Paratoi arwynebau ar gyfer asffalt mastig

URN: COSVR89
Sectorau Busnes (Suites): Asffalt Mastig (Adeiladu)
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi arwynebau ar gyfer asffalt mastig. Mae’n cynnwys gwneud gwaith adfer ar gontractau newydd a chontractau adnewyddu. Gall hyn olygu gwirio’r arwyneb am unrhyw ddiffygion lle bydd yr asffalt mastig yn cael ei osod a phreimio’r arwyneb i baratoi ar gyfer gosod asffalt mastig.
 
Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl, a gweithio o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol asffalt mastig a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
• gwybodaeth y gwneuthurwr

Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith, a chynnal systemau gwaith diogel yn ymwneud â’r canlynol:
• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio, a thrin deunyddiau, offer, a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol a nodwyd drwy asesiad risg neu yn ystod y gwaith
• risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant

Dewis adnoddau
P3 dewis y maint cywir o adnoddau ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau
• cydrannau a gosodiadau
• offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod posibl i'r gwaith, yr ardal o’i gwmpas, a’r amgylchedd drwy wneud y canlynol:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• cael gwared â deunyddiau gwastraff yn unol â gweithdrefnau’r safle a'r ddeddfwriaeth gyfredol.

Bodloni manyleb y contract
P5 cydymffurfio â’r wybodaeth yn y contract i baratoi arwynebau ar gyfer asffalt mastig yn effeithlon gan gadw at y fanyleb ofynnol drwy:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

  • mesur a marcio meintiau cilfachau
  • glanhau a thorri uniadau
  • ffitio, gosod a diogelu eitemau ategol
  • glanhau a sychu is-haenau ac arwynebau
    • defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar
    • paratoi’r canlynol i dderbyn asffalt mastig yn ôl y cyfarwyddiadau gwaith:
  • is-haenau
  • paent preimio penodol
    • gwneud gwaith adfer i lenwi tyllau a gwagleoedd gyda morter, deunydd inswleiddio neu bren

Dull gweithio
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion pobl eraill ac anghenion y cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig ar gyfer delio â deunyddiau ac adnoddau sydd wedi’u difrodi ac sy’n anaddas
• deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy’n rheoli adeiladau

K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro

K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio

P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso

K6 y gwahanol fathau o gyfarpar diffodd tân a sut a pha bryd mae defnyddio'r rhain mewn perthynas â:
• dŵr
• CO2
• ewyn
• powdr

K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt

K8 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• gweithiwr
• safle
• gweithle
• cwmni
• cerbydau
• cwsmer
• y cyhoedd
• peiriannau

K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a damweiniau a fu bron a digwydd a phwy sy'n gyfrifol am lunio’r adroddiad

K11 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol

K13 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
• yn y gweithle
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• ar y briffordd
• gydag offer a chyfarpar, gan gynnwys cyfarpar peiriannau a nwy
• gyda deunyddiau a sylweddau peryglus
• wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau
K14 pam mae cyfyngiadau, cynaliadwyedd, a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion

K15 pam dewiswyd yr adnoddau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio

K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cyd-fynd â’r dasg benodol

K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• inswleiddiad
• paentiau preimio
• tapiau uno
• pren
• is-haenau metel a smentaidd
• cyfarpar digidol
• offer rheoli traffig dros dro
• offer a chyfarpar

K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau, a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain

K19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, metrau sgwâr, a chanran bosibl y gwastraff, sy’n gysylltiedig â’r dull a’r weithdrefn ar gyfer paratoi arwynebau ar gyfer asffalt mastig

P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith, yr ardal o’i gwmpas a’r amgylchedd rhag difrod posibl, a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, crefftau eraill a thywydd garw

K21 sut mae lleihau difrod i adeiledd presennol yr adeilad

K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• canllawiau safle

K23 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract
K24 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
• sut mae glanhau a sychu arwynebau
• sut mae gwneud gwaith adfer i arwynebau presennol drwy lenwi tyllau a gwagleoedd gyda morter, deunydd inswleiddio a phren
• sut mae gosod deunyddiau inswleiddio
• sut mae gosod fentiau, hatshys mynediad, a fentiau mwg
• sut mae gosod ffenestri to
• sut mae defnyddio paent preimio
• pam ei bod yn bwysig defnyddio’r paent preimio penodol
• sut mae gosod haenau rheoli aer ac anwedd (AVCLs)
• pwysigrwydd cyfyngiadau sy'n ymwneud â pharatoi arwynebau ar adeiladau hanesyddol ac adeiladau rhestredig
• pam ei bod yn bwysig nodi a dilyn gofynion ansawdd y gosodiad
• pryd i ofyn am gyngor arbenigol
• terfynau eich awdurdod eich hun
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut mae gweithio mewn mannau uchel
• sut mae defnyddio cyfarpar a systemau mynediad
• sut mae defnyddio offer a chyfarpar
• sut a pham y mae’r gweithiwr yn gofalu am yr holl offer a chyfarpar ac yn eu cynnal a’u cadw
• sut mae defnyddio systemau a chyfarpar rheoli traffig dros dro

K25 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu

K26 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles

K27 pwysigrwydd defnyddio tegwch, cynhwysiant a pharch wrth ddelio ag eraill

K28 anghenion crefftau eraill sy’n gysylltiedig â pharatoi arwynebau ar gyfer asffalt mastig

P6 Dull gweithio
K29 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR89

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC

2020

Geiriau Allweddol

Is-haenau; paent preimio; tâp uniadu