Paratoi adnoddau ar gyfer gosod deunyddiau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi adnoddau ar gyfer gosod deunyddiau gorchuddio a chladio ar doeau a waliau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau toi, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli'r wybodaeth am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- strategaeth ar gyfer gosod
- cynlluniau arolygu a phrofi
- taflen wirio
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Arferion
gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach yn gysylltiedig a'r canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
- sicrhau llwythi a deunyddiau heb eu gosod
- dadlwytho a dosbarthu
- nodi amodau tywydd garw
Dewis adnoddau
P3 dewis meintiau ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio yn unol â'r strategaeth osod
- deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
- offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod, yn unol â'r cynllun archwilio a phrofi ar gyfer y gwaith a'r ardal o'i gwmpas drwy wneud y canlynol:
- cymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni
gofynion y contract
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion drwy'r canlynol:
- dangos sgiliau gwaith i nodi, gwirio, mesur, marcio allan, torri, paratoi a lleoli
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
- paratoi adnoddau ar gyfer gosod, gan gynnwys deunyddiau gorchuddio a chladio, gosodiadau, seliau plwm, cydrannau toeau a waliau a chyfarpar cysylltiedig, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r systemau canlynol:
- adeiledig
- sêm sefyll
- gosodiadau cudd
- paneli cyfansawdd
- sment ffibr
a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a gynlluniwyd
ac a neilltuwyd yn unol â gwybodaeth y contract, y rhaglen waith ac i ddiwallu
anghenion galwedigaethau eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau'r sefydliad ac arferion gweithio diogel wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhaglen
- gosod llinellau a lefelau
- amserlenni
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gwneuthurwyr
strategaeth ar gyfer gosod
cynllun arolygu a phrofi
- taflen wirio
- gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig
- sesiynau cynefino ar safleoedd
- deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
- canllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â pharatoi adnoddau ar gyfer gosod gorchuddion a chladin
K3 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
K4 pwysigrwydd gwybodaeth y contract o ran datrys problemau gyda'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
P2 Arferion gwaith diogel
**
**
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae'n cael ei chymhwyso i'r canlynol, gan gynnwys y rhain ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- damweiniau posibl
- peryglon i iechyd a'r amgylchedd
- mewn mannau cyfyng
- ar uchder
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau
- codi a chario
- codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
K6 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad a hyfforddiant o ran y canlynol:
- tanau
- gollyngiadau
- anafiadau
- cwympo
- gweithdrefnau achub
- gweithgareddau galwedigaethol
- nodi deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesu risg
- asesiadau risg personol
- gweithdrefnau'r sefydliad
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- tywydd
- ardal waith
- taflen ddata diogelwch am ddeunyddiau
**
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 egwyddorion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer atal
K10 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal ynglŷn â'r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- dirgrynu llaw a braich (HAVS)
K11 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â'r canlynol:
- rheoli gwastraff
- gweithio mewn mannau uchel
- offer a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
- cyfarpar mynediad mecanyddol
P3 Dewis adnoddau**
K12 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K13 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K15 sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:
- gosodiadau a bachau, seliau plwm, ffitiadau, stopwyr a systemau gwahanu
- pilenni inswleiddio, rheoli anwedd a gwahanu a philenni anadladwy
- deunyddiau selio a llenwi
- dalennau metel a thryleu a systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd, decin a sment ffibr
- offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- cyfarpar codi
- cyfarpar digidol
K16 sut mae nodi'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain mewn perthynas â'r canlynol:
- asesu risg
- dulliau gweithio
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K17 dulliau
o wirio a monitro’r ansawdd a’r hyd sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn
ar gyfer paratoi adnoddau ar gyfer gosod deunyddiau gorchuddio a chladio ar
doeau a waliau
P4 Lleihau'r risg o ddifrod**
**
K18 sut mae diogelu gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod i ffabrig presennol yr adeilad
K19 pam a sut mae'n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â'r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- cyfrifoldebau cyfreithiol
- gweithdrefnau'r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
**
**
K21 sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy'n ymwneud â'r canlynol:
- sut mae nodi gofynion ansawdd gosod
- sut mae bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
- sut mae cadarnhau meini prawf gosod y gwneuthurwr
- sut mae gwirio adnoddau o ran math, nifer a difrod ac adrodd am anghysondebau
- sut mae delio â adnoddau a deunyddiau gorchuddio a chladio sydd wedi'u difrodi ac yn anghywir ar doeau a waliau
- sut mae adnabod mathau a nodweddion dalennau cladin gan gynnwys croen sengl, sinwsoidaidd (rhychiog), trapesoidaidd (bocs) a phroffiliau sment ffibr, systemau wedi'u hinsiwleiddio â dau groen neu ddwbl, sêm sefyll, systemau panel cyfansawdd (panel rhyngosod), decin a decin strwythurol, ail-gladio neu symud goruchudd sy'n cynnwys asbestos
- sut mae nodi rhannau o orchuddion toeau a waliau, gan gynnwys naddion top a gwaelod, coron, gwe, cafn neu badell
- sut mae adnabod mathau, nodweddion a ffyrdd o ddefnyddio cynhyrchion a systemau cladin gan gynnwys systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, panel cyfansawdd, sment ffibr ac ail-gladio neu symud gorchudd sy'n cynnwys asbestos
- sut mae adnabod y gwahaniaethau rhwng deunyddiau gorchuddio a chladio ar gyfer toeau a waliau
- sut mae mesur, marcio a thorri gorchuddion a chladin
- sut mae addasu a lleoli gosodiadau, stopwyr, bylchwyr, clipiau a ffitiadau
- sut mae nodi, adnabod a gweithio yn unol â llinellau grid a marciau datwm
- sut mae paratoi, alinio a lleoli adnoddau yn barod iw' gosod: adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, panel cyfansawdd, sment ffibr ac ail-gladio neu symud gorchudd sy'n cynnwys asbestos
- sut mae gwirio ansawdd ac addasrwydd y gwaith ar ôl ei gwblhau ac ar ddiwedd pob cyfnod gweithio
- sut mae nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
- sut mae deall symudiad thermol mewn deunyddiau alwminiwm
- sut mae gweithio o blatfformau gweithio symudol sy'n codi
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
- sut mae dadlwytho mathau o ddeunydd yn ddiogel a'u dosbarthu i atal anaf a difrod
- sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
- sut mae gweithio mewn mannau uchel
- sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
- pam mae gweithrediadau a symud offer a pheiriannau yn ddiogel yn sicrhau diogelwch a gwarchodaeth i'r amgylchedd gweithio diogel
- sut mae nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar gwaith a phŵer yn cael eu cynnal a'u cadw
**
P6 Amser a neilltuwyd
**
**
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a gynlluniwyd ac a amcangyfrifwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a gynlluniwyd a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a allai effeithio ar y rhaglen waith