogelwch ar gyfer atal
rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal
K13 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle ynglŷn â'r canlynol:
- lleoedd cyfyng
- ar uchder
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
Dewis adnoddau
K14 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd a chyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K15 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K17 sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:
- gosodiadau, ffasnyddion, seliau plwm, ffitiadau, cysylltyddion, systemau gwahanu a chlipiau
- pilenni inswleiddio, rheoli anwedd a gwahanu a philenni anadladwy
- deunyddiau selio a llenwi
- gorchuddion metel a thryleu a systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd, decin a sment ffibr
- offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- cyfarpar digidol
- asesu risg
- dulliau gweithio
sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gosod systemau gorchuddio a
chladio ar doeau a waliau
Lleihau'r risg o ddifrod
difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle,
galwedigaethau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod i ffabrig
presennol yr adeilad
K21 pam a sut mae'n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â'r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- cyfrifoldebau cyfreithiol
- gweithdrefnau'r sefydliad
- asesiadau risg
- datganiadau dull
- gwybodaeth gwneuthurwyr
glir a thaclus
Bodloni manyleb y contract
K23 sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy'n ymwneud â'r canlynol:
- sut mae nodi gofynion ansawdd gosod
- sut mae cydymffurfio â manylebau y cytunwyd arnynt
- sut mae cydymffirfio â meini prawf gosod y gwneuthurwr
- sut mae nodi, adnabod a gweithio yn unol â llinellau grid a marciau datwm
- sut mae lleoli a sicrhau gosodiadau, cysylltyddion, darnau gwahanu, clipiau, ffitiadau a dalennau
- sut mae delio ag adnoddau a deunyddiau gorchuddio a chladio sy'n anghywir ac wedi'u difrodi
- sut mae gosod systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd a sment ffibr
- sut mae gosod decin a phaneli strwythurol
- sut mae cynnal cyfanrwydd arwynebau, cefndiroedd, dalennau a phaneli
- sut mae gosod a sicrhau fentiau
- sut mae inswleiddio
- sut mae mesur, torri, ffitio, siapio a gosod deunyddiau seliau plwm
- sut mae gosod dalennau tryleu a deunyddiau rheoli cyddwysiad ac anwedd
- sut mae ffurfio a siapio cydrannau agoriadau, fentiau, uwchstandiau, allwthiadau a threiddiadau
- sut mae sicrhau cyfanrwydd uniadau, gorgyffyrddiadau a rhyngwynebau
- sut mae defnyddio deunyddiau selio a llenwi i sicrhau bod seliau'n ddwrglos ac yn aerglos
- sut mae gwirio ansawdd ac addasrwydd y gwaith ar ôl ei gwblhau ac ar ddiwedd pob cyfnod gweithio
- sut mae nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
- sut mae gweithio o blatfformau gweithio symudol sy'n codi
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
- sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- sut mae gweithio mewn mannau uchel
- sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
- pam mae gweithrediadau a symud offer a pheiriannau yn ddiogel yn sicrhau diogelwch a gwarchodaeth i'r amgylchedd gweithio
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar gwaith a phŵer yn cael eu cynnal a'u cadw
gysylltiedig â gosod systemau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau
Amser a neilltuwyd**
yr amser a gynlluniwyd ac a amcangyfrifwyd a pham y dylid cadw at derfynau
amser
amseroedd a gynlluniwyd a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am
amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith