Gosod decin ar gyfer gorchuddion to fflat
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod decin ar gyfer gorchuddion to fflat. Mae’n cynnwys deciau ar gyfer gweithio ar do newydd neu waith ail-doi.
 
Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl, a gweithio o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol asffalt mastig a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
•   lluniadau
•   manylebau
•   rhestrau
•   asesiadau risg
•   datganiadau dull
•   cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
•   gwybodaeth y gwneuthurwr
Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith, a chynnal systemau gwaith diogel yn ymwneud â’r canlynol:
•   dulliau gweithio
•   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
•   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
•   defnyddio, storio, a thrin deunyddiau, offer, a chyfarpar yn ddiogel
•   risgiau penodol a nodwyd drwy asesiad risg neu yn ystod y gwaith
•   risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant
Dewis adnoddau
P3  dewis y maint cywir o adnoddau ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
•   deunyddiau
•   cydrannau a gosodiadau
•   offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod posibl i'r gwaith, yr ardal o’i gwmpas, a’r amgylchedd drwy wneud y canlynol:
•   diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
•   cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
•   cael gwared â deunyddiau gwastraff yn unol â gweithdrefnau’r safle a'r ddeddfwriaeth gyfredol.
Bodloni manyleb y contract
P5  cydymffurfio â gwybodaeth y contract i osod decin ar gyfer gorchuddion to fflat yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
•   dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- paratoi’r ardal
 - torri deunyddiau i’r maint cywir
 - ffitio, gosod a rhoi’r deunyddiau yn eu lle yn ôl yr angen
• defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar
• gosod deciau to pren wedi’u bordio neu ddeciau metel un haen wedi’u bordio yn unol â’r cyfarwyddiadau gwaith ar gyfer y canlynol: - ffurfio manylion uwchstand perimedr gan gynnwys byrddau metel, pren, smentaidd a byrddau gronynnau
 - creu goleddfau yn unol â’r fanyleb
 - ffurfio allfeydd, agoriadau, a threiddiadau a gwirio pwyntiau datwm cyn eu gosod yn eu lle
 
Dull gweithio
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion pobl eraill ac anghenion y cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
•   lluniadau
•   manylebau
•   rhestrau
•   asesiadau risg
•   datganiadau dull
•   gwybodaeth y gwneuthurwr
•   gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig ar gyfer delio â deunyddiau ac adnoddau sydd wedi’u difrodi ac sy’n anaddas
•   deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy’n rheoli adeiladau
K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro
K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
P2 Arferion gwaith diogel
K5  gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso
K6  y gwahanol fathau o gyfarpar diffodd tân a sut a pha bryd mae defnyddio'r rhain mewn perthynas â:
•   dŵr
•   CO2
•   ewyn
•   powdr
K7  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
•   tanau, gollyngiadau ac anafiadau
•   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
•   nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
K8  gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
•   gweithiwr
•   safle
•   gweithle
•   cwmni
•   cerbydau
•   cwsmer
•   y cyhoedd
•   peiriannau
K9  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
•   dulliau gweithio
•   asesiad risg
•   asesiad personol
•   gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
•   rheoliadau statudol
•   canllawiau swyddogol
•   Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a damweiniau a fu bron a digwydd a phwy sy'n gyfrifol am lunio’r adroddiad
K11 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
•   mesurau diogelu ar y cyd
•   cyfarpar diogelu personol (PPE)
•   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
•   awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol
K13 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
•   yn y gweithle
•   dan lefel y ddaear
•   mewn mannau cyfyng
•   mewn mannau uchel
•   gydag offer a chyfarpar, gan gynnwys cyfarpar peiriannau
•   gyda deunyddiau a sylweddau peryglus
•   wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K14 pam mae cyfyngiadau, cynaliadwyedd, a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K15 pam dewiswyd yr adnoddau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio
K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cyd-fynd â’r dasg benodol
K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
•   byrddau gronynnau
•   pren haenog
•   pren
•   dalennau metel un haen
•   gosodiadau a chydrannau ategol
•   offer a chyfarpar
•   cyfarpar digidol
K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain
K19 dulliau o gyfrifo’r niferoedd, yr hyd, a’r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gosod decin ar gyfer gorchuddion to fflat
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith, yr ardal o’i gwmpas a’r amgylchedd rhag difrod posibl, a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, crefftau eraill a thywydd garw
K21 sut mae lleihau difrod i adeiledd presennol yr adeilad
K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
•   cyfrifoldebau amgylcheddol
•   gweithdrefnau’r sefydliad
•   gwybodaeth y gwneuthurwr
•   canllawiau safle
K23 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
K24 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
•   sut mae gosod is-haenau decin metel a phren
•   sut mae creu goleddfau gan gynnwys gwirio’r fanyleb a’r arolygon i wneud yn siŵr eich bod wedi gosod y trawslathau a’r distiau ar y graddiannau cywir
•   sut mae ffurfio allfeydd, agoriadau a threiddiadau gan gynnwys gwneud yn siŵr bod eitemau a enwir yn cael eu marcio a’u gosod ar y pwyntiau datwm cywir cyn eu gosod yn eu lle
•   sut mae ffurfio manylion uwchstand perimedr metel, pren a smentaidd
•   pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y dec yn ddiogel ac yn addas i’r diben er mwyn derbyn pwysau’r system asffalt mastig a osodir
•   pwysigrwydd cyfyngiadau sy'n ymwneud â gosod decin ar gyfer gorchuddion to fflat ar adeiladau hanesyddol ac adeiladau rhestredig
•   pam ei bod yn bwysig nodi a dilyn gofynion ansawdd y gosodiad
•   pryd i ofyn am gyngor arbenigol
•   terfynau eich awdurdod eich hun
•   sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
•   sut mae gweithio mewn mannau uchel
•   sut i ddefnyddio cyfarpar sicrhau mynediad a diogelwch
•   pwysigrwydd diogelu ymylon, gweithdrefnau ymyl flaen, rhwydi diogelwch, deciau gwrthdaro a harneisi
•   sut mae defnyddio offer a chyfarpar
•   sut a pham y mae’r gweithiwr yn gofalu am yr holl offer a chyfarpar ac yn eu cynnal a’u cadw
K25 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu
K26 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles
K27 pwysigrwydd defnyddio tegwch, cynhwysiant a pharch wrth ddelio ag eraill
K28 anghenion crefftau eraill sy’n gysylltiedig â gosod decin ar gyfer gorchuddion to fflat
P6 Dull gweithio
K29 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser